Gwasanaethau tân yn delio â nifer o danau gwyllt ar draws Cymru

Cafodd criwiau eu galw i dân mawr ger y mast deledu a radio yn Nebo nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaethau tân ar draws Cymru wedi dweud bod nifer o danau gwyllt yn parhau i losgi ar draws y wlad fore Mercher.
Yng Ngwynedd, mae criwiau yn parhau i geisio diffodd tân yng Ngarndolbenmaen, a gychwynnodd toc wedi 22:00 nos Lun.
Maen nhw'n cadw golwg ar y tân ac am ail-asesu'r sefyllfa fore Mawrth.
Mae dau dân arall a oedd yn llosgi nos Fawrth - un yn Eisingrug ger Harlech, ac un arall yn Nebo - wedi eu diffodd erbyn hyn.
Yn y de, mae criwiau achub yn asesu'r tân mawr yn ardal Wattsville a Cross Keys a oedd yn llosgi nos Fawrth.
Dywed llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi derbyn 44 o alwadau am y digwyddiad hwn, a bod drôn wedi ei ddefnyddio.
Maen nhw hefyd yn cadw golwg ar danau yn Abertyleri, Brynberian ac yn Hirwaun.
Nos Fawrth cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i danau yng Nghrymych, yn Hebron, Hendy-gwyn ar Daf, yng Nghefn Rhigos ac yn Llanllwni.
Mae disgwyl i'r tywydd sych bara am weddill yr wythnos.