Prif weinidogion y DU a Chymru yn trafod dyfodol Tata

Gething a StarmerFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Syr Keir Starmer yn cwrdd â Phrif Weinidog Cymru, Vaughan Gething

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth Prif Weinidog newydd y DU ymweld â'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Llun - y tro cyntaf i Syr Keir Starmer ymweld â Chymru ers i'r Blaid Lafur ddod i rym wedi'r etholiad cyffredinol.

Bu'n cwrdd â Phrif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, er mwyn trafod dyfodol gwaith dur Tata ym Mhort Talbot lle mae miloedd o bobl yn wynebu colli eu swyddi.

Mae'r llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan wedi dweud bod “bargen well i'w chael” ar ddyfodol Tata ond yn sgil technoleg newydd mae'r cwmni yn debygol o gyflogi llai o bobl.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, roedd ymweliad Syr Keir yn ymwneud â chael “perthynas waith agos barchus” gyda llywodraethau ar draws y DU.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Treganna
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU ddiolch i blant Ysgol Treganna, Caerdydd, am berfformio iddynt

Roedd Syr Keir Starmer yn Yr Alban ddydd Sul cyn teithio i Ogledd Iwerddon a Chymru ddydd Llun.

Hefyd yn y Senedd ddydd Llun roedd ensemble lleisiol Ysgol Treganna, Caerdydd, a oedd wrthi'n ymarfer cyn perfformio ger bron y Brenin yno ddydd Iau.

Fe wnaeth y criw, a oedd yn fuddugol yn Eisteddfod yr Urdd eleni, berfformio Safwn yn y Bwlch o flaen Prif Weinidog newydd y DU.

"Diolch i chi am ganu," meddai Syr Keir Starmer wrth y disgyblion Blwyddyn 5 a 6, "roedd e'n gwbl hyfryd".

'Bargen well i'w chael'

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jo Stevens nad yw'r llywodraeth am weld "diswyddiadau gorfodol" yn y diwydiant dur yng Nghymru

Roedd y trafodaethau rhyngddo â Vaughan Gething yn canolbwyntio ar yr hyn sydd wedi’i ddisgrifio fel un o brif flaenoriaethau llywodraeth newydd y DU, sef dyfodol Tata Steel.

Mae'r cwmni'n bwriadu cael gwared ar 2,800 o swyddi ar draws y DU, gyda'r rhan fwyaf o'r rheiny ym Mhort Talbot.

Mae disgwyl i filoedd yn fwy o swyddi gael eu colli mewn cadwyni cyflenwi a busnesau eraill sy'n ddibynnol ar y ffatri.

Os aiff y toriadau yn eu blaenau mae disgwyl i'r economi leol fod £200m ar ei cholled.

Disgrifiad o’r llun,

Awydd i gefnu ar ddulliau cynhyrchu sy'n niweidiol i'r amgylchedd sydd wrth wraidd cynlluniau Tata

Mae'r cwmni'n cau eu dwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot ac yn gosod ffwrnais drydan yn eu lle. Bydd y ffwrnais newydd yn cynhyrchu llai o CO2 ond does dim angen cymaint o weithwyr.

Mae un o'r ffwrneisi chwyth eisoes wedi cau a bydd y llall yn cau ym mis Medi.

Dywedodd llywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU y bydden nhw'n cyfrannu £500m tuag at gost y ffwrnais arc drydan o £1.25bn.

Mae llywodraeth Lafur newydd San Steffan wedi dweud y byddan nhw'n cyfateb y buddsoddiad hwnnw ond yn dweud hefyd bod ganddyn £2.5bn o gronfa ar gyfer cynhyrchu dur.

Dywedodd ysgrifennydd busnes newydd llywodraeth y DU, Jonathan Reynolds, ei fod ef a Syr Keir Starmer eisoes yn siarad â Tata am fuddsoddiad pellach ac ychwanegodd y byddai "sichrau swyddi" yn rhan o'r trafodaethau.

Ychwanegodd Mr Reynolds fod "bargen well i'w chael" ar ddyfodol y ffatri, ond rhybuddiodd y byddai technoleg newydd yn cyflogi llai o bobl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae datrys yr ansicrwydd dros ddyfodol Tata a miloedd o swyddi yn flaenoriaeth, medd yr Ysgrifennydd Busnes, Jonathan Reynolds

Dywedodd Ysgrifennydd newydd Cymru, Jo Stevens, fod llywodraeth Lafur y DU eisiau i fwy o ddur gael ei gynhyrchu yng Nghymru a’r DU: "Yn sicr mae rôl i Tata yn hynny ac rydw i eisiau i weithwyr dur Cymru fod ar flaen y gad yn hynny o beth.

"Mae'n bosibl iawn y bydd rhai pobl am gymryd diswyddiad gwirfoddol ond nid ydym am weld unrhyw ddiswyddiadau gorfodol."

Wrth siarad am ymweliad Syr Keir â Chymru, dywedodd AS Dwyrain Caerdydd fod Llafur wedi ennill seddi ar draws Prydain yn dilyn yr etholiad cyffredinol yr wythnos ddiwethaf.

"Nid yw hynny wedi digwydd ers 20 mlynedd, felly mae mandad go iawn yma ar gyfer yr hyn yr ydym am ei weld, sef Teyrnas Unedig gydlynol - un sydd â pherthynas waith glos a pharchus rhwng y Prif Weinidogion, y Dirprwy Brif Weinidogion, gweinidogion yng Ngogledd Iwerddon, a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig."