Gwaith cwmni o Gaernarfon yn cael ei werthu ar-lein heb ganiatâd

Cerdyn oedd yn cael ei werthu ar Temu ar y dde, a cherdyn Draenog ar y chwith
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn oedd yn cael ei werthu ar Temu ar y chwith, a cherdyn Draenog ar y dde

  • Cyhoeddwyd

Mae busnes dylunio o Wynedd wedi disgrifio’r sioc o ddarganfod eu gwaith yn cael ei werthu ar wefan masnachu ryngwladol Temu heb eu caniatâd.

Yn ôl Anwen Roberts - perchennog cwmni Draenog sy’n creu cardiau a nwyddau Cymraeg - fe gafodd y gwaith dylunio, lliwio a geirio oll ei gopïo.

Mae’n dweud bod achosion hawlfraint o'r fath yn un her arall i fusnesau bach sy’n ceisio cadw dau ben llinyn ynghyd.

Dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach bod un ym mhob pum busnes wedi cael profiad tebyg.

Mae cwmni Temu o China, sydd bellach wedi dileu’r cynnwys o’u gwefan, yn dweud eu bod nhw’n gweithredu’n gyflym pan mae achosion tebyg yn dod i’r fei, a’u bod yn buddsoddi i warchod artistiaid.

Mae Temu yn wefan marchnata ar-lein, sy’n galluogi artistiaid a chynhyrchwyr i werthu’n uniongyrchol i’w cwsmeriaid.

Disgrifiad o’r llun,

“Maen nhw 'di tynnu y lluniau o'n gwefan ni a 'di 'neud nhw union yr un peth," meddai Anwen Roberts

Yn ôl Anwen Roberts o Gaernarfon, roedd darganfod ei dyluniadau ar y wefan yn “sioc enfawr”.

“Oedd o’n sioc i weld y cardiau yna yn union fel o’n i wedi eu dylunio,” meddai.

“Maen nhw di tynnu y lluniau o'n gwefan ni a 'di 'neud nhw union yr un peth.

“O'dd o'n sioc ac mi oedd o'n brifo hefyd.

“Ma’n gyfnod mor anodd i ni fel busnesau bach ar hyn o bryd, felly y teimlad o rhywun yn cymryd rhywbeth dwi wedi creu o scratch a 'di gweithio'n galed i werthu.”

Disgrifiad o’r llun,

Un o gardiau Draenog ar y chwith, a cherdyn oedd yn cael ei werthu ar Temu ar y dde

Ar ôl iddi gysylltu efo Temu, mae’r wefan bellach wedi tynnu’r cynnyrch o’u gwefan.

Ond yn ôl Ms Roberts, mae’n her i fusnesau bach fynd ar ôl cwmnïau mor fawr.

“Dim pob busnes sy’n gwybod be' 'di’r hawliau o ran hawlfraint ac IP (intellectual property), felly mae’n rhywbeth dwi wedi bod yn ymchwilio i, ond ti’n teimlo hollol ben dy hun yn erbyn cwmni fel 'na.

“Oedd ymateb Temu yn sydyn felly o'n i'n ddiolchgar, ond oedd y broses yn ddiflas - mae’n anodd mynd ar ôl nhw, ac mae’n sefyllfa anodd.”

'Rheoleiddio heb gadw lan'

Yn ôl y Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) yng Nghymru, mae eu gwaith ymchwil nhw yn dangos bod un o bob pump o fusnesau sy’n gwerthu ar wefannau fel Temu wedi cael profiadau tebyg.

Maen nhw’n galw am reolau llymach a chymorth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Fflur Elin fod busnesau bach yn teimlo nad oes ganddyn nhw bŵer yn erbyn cwmnïau mawr

“Dyw rheoleiddio heb gadw lan,” meddai Fflur Elin o’r FSB.

“Pan 'da ni’n meddwl am gopïo, dyw’r amddiffynfeydd ddim yna.

“Ma’n broblem fawr a be' hoffwn i weld ydy Llywodraeth San Steffan yn cefnogi busnesau bach ac yn cyflwyno ffordd o broses i fusnesau bach a’r platfformau mawr fel dispute resolution, a 'da ni meddwl dyle’r platfformau orfod talu am hynny.

“Ma’n bwysig i fusnesau bach allu gwerthu ar-lein, ond 'di o ddim yn teimlo bod ganddyn nhw unrhyw bŵer, ac mae o hefyd yn gallu bwrw hyder.”

Yn ôl cwmni Temu, yn dilyn cais cwmni Draenog fe wnaethon nhw ymchwilio ac “yn yr achos yma, rydym wedi tynnu'r cynnyrch oedd yn torri'r rheolau”.

“Rydym yn ymchwilio yn gyflym ac yn cymryd y camau angenrheidiol er mwyn dileu unrhyw gynnyrch a hysbysebion pan fo angen,” meddai llefarydd.

“I werthwyr sy’n parhau i dorri’r rheolau hyn, rydym yn eu gwahardd yn barhaol rhag defnyddio Temu ac yn tynnu'r holl gynnyrch o’r wefan.

“Rydym wedi buddsoddi yn helaeth er mwyn diogelu hawliau eiddo deallusol (IP), gan ehangu’r tîm IP a chreu system sy’n gwneud hi’n haws i fusnesau adrodd unrhyw bryderon.

“O ganlyniad rydym yn llwyddo i fodloni 99% o holl geisiadau tebyg o fewn ychydig ddyddiau, sy’n gynt na’r cyfartaledd o fewn y diwydiant.”

'Canllawiau manwl i helpu busnesau bach'

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) Llywodraeth y DU eu bod yn "gweithio gyda’n partneriaid ar draws diwydiant, y llywodraeth, ac yn gorfodi’r gyfraith i helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad y mae’n ei achosi i fusnesau a defnyddwyr".

“Mae’r IPO yn parhau i ymgysylltu â’r prif siopau ar-lein – yn y DU a thramor – i gael gwared ar nwyddau sy'n torri'r rheolau, a chael gwared ar werthwyr cyson o’u platfformau yn barhaol.

"Rydym yn cyhoeddi canllawiau i helpu masnachwyr i ddiogelu eu hawliau eiddo deallusol ar bob siop fawr ar-lein, gan gynnwys Temu.

“Rydym hefyd yn darparu canllawiau manwl i helpu busnesau bach a’r cyhoedd i ddod o hyd i nwyddau tramgwyddus a ffug a rhoi gwybod amdanynt."

Pynciau cysylltiedig