Llwybrau seiclo posib Abertawe yn hollti'r gymuned

Llun o'r llwybr arfaethedigFfynhonnell y llun, Cyngor Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Dyma sut y gallai rhan o'r llwybr newydd ar gyfer seiclwyr a cherddwyr edrych

  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau a thrigolion yn Abertawe yn poeni y bydd cynlluniau i osod llwybr beicio a cherdded newydd ar hyd un o'r prif ffyrdd i ganol y ddinas yn niweidio busnesau annibynnol.

Mae Cyngor Abertawe yn cynllunio llwybr beicio newydd rhwng Sgeti a chanol y ddinas, fel rhan o gynllun teithio llesol Llywodraeth Cymru.

Mae grwpiau cerdded a seiclo lleol yn croesawu'r cynlluniau, ond mae un perchennog busnes yn dweud y gallai'r cynlluniau "weld diwedd i gryn dipyn o fusnesau yn Uplands" oherwydd y gwaith adeiladu a cholli lleoedd parcio.

Dywed Cyngor Abertawe mewn datganiad eu bod wedi bod yn ymgynghori â thrigolion, sefydliadau a busnesau a bod dim penderfyniad wedi'i wneud eto.

Ddim yn gwneud unrhyw synnwyr'

Fe fyddai'r llwybr beicio newydd yn cychwyn o Sgeti, drwy Uplands ac yna i lawr Heol Walter tuag at ganol y ddinas.

Mae miloedd o bobl yn byw ger yr heolydd ac mae yna lawer o fusnesau annibynnol ar hyd y llwybr, yn enwedig yn Uplands.

Byddai'r cynllun yn golygu gosod lôn feicio ddwy ffordd ar hyd y llwybr, cael gwared ar lonydd cerbydau sy'n troi i'r dde, gosod croesfannau newydd i gerddwyr, a throi rhai ffyrdd yn system unffordd.

Yn ôl Jayne Keeley, perchennog siop ddillad Rainbow ac ysgrifennydd Cymdeithas Masnachwyr Uplands, dydy'r cynlluniau ddim yn "gwneud unrhyw synnwyr".

"Mae'r lôn yn cychwyn yng nghanol y ffordd ac yn gorffen ar ganol y ffordd - nid yw'n arwain i unrhyw le," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jayne Keeley yn poeni am effaith bosib creu'r llwybr newydd ar ei busnes

"Mae ddim yn cyrraedd yr orsaf reilffordd i gysylltu â thrafnidiaeth gyhoeddus, ac nid yw'n cysylltu â'r rhwydwaith o lwybrau beicio sydd eisoes yn dda yn Abertawe.

"Fel rhywun sydd yn seiclo, fyddwn i ddim yn ei ddefnyddio achos mae'n rhaid i chi ddod oddi ar y llwybr beicio yng nghanol y ffordd a mynd yn ôl ar y palmant. Nid yw'n cysylltu â dim byd.

"Rwy'n bryderus am faint o amser y bydd y gwaith yn ei gymryd i gwblhau - efallai na fyddaf yn gallu gwrthsefyll y ffaith na fydd fy nghwsmeriaid yn gallu dod yn agos at fy busnes.

"Mae yna lawer o fwytai yma hefyd, a fi methu dychmygu bydd pobl eisiau eistedd mewn caffi a gwrando ar ddriliau am efallai dwy, tair blynedd.

"Gallai weld diwedd i dipyn o fusnesau yn Uplands a byddaf yn pryderu am busnes fy hun."

Creu 'ardal fwy deniadol'

Cafodd y Ddeddf Teithio Llesol ei phasio gan y Senedd yn 2013, gyda'r nod o annog pobl i gerdded neu seiclo mwy o ddydd i ddydd yn hytrach na gyrru.

Mae Sