Rhan o lwybr yr arfordir 'wedi ei losgi'n fwriadol'
- Cyhoeddwyd
Mae rhan o lwybr yr arfordir wedi gorfod cau dros dro wedi iddo gael ei ddifrodi gan fandaliaid.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu galw i Rest Bay ym Mhorthcawl ar fore 2 Tachwedd i ddelio gyda thân, oedd medden nhw, wedi ei gynnau yn fwriadol.
Cafodd tua 60 metr o’r llwybr ger Ffynnon-Wen Rocks ei ddifrodi.
Dywedodd y Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygiad Economaidd a Thai bod y llwybr yn “llwyddiant gydag ymwelwyr” ac yn un sy’n cael ei ddefnyddio yn aml gan bobl.
“Rhaid i ni nawr edrych ar opsiynau eraill i weld sut y gallwn gynnal mynediad wrth wneud atgyweiriadau drud i’r cyfleuster yma," meddai.
'Siomedig dros ben'
Mae arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, John Spanswick wedi dweud ei fod yn “siomedig dros ben i weld y fath dinistr i lwybr mor boblogaidd."
“Mae pwy bynnag sy’n gyfrifol wedi taro trethdalwyr lleol mewn cyfnod lle mae’r cyngor yn wynebu toriadau ariannol sylweddol a thorri nôl ar wasanaethau."
Ychwanegodd fod y cyngor wedi "ymrwymo" i gynlluniau adnewyddu ar draws Porthcawl a bod y llwybr yma yn "chwarae rôl bwysig" yn yr hyn maen nhw'n gobeithio ei gyflawni.
“Rwy’n gobeithio bod y rheini sy’n gyfrifol yn cael eu dwyn i gyfri am eu gweithredoedd cyn hir", meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd