Busnesau'n poeni am effaith cau trosffordd Conwy

Ceir ar yr A547
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd gwaith ar drosffordd yr A547 rhwng Cyffordd Llandudno a Chonwy ym mis Ebrill

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau yng Nghonwy yn poeni am effaith cau un o brif ffyrdd y dref am dros bythefnos ym mis Mehefin.

Dechreuodd gwaith ar drosffordd yr A547 rhwng cyffordd Llandudno a Conwy ym mis Ebrill.

Ond mae Cyngor Conwy bellach yn dweud bod rhaid cau'r ffordd am 16 diwrnod o 19 Mehefin.

Mae Siambr Fasnach Conwy yn dweud na fu ymgynghoriad â busnesau, ac y bydd y gwaith yn cael effaith negyddol iawn ar y dref.

Mae Cyngor Conwy'n dweud bod cau'r ffordd yn hanfodol er mwyn cyflawni'r gwaith a sicrhau diogelwch y gweithwyr.

Misoedd prysuraf y dref

Yn ôl y cyngor bydd cau'r drosffordd yn golygu na fydd sawl llwybr bws yn rhedeg trwy Gonwy am gyfnod, ond y bydd gwasanaeth bws gwennol yn cael ei drefnu i Gyffordd Llandudno.

Ond mae rhai perchnogion busnes yn poeni nad yw hyn yn ddigonol er mwyn sicrhau bod ymwelwyr yn parhau i ddod i'r dref.

Dywedodd Helen Bundy, sy'n rhedeg siop yng nghanol Conwy: "Mehefin a Gorffennaf yw'r prif fisoedd ar gyfer ymwelwyr rhyngwladol sy'n dod ar fysus.

"Mae wedi cymryd amser iddynt ddychwelyd, ond nawr mae'n digwydd, ac maen nhw'n fisoedd hynod o bwysig i fusnesau yn y dref.

"Mae'n amlwg rhaid gwneud y gwaith atgyweirio, ond pam dewis ei wneud yn y misoedd prysuraf?"

Gwaith ar drosffordd Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Russel Erwood mae'r gwaith eisoes wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau

Yn ôl Russel Erwood, cadeirydd Siambr Fasnach Conwy, mae'r gwaith ar y drosffordd eisoes wedi cael effaith sylweddol ar fusnesau'r dref.

"Mae'r gwaith presennol wedi cael effaith negyddol iawn ar fusnesau Conwy gyda rhai yn adrodd colledion o 50% o'i gymharu â'r un mis y llynedd," dywedodd.

"Ni chafodd y siambr fasnach na busnesau eu hymgynghori, a dwi'n credu y dylai hynny fod wedi digwydd am mai ni fydd yn cael ein heffeithio fwyaf gan y penderfyniad.

"Heb unrhyw wasanaethau'n cael eu darparu er mwyn helpu ymwelwyr i gyrraedd Conwy, dydw i ddim yn gor-ddweud i awgrymu y gall hyn gael effaith drychinebus ar fusnesau annibynnol Conwy."

Prosiect 'unwaith mewn oes'

Cafodd y drosffordd ei hadeiladu yn y 1960au hwyr, ac yn ôl y cyngor mae'r gwaith adnewyddu yn brosiect unwaith mewn oes i gadw'r strwythur mewn cyflwr da.

Dywedodd y cynghorydd Goronwy Edwards, sy'n gyfrifol am ffyrdd ar y Cabinet: “Rydym yn deall y bydd cau'r drosffordd yn achosi anghyfleustra sylweddol, ond dyma'r unig ffordd i gwblhau'r gwaith adnewyddu.

"Hoffwn fynegi fy niolch i bawb a effeithiwyd am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth.

"Mae disgwyl i'r gwaith cael ei gwblhau yn gynharach nag y cynlluniwyd."

Pynciau cysylltiedig