Prif hyfforddwyr yn gadael tîm rygbi Merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Warren AbrahamsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bod prif hyfforddwr Tîm Merched Cymru yn gadael y swydd, lai na naw mis ar ôl cael ei benodi.

Dywed yr undeb a Warren Abrahams bod y penderfyniad yn un "ar y cyd", a bod yr hyfforddwr "am fynd ar drywydd mentrau eraill".

Cafodd Abrahams, cyn-ddirprwy tîm saith bob ochr yr UDA, ei benodi fis Tachwedd y llynedd i lenwi'r bwlch wedi ymadawiad Rowland Phillips ym Mawrth 2020.

Dywedodd prif weithredwr URC, Steve Phillips eu bod yn mynd ati i benodi olynydd, ac mai'r nod yw cael "sefydlogrwydd" i'r tîm cyn pencampwriaeth Cwpan y Byd 2022 yn Seland Newydd.

Ychwanegodd: "Hoffwn ddiolch i Warren am bopeth mae wedi ei wneud i garfan Merched Cymru mewn cyfnod anodd iawn a dymunwn yn dda iddo at y dyfodol."

Dywedodd Abrahams: "Rwy'n ddiolchgar iawn i URC am y cyfle yma a hoffwn ddiolch i dîm rheoli'r merched a'r chwaraewyr."

Fe wnaeth Cymru ddarfod pencampwriaeth y Chwe Gwlad - oedd yn fyrrach na'r arfer oherwydd y pandemig - yn y safle olaf gan golli pob un o'u tair gêm yn erbyn Ffrainc, Iwerddon a'r Alban.