Y flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth cwiar yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mis Gorffennaf fe fydd Barddas yn cyhoeddi blodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+; y flodeugerdd gyntaf o’i fath yn y Gymraeg.
Bydd Curiadau yn cynnwys gwaith gan lenorion adnabyddus, sgwenwyr profiadol a lleisiau newydd sy’n cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf.
Y llenor ac academydd Dr Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor aeth â’r syniad at Barddas wedi iddo gael sgwrs gydag un o olygyddion y wasg, Alaw Mai Edwards, ar ôl sesiwn hyfforddi gyda Chyngor Llyfrau Cymru.
“Ddaeth y syniad llynedd, yn rhannol oherwydd Llyfrau Lliwgar y clwb llyfrau LHDTC+ [Cymraeg] cyntaf yng Nghymru sydd bellach yn cwrdd ym Mangor ac yng Nghaerdydd.
"Ac mi oedden ni wedi penderfynu bod yn rhaid cael testun yn Gymraeg a thestun yn Saesneg bob yn ail oherwydd prinder deunydd Cymraeg – testunau, llyfrau, cerddi cwiar yn Gymraeg.
"A wedyn meddwl, 'dan ni’n licio bob math o flodeugerddi yng Nghymru – Hoff Gerddi Serch Cymru, Hoff Gerddi Natur Cymru, Blodeugerdd Barddas, bob math o bethau – ond doedd ‘na ddim blodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+ yn Gymraeg.”
Ond gyda thestunau mor brin, sut felly y byddai dod â blodeugerdd at ei gilydd?
Eglurodd Gareth, sydd yn llenor ei hun: “O’n i’n awyddus i drio cynnwys gwaith cyhoeddiedig a gwaith newydd hefyd.
"Yr unig ‘amod’ fel y cyfryw oedd eu bod nhw’n ddarnau gan bobl LHDTC+. O ran y darnau cyhoeddiedig, wrth gwrs, mae’n anodd i ni heddiw 'ma i ddweud be’ oedd rhywioldeb rhywun gosa bod o’n adnabyddus felly.
"Gan hynny, o ran testunau sydd wedi’u cyhoeddi eisoes dim ond rhyw hanner dwsin o destunau sydd 'na a dim ond dau destun gan sgwennwyr sydd bellach wedi marw.”
“Ond roedd eisiau sicrhau sgwennu newydd ac o’n i’n awyddus cael cymysgedd o ddeunyddiau: yn gerddi, yn rhyddiaith, yn ddrama, yn rhywbeth yn y canol, yn nofelau graffig hefyd.
"Ond hefyd eto, cynrychiolaeth eang o awduron, yn sgwenwyr profiadol ac yn sgwenwyr newydd.
"Dw i’n gwybod ei fod o’n cliché i’w ddweud bellach, bod gwerth ym mhob darn 'lly, ond mae 'na. Mae 'na safon eithriadol yn y darnau i gyd ddaeth i law ac roedd hi’n hyfryd cael hynny a chael cynrychiolaeth o brofiadau, lleisiau, a gwahanol arddulliau o sgwennu.”
Dau o’r awduron sydd wedi cyfrannu eu gwaith i’r gyfrol yw Nia Morais a Leo Drayton.
Dywedodd Nia, fydd yn camu mewn i rôl Bardd Plant Cymru fis Medi:
“Mae’n meddwl lot i mi fod yn rhan ohoni achos fi’n meddwl bod e’n really bwysig i ni gael rhywbeth yn yr iaith Gymraeg i ddathlu pobl cwiar, pobl hoyw.
"Ac mae’n neis i brofi ein bod ni 'ma, a chael y rhyddid i sgwennu am be’ ni moyn sgwennu am yn y Gymraeg.”
Cynnig rhywbeth newydd
Roedd Leo, sydd hefyd o Gaerdydd ac un un o gyd-awduron cyfres lyfrau arloesol ‘Y Pump’, yn cydweld.
“Fi’n credu bod rhywbeth fel Curiadau mor bwysig oherwydd mae’n rhoi platfform i brofiadau newydd gael eu clywed.
"Dwi wedi ysgrifennu am rhywbeth dwi heb weld yn Gymraeg byth o’r blaen. Fi’n credu bod e’n really cyffrous i allu clywed straeon newydd gan bobl newydd.”
“Enw’r darn dwi wedi ei sgwennu ydy Yr Apwyntiad Cyntaf: Drama Mewn Dwy Ran.
