Canslo ras 10K yn y gogledd ar ôl 'un gŵyn' - trefnwyr

- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr ras flynyddol yn y gogledd yn dweud bod y digwyddiad wedi ei ganslo yn dilyn anghydfod gyda'r cyngor.
Roedd disgwyl i ras 10k Helena Tipping yn Wrecsam - sy'n cael ei chynnal i gofio am gyn-aelod o glwb athletau Wrecsam - ddigwydd ar 14 Medi.
Roedd y ras fod i gychwyn yn Networld Sports ar stad ddiwydiannol Wrecsam, a gorffen yng nghanolfan gymunedol Isycoed.
Mae Cyngor Wrecsam yn dweud bod ceisiadau gan y trefnwyr i gynnal y digwyddiad wedi eu gwrthod oherwydd "problemau diogelwch a gofidion o ddigwyddiadau blaenorol".
Ond mae Run Cheshire a Gogledd Cymru, trefnwyr y ras, yn dweud eu bod wastad wedi ymateb i unrhyw bryderon diogelwch.
'Dim gweithgarwch chwaraeon yn yr ardal'
Mae cyfarwyddwr Run Cheshire a Gogledd Cymru, Michael Harrington, yn dweud bod problem wedi codi am y tro cyntaf fis Chwefror ar ôl ras hanner marathon Village Bakery Wrecsam, sydd hefyd yn cael ei threfnu gan yr un cwmni.
Cafodd wybod gan y cyngor bryd hynny bod cymaint o gwynion wedi bod nad oedd modd iddyn nhw gefnogi digwyddiadau yn y dyfodol.
Ar ôl methu â chael ateb o ran natur y cwynion, dywedodd Mr Harrington iddo wneud cais rhyddid gwybodaeth a chanfod mai dim ond un gŵyn oedd wedi ei gwneud.
"Dydyn nhw ddim yn caniatáu unrhyw weithgarwch chwaraeon yn yr ardal," meddai, gan ddweud fod y 650 o bobl a oedd wedi cofrestru i redeg yn derbyn ad-daliad.
Dywedodd fod y penderfyniad yn "siom llwyr" i'r rheiny sydd wedi bod yn hyfforddi ar gyfer y digwyddiad.
"Mae 'na argyfwng iechyd, argyfwng gordewdra. Mae'r digwyddiadau yma yn rhai positif. Os nad yw pobl yn medru delio â 'chydig o aflonyddu, mae'n drist iawn."
Cyngor wedi bod yn 'glir'
Mewn datganiad, dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, sy'n arwain ar yr amgylchedd ar Gyngor Wrecsam, fod yr adran amgylchedd wedi bod yn "glir" ac wedi rhoi cymaint o rybudd â phosib i drefnwyr y ras ynghylch "problemau diogelwch a phryderon a gododd mewn digwyddiadau blaenorol" y maent wedi trefnu.
Roedd hyn yn cynnwys torri deddfwriaeth priffyrdd, a marsialiaid gwirfoddol heb gymwysterau yn symud conau yn anghyfreithlon ac yn cyfeirio traffig, meddai'r awdurdod lleol.
Ychwanegodd eu bod wedi hysbysu'r trefnydd yn gyntaf bod eu cais wedi'i wrthod ym mis Mehefin eleni.
Dywedodd fod ail gais wedi ei dderbyn i gynnal y ras ar ddyddiad gwahanol, ond y byddai gwaith ffordd sylweddol yn amharu ar y pryd hwnnw.
Dywedodd nad oedd modd i'r cyngor "ganiatáu dau set o reolaeth traffig mor agos at ei gilydd".
Er yn derbyn bod y penderfyniad yn siomedig i redwyr, dywedodd y cynghorydd na fyddai'r digwyddiad wedi "cyrraedd y safonau diogelwch angenrheidiol" i barhau.