Gwerth Zip World yn codi i £100m ar ôl denu buddsoddiad newydd

Daw'r cyhoeddiad yn fuan ar ôl i Zip World gyhoeddi eu bod yn cau eu safle yn Sir Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae gwerth y cwmni antur o Gymru, Zip World, wedi codi i dros £100m ar ôl i'r busnes ddenu buddsoddiad newydd.
Dolphin Capital sydd bellach yn berchen ar fwyafrif y cwmni o Lanberis, tra bod y sylfaenydd, Sean Taylor yn cadw cyfran leiafrifol o'r busnes.
Mae gan Zip World wyth safle ar draws Cymru a Lloegr, sy'n cynnwys atyniadau fel llinell zip gyflymaf y byd - Velocity - yn Chwarel y Penrhyn ym Methesda.
Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Andrew Hudson y byddai'r cytundeb yn cyflymu cynlluniau i ehangu'r cwmni.

Mae 'Fforest Coaster' yn un o atyniadau eraill Zip World yn y gogledd
Ym mis Chwefror mae Zip World yn bwriadu agor canolfan newydd yn y Parc Olympaidd yn Llundain.
Fe fydd y cwmni hefyd yn agor safle newydd yn Elterwater, Cumbria yn hwyrach yn y flwyddyn.
Yn ogystal ag agor canolfannau newydd, mae'r Zip World yn bwriadu uwchraddio'r safleoedd presennol.
Ond fe ddaw'r cyhoeddiad yn fuan ar ôl i'r cwmni gyhoeddi eu bod yn cau eu safle yn Sir Conwy.

"Mae gogledd Cymru yn parhau i fod wrth galon y cwmni," yn ôl prif weithredwr Zip World, Andrew Hudson
Mae Dolphin Capital eisoes yn berchen ar Snowcentres Ltd, sy'n cynnal gweithgareddau chwaraeon eira dan do.
Dywedodd prif weithredwr Zip World, Andrew Hudson: "Dim ond dechrau yw hyn ar yr hyn rydyn ni'n gobeithio fydd yn flwyddyn fawr.
"Mae buddsoddiad yn allweddol i ni, nid yn unig yn ein safleoedd newydd ond hefyd o ran ychwanegu gwerth at ein lleoliadau presennol.
"Rydym wrth ein boddau ein bod yn agor safle yn Llundain ac yn ehangu ein harlwy i gymunedau ar draws y DU, ond mae Gogledd Cymru yn parhau i fod wrth galon ein cwmni – dyma le y dechreuodd y cyfan a dyna pam rydym yn parhau i ail-fuddsoddi mewn mwy o anturiaethau i'r ardal."