Dyn yn cyfaddef lladd menyw 48 oed yn ei chartref

Michael DaviesFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Michael Davies ei gyhuddo o lofruddio Tracey Davies yn ôl ym mis Ebrill eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 56 oed wedi cyfaddef lladd menyw yn ei chartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd Tracey Davies, 48, ei chanfod yn farw mewn eiddo ar Bryn Terrace yn ardal Cefn Cribwr ar 18 Ebrill eleni.

Fe gafodd Michael Davies, dyn lleol 56 oed, ei arestio yn y fan a'r lle.

Yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth fe blediodd yn euog i ddynladdiad, ond mae'n gwadu llofruddiaeth ar sail cyfrifoldeb lleiedig.

Cafodd yr achos ei ohirio tan 3 Hydref er mwyn casglu rhagor o adroddiadau seiciatrig.

Tracey DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tracey Davies ei darganfod yn farw mewn eiddo yng Nghefn Cribwr ar 18 Ebrill

Mewn teyrnged ym mis Ebrill, dywedodd teulu Ms Davies ei bod hi'n "fam ffyddlon", oedd yn "falch iawn" o'i phlant.

Cafodd ei disgrifio fel "chwaer annwyl, ffrind ffyddlon, â phresenoldeb disglair, gyda chwerthiniad a fyddai'n llenwi pob ystafell".