Arddangos gwaith celf gan 'deulu' gweithdai dementia

Mae John a Kathleen Griffiths yn dweud eu bod yn edrych ymlaen bob wythnos i'r gweithdai celf
- Cyhoeddwyd
Mae casgliad o waith celf sydd wedi'i greu gan deuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan dementia yn cael ei arddangos yn gyhoeddus.
Ers saith mlynedd mae criw o bobl yn dod yn wythnosol i stad a gerddi Erddig, ger Wrecsam, i gymryd rhan yn y gweithdai celf.
Mae'r sesiynau wedi'u dylunio i helpu pobl sy'n byw â dementia a'u teuluoedd.
Un sydd wedi mynychu'n rheolaidd ers eu sefydlu ydy John Griffiths, sy'n 93 oed ac yn byw ym Mangor-is-y-Coed.
Mae'r cyn-beiriannydd wedi bod yn cael problemau gyda'i gof ers rhyw 12 mlynedd yn sgil trawiad ar ei galon.
Sylwodd ei deulu ei fod yn ailadrodd ei hun yn aml, ac ar ôl misoedd o brofion cafodd ddiagnosis o dementia 10 mlynedd yn ôl.
John a Kathleen Griffiths yn trafod apêl y gweithdai
Dywedodd ei wraig Kathleen, sy'n 87 oed ac yn wreiddiol o Lanrhystud, Ceredigion, fod bywyd adref yn gallu bod yn heriol wrth iddi ofalu amdano, ond "fod dim i fod â chywilydd ohono".
Ychwanegodd bod darganfod meddyginiaeth oedd yn helpu ei symptomau wedi bod yn brofiad anodd wrth i John ddioddef o hunllefau.
Ond tra bod hwyliau John yn gallu amrywio oherwydd ei gyflwr, dywedodd bod y ddau yn mwynhau ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at y dosbarthiadau wythnosol.
"Mae'n rhaid symud o gwmpas rhaid?" ychwanegodd John. "Waeth i chi heb ag eistedd yn y tŷ a phendwmpian.
"'Da chi'n edrych ymlaen [bob wythnos] i gwrdd hefo nhw [y dosbarth] mewn ffordd.
"Mae 'na griw hyfryd yma... mae'n arbennig."

Mae Margaret Roberts (canol) yn arwain y dosbarthiadau ers saith mlynedd
Ychwanegodd Kathleen, a oedd yn arfer gweithio fel nyrs: "Does dim iws i chi ond i eistedd i lawr, mae gofyn mynd a defnyddio'ch breichiau a choesau a phob peth, a chymysgu.
"'Da ni'n chwerthin lot hefo Margaret [arweinydd y dosbarthiadau], mae hi'n ardderchog.
"Hwn sy'n codi'n calonnau ni i ddweud y gwir... dod allan i lefydd fel hyn sydd yn codi calonnau rhywun."

Mae'r gwaith yn cael ei arddangos yng Nghastell y Waun
Mae Frank Hemmings yn gynghorydd sir yn Wrecsam ac hefyd yn bencampwr dementia lleol.
"Y peth trist ydy ein bod yn gweld gwaith celf hyfryd yn cael ei greu yma, ond efallai 10 munud wedyn dydyn nhw ddim yn cofio dim amdano," meddai.
"Rwyf wedi cael sawl sgwrs drwy ddangos eu gwaith iddyn nhw a maen nhw'n gofyn pwy wnaeth o.
"Mae'n drist ond mae'r gwaith celf yn aml o safon uchel."

Dywedodd y Cynghorydd Frank Hemmings bod y dosbarthiadau wythnosol "fel teulu"
Ychwanegodd y Cynghorydd Hemmings fod yr "elfen o lonyddwch" yn bwysig.
"Mae'r gofalwyr yn cael eu heffeithio'n ofnadwy gan y cyflwr, ond am y ddwy awr yna o'r wythnos mae'r person yna'n mwynhau eu hunain ac yn gallu canolbwyntio ar eu celf.
"Mae'n rhoi'r llonyddwch yna i'w gofalwyr ond hefyd y cyfle i drafod gyda gofalwyr a gwŷr a gwragedd eraill am eu profiadau a rhannu cyngor. Mae hi fel teulu yma."
'Pawb mor ffyddlon'
Dywedodd Margaret Roberts, sydd wedi arwain y dosbarthiadau dyfrlliw wythnosol ers saith mlynedd, bod 33 aelod yn mynychu'n rheolaidd.
"Mae'n rhoi rhywbeth i'r aelodau edrych ymlaen at a mae 'na lawer iawn o gariad yma - ia, at gelf, ond hefyd ein gilydd.
"Mae pawb mor ffyddlon, 'da ni'n cael hwyl bob wythnos."
Bydd arddangosfa Dementia Cyfeillgar Wrecsam yn cael ei arddangos yng Nghastell y Waun tan ganol Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd23 Medi 2024
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2024