Buddsoddi £206m i ddatblygu Maes Awyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Maes Awyr Caerdydd yn derbyn dros £206m i gynyddu nifer y teithwyr a gwella cyfleusterau, meddai gweinidog yr economi.
Dywedodd Ken Skates AS y byddai'r maes awyr yn gobeithio denu dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn ac yn datblygu cyfleusterau cynnal a chadw, cargo a thechnolegau cynaliadwy fel rhan o'r cytundeb ariannu 10 mlynedd.
Mae’r maes awyr wedi bod dan berchnogaeth gyhoeddus ers 2013.
Dywedodd Mr Skates mai’r rheolwyr fydd yn gwario’r arian “gyda rhyddid masnachol”.
Dywedodd y Ceidwadwyr fod pobl Cymru yn colli arian ar “brosiect balchder” y llywodraeth Lafur.
'Hwb i swyddi a'r economi'
Dywedodd y llywodraeth y bydd ei buddsoddiad newydd yn y maes awyr yn rhoi hwb i swyddi a'r economi ehangach, ond bydd angen i'r cynlluniau gael eu hadolygu gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA).
Byddai’n cael ei nodi “fel cymhorthdal o ddiddordeb arbennig o dan drefn cymhorthdal y DU,” meddai Mr Skates.
Mae maes awyr Caerdydd wedi derbyn degau o filiynau o bunnau mewn benthyciadau a grantiau ers dod dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn 2013.
Cyfanswm y gwariant presennol yw £179.6m, sy’n cynnwys y pris gwreiddiol talodd y llywodraeth am y maes awyr, yn ogystal â thaliadau eraill fel benthyciadau Covid ac arian ar gyfer gwelliannau ac offer.
Daeth yr ymrwymiad newydd, i roi £206m dros y 10 mlynedd nesaf, ar ôl i becyn ariannu effeithiau Covid y llywodraeth ddod i ben.
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Mr Skates fod Maes Awyr Caerdydd yn “elfen hanfodol o seilwaith economaidd Cymru” sy’n cyfrannu £200m i’r economi bob blwyddyn.
“Mae’r Maes Awyr, ynghyd â pharc busnes Bro Tathan, yn ganolbwynt i glwstwr o fusnesau hedfan ac awyrofod llwyddiannus yn y rhanbarth.
“Mae'n borth i Gymru i dwristiaid, buddsoddwyr a'r miloedd lawer o ymwelwyr a ddaw bob blwyddyn i fwynhau'r nifer mawr o ddigwyddiadau chwaraeon, busnes a masnach a digwyddiadau diwylliannol a gynhelir yn y brifddinas a'r cyffiniau,” meddai Mr Skates.
Mae’r llywodraeth wedi datblygu strategaeth hirdymor ar gyfer y busnes gyda rheolwyr y maes awyr, ac fe fydd yn canolbwyntio ar ddenu busnesau hedfan a thyfu llwybrau teithwyr.
Dywedodd Mr Skates y gallai targedu’r llwybrau newydd ar gyfer cwmnïau hedfan “weld niferoedd teithwyr blynyddol y maes awyr yn cynyddu i ychydig dros ddwy filiwn o fewn y degawd nesaf”.
Dywedodd Natasha Asghar AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar drafnidiaeth, fod pobl Cymru wedi colli’u harian “gyda’r prosiect balchder hwn, un o’r rhai mwyaf costus hyd yma gan Lafur.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru eisoes wedi rhoi bron i £200m i’r maes awyr fel ag y mae, gyda llai o elw. Mae mwy na dyblu’r buddsoddiad hwnnw yn wastraff arian aruthrol.
“Barn y Ceidwadwyr Cymreig o hyd yw y dylid gwerthu Maes Awyr Caerdydd er mwyn rhoi rhywfaint o seibiant i drethdalwyr Cymru.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw “feddwl agored” ynglŷn â pherchnogaeth y maes awyr yn y dyfodol.
Wrth geisio datblygu llwybrau teithio newydd, bydd meysydd awyr sy’n gweithredu fel hwb yn Ewrop yn cael eu blaenoriaethu, yn ogystal â llwybrau newydd i ogledd America, y dwyrain canol a de Asia.
Yn 2023, fe ddefnyddiodd tua 841,188 o deithwyr Faes Awyr Caerdydd - tua hanner y nifer a deithiodd drwyddo yn 2019.
Cafodd meysydd awyr y DU i gyd eu taro gan y cyfyngiadau teithio yn ystod y pandemig, ond mae maint cymharol fach Maes Awyr Caerdydd wedi golygu ei bod yn cymryd mwy o amser nag eraill i adennill teithwyr a llwybrau’r cwmnïau hedfan.
Nid yw Qatar Airways, oedd wedi gweithredu taith i Doha o Gaerdydd, wedi ailddechrau’r gwasanaeth eto.
Ond mae cludwyr eraill wedi cynyddu eu llwybrau wrth i hyder ddychwelyd i'r diwydiant hedfan.
Mewn datganiad, dywedodd Spencer Birns, Prif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd: "Bydd y buddsoddiad yma yn galluogi i ni barhau i gynnig buddion economaidd, i greu fwy o swyddi ar draws ein gwlad, bod yn borth i'r DU a Chymru, a sicrhau cysylltiadau byd-eang"
"Rydym yn ased gwladol ac yn falch i barhau i dderbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd28 Awst 2023