"Mae’n un gerdd o ddau safbwynt gwahanol am y profiad o berson traws yn mynd i’r apwyntiad cyntaf gyda seicolegydd neu ddoctor. Ac mae’n rhoi bach o fewnwelediad i bobl sydd ddim yn gwybod beth yw’r broses yna fel.
"A fi’n teimlo bod e’n really gwir, mae’n eitha’ dwys, smo fe’n hapus iawn, ond mae fe’n really gwir. O’n i’n teimlo bod e’n really bwysig i ddangos hwnna i bobl sydd ddim yn deall beth mae pobl traws yn mynd trwyddo jyst er mwyn dechrau’r cam cyntaf i drawsnewid.”
Ond yn ogystal ag ysgrifennu yn onest ac agored am ei brofiad, yr hyn mae Leo’n gobeithio amdano yw fod pobl ifanc yn cael profiad mwy amrywiol o lenyddiaeth Gymraeg nag a gafodd ef yn yr ysgol:
“Rwy’n gobeithio fydd hwn yn rhoi cyfle, yn enwedig mewn ysgolion, i blant ifanc astudio pethau newydd.
"Pan wnes i astudio yn yr ysgol, 'nes i 'neud Cymraeg AS, a roedd y beirdd i gyd yn hŷn, yn sort of hanesyddol eitha’ debyg i’w gilydd – yn ysgrifennu am yr un pethau.
"So, fi yn gobeithio bydd hwn yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg i roi ffocws ar bethau newydd a rhoi rhywbeth fwy diddorol i siarad amdano yn y dosbarth.”
Gallu bodoli yn niwylliant Cymru
Mae’r hyn fydd cyfrol fel hon yn ei olygu i bobl ifanc yn amlwg yn bwysig i Nia hefyd,
“Dw i ddim yn un i feddwl y dylen ni gadw’n traddodiadau ni yn y gorffennol ond fi’n credu bod 'na le i’w gymysgu fe gyda stwff newydd a gweld be’ arall ni’n gallu dod i fewn [i’r traddodiad Cymreig].
"Mae lot o stwff wedi bod [ar y cyfryngau cymdeithasol] am yr Urdd a phabell Cwiar na Nog a stwff fel 'na a dw i’n credu bod e’n dda i ni gefnogi pethau fel Cwiar na Nog a dangos ein bod ni yma, a’n bod ni’n gallu bodoli yn yr iaith Gymraeg a’n bod ni’n rhan o’r diwylliant.”
Ac mae Gareth yn brysio i bwysleisio ei bod hi’n gyfrol i bawb.
“Mae hi ar gyfer pawb oherwydd yn ei hanfod trafod profiadau mae pobl yn brofi mae hi.
"Boed rhywun yn perthyn i’r gymuned LHDTC+ neu beidio 'dan ni gyd yn bobl. 'Dan ni gyd yn teimlo, 'dan ni gyd yn mynd drwy’r felin emosiynol, 'dan ni gyd yn cael bob math o bethau ciami ond pethau gwych hefyd yn digwydd yn ein bywydau a mae modd uniaethu.
"Nid o reidrwydd uniaethu â’r sefyllfa ond mae modd gweld rhywbeth yn bob dim. Mae’r un fath a’r syniad; ydy nofel sydd wedi cael ei sgwennu gan ddynes am fod yn fam – ydy honno ar gyfer dynion?
"Wel, mi fedar dynion ei darllen hi er nad ydy dynion cis yn medru geni plentyn fedran nhw dal werthfawrogi hynny. Ac mae’r un fath am y gyfrol yma, mae hi ar gyfer pawb. Does 'na ddim ffiniau ar y cyfryw. Mewn difri’ trio goresgyn unrhyw ffiniau mae hi yn y bôn.”
“Mae’n werth nodi y buon ni’n meddwl am hir am deitl i gyfleu y fath amrywiaeth," meddai Gareth.
"Curiadau aethon ni amdano’n diwedd oherwydd mae’r gyfrol fel curiadau cân. Ac mae 'na bob math o guriadau gwahanol, mewn ffordd. Cân bolyffonig go iawn.
"Ond mae hefyd yn cydnabod y curiadau negyddol hefyd mae’r gymuned a phobl LHDTC+ yn brofi – yn guriadau corfforol, geiriol, meddyliol. Ond hefyd yn ffordd o ddathlu 'reit, dyma’r curiadau cwiar Cymraeg’ a fydd gobeithio yn arwain at fwy o ganeuon o’r fath.”
Bydd Gareth a chyfranwyr eraill yn trafod mwy am Curiadau yng ngŵyl Tafwyl ddydd Sul 16 Gorffennaf.