System iechyd 'wedi torri' yn ôl mam ifanc â chanser

Lowri Mai LoaderFfynhonnell y llun, Lowri Mai Loader
Disgrifiad o’r llun,

36 oed oedd Lowri Loader pan gafodd hi ddiagnosis o ganser y fron

  • Cyhoeddwyd

"Mae'r system iechyd wedi torri", yn ôl un fam ifanc o Gaerdydd sy'n brwydro canser y fron.

Llynedd, yn 36 mlwydd oed, fe gafodd Lowri Mai Loader - sy’n wraig i brif ohebydd Newyddion S4C, Gwyn Loader - wybod bod ganddi fath prin o ganser y fron o'r enw canser negyddol driphlyg.

“'O’n i wirioneddol byth yn meddwl bydde rhywbeth fel hyn yn digwydd i fi," meddai.

"'O'dd dim lwmpyn 'da fi, 'odd e just yn ardal fach fwy trwchus o groen, a phetawn i ddim yn dal i fwydo fy mab bach i bydden i byth ‘di ffeindio fe.

"Ma' hwna’n hala ofn arna i, achos fi’n meddwl, petawn i wedi gadael rhyw ddeufis i fynd heibio, bydde fy stori i’n dra gwahanol nawr.”

Ffynhonnell y llun, Lowri Mai Loader
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Loader bod y staff iechyd i gyd wedi bod yn "anhygoel"

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y dylai pawb ddechrau triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau o fynd at eu meddyg teulu.

Ond yn achos Ms Loader, ni ddigwyddodd hynny.

“'O'dd y chwe wythnos yna, yn dilyn y diagnosis hyd at ddechrau triniaeth, y chwe wythnos hiraf, fwyaf hunllefus o fy mywyd i.

"O'n i’n teimlo fel bo’ fi di cael diagnosis o ganser ymosodol, o'dd yn lledaenu’n gyflym. O’n i’n gwybod bod e’n tyfu ond o'dd dim byd yn digwydd i drin e.

"O’r cyfnod pan es i at y meddyg teulu, o'dd hwnna ddiwedd Awst, nes i ddim dechrau triniaeth tan 25 Tachwedd. Ma' hwnna’n gyfnod hir.

"Y nyrsys, y doctoriaid, ma' nhw’n gweithio mor, mor galed, ma' nhw’n anhygoel yn Felindre, ond ma' nhw i gyd yn gweithio o fewn system sydd wedi torri.”

Dywedodd Ms Loader ei bod hi wedi dechrau teimlo'n well yn gorfforol ac yn feddyliol ar ôl dechrau'r driniaeth.

"'O'n i’n gallu teimlo’n gorfforol bod y driniaeth yn gweithio. O'dd y canser, erbyn pan o’n i’n dechrau triniaeth, o'n i’n gallu teimlo bod e’n lledaenu, ac o'dd hwnna’n frawychus.

"'O'dd yr arbenigwr yma 'di dweud wrthai 'this is an aggressive cancer’, a phan chi’n clywed newyddion fel ‘na, a chi’n gorfod aros chwe wythnos, just yn hongian rownd y tŷ, mae’n anodd iawn.

"Mae canser yn echrydus."

'Dyw canser y fron ddim yn binc a fflwyfflyd'

Ar ddiwedd mis codi ymwybyddiaeth canser y fron, roedd Lowri’n teimlo bod yn rhaid iddi rannu ei stori.

“Y brif neges dwi eisiau rhannu yw, ei bod hi mor, mor bwysig bo' ni’n ymwybodol o’n cyrff ni.

"Unrhyw newidiadau ac yn y blaen, mae e mor bwysig i godi ymwybyddiaeth, achos chi byth yn meddwl bod y pethe ma’n digwydd i chi. O'n i byth yn meddwl bydde hwn yn digwydd i fi.

"'Fi'n credu bod pobl yn meddwl bod y profiad o ganser y fron, yn enwedig y syniad o godi ymwybyddiaeth ohono fe, yn binc ac yn fflwfflyd, ond mae'n unrhyw beth ond pinc a fflwfflyd."

Ffynhonnell y llun, Lowri Mai Loader
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lowri iddi gymryd rhan mewn astudiaeth glinigol er mwyn ei phlant

Ar ôl 15 rownd o gemotherapi, llawdriniaeth a radiotherapi, mae brwydr Lowri'n parhau, ac mae hi bellach yn cymryd rhan mewn prawf clinigol.

"Y neges dwi 'di gael yw 'there are no visible signs of cancer at the moment, as far as we know', a ma' hwnna’n anodd clywed, achos chi’n teimlo fel o gosh, ok, dy’ nhw ddim yn gallu dweud wrtha i’n bendant.

"Dyna pam nes i benderfynu bod yn rhan o’r astudiaeth glinigol yma.

"On i’n meddwl wel, ma' rhaid i fi allu edrych fy mhlant i yn eu llygaid a dweud, 'mae mam ‘di trio popeth, mae mam wedi rhoi bob cyfle i’w hunan i weld chi’n tyfu lan'.

'Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu'

Dywedodd Glenn Page o elusen ganser Macmillan ei fod yn rhannu pryderon Lowri.

“Mae Macmillan yn clywed pob dydd gan bobl ar draws Cymru sy’n wynebu oedi i’w triniaeth, gan gynnwys pobl sy’n byw gyda chanser y fron, a ma' lot o resymau pam bod hynny’n digwydd," meddai.

"Ond mae'n rhaid i ni gyd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu i sicrhau bod pobl yn gallu cael y driniaeth a’r gofal y ma' nhw ei angen, pan maen nhw ei angen e.”

Wrth ymateb i’r oedi, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gweld cynnydd blynyddol yn y galw am wasanaethau canser.

"Rydyn ni'n buddsoddi’n helaeth mewn gwasanaethau er mwyn gwella diagnosis, a darparu gofal o ansawdd uchel, mor gyflym â phosib."

Pynciau cysylltiedig