Tân gwyllt anghyfreithlon yn achosi tân mawr ar lwybr yr arfordir
1 o 5
Diwedd yr oriau luniau
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth tân yn dweud bod tân mawr ar glogwyn yn Sir Benfro wedi cael ei achosi gan dân gwyllt oedd wedi ei gynnau yn anghyfreithlon.
Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad ar glogwyn ger Llanisan-yn-Rhos am 22:11 nos Iau.
Roedd y tân wedi lledaenu ar draws tua 180m ar hyd wyneb y clogwyn, gan orchuddio ardal tua 4,000 metr sgwâr.
Fe lwyddodd swyddogion i ddiffodd y fflamau erbyn 01:49 fore Gwener.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod y fflamau wedi eu hachosi gan dân gwyllt oedd wedi ei gynnau yn anghyfreithlon ar ran o lwybr arfordir Cymru.
Pwysleisiodd y gwasanaeth ei bod hi'n anghyfreithlon cynnau tân gwyllt mewn mannau cyhoeddus, ac y dylai pobl fynd i ddigwyddiadau tân gwyllt swyddogol.