Cyn-hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru wedi marw

Roedd Warren Abrahams, 43, yn dod o Dde Affrica
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Warren Abrahams, wedi marw yn 43 oed.
Roedd Abrahams yn dod o Dde Affrica, a bu farw tra'r oedd gyda thîm cenedlaethol Gwlad Belg mewn pencampwriaeth rygbi saith-bob-ochr yn Kenya.
Dywedodd ffederasiwn Rygbi Gwlad Belg eu bod wedi eu synnu ac yn teimlo'n drist iawn yn sgil y golled sydyn.
"Byddwn yn parhau i gefnogi teulu Warren, y tîm a phawb o fewn Rygbi Gwlad Belg ym mhob ffordd bosib yn ystod yr amser anodd hwn."
'Angerdd ac arweinyddiaeth'
Cafodd Abrahams ei benodi'n brif hyfforddwr ar fenywod Cymru ym mis Tachwedd 2020, ond gadawodd yr haf canlynol ar ôl llai na naw mis yn y rôl.
Cynigiodd Undeb Rygbi Cymru eu "cydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau Warren Abrahams, gan bawb yn rygbi Cymru".
Bu'n hyfforddi academi Harlequins rhwng 2011 a 2019, ac aeth ymlaen i weithio gyda thimau saith-bob-ochr menywod yr Unol Daleithiau a dynion Lloegr.
Dywedodd clwb Harlequins: "Roedd modd teimlo ei angerdd, ei arweinyddiaeth a'i ymrwymiad i ddatblygu chwaraewyr, nid yn unig yn yr Harlequins, ond ar draws y byd rygbi ehangach yn ystod ei yrfa."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2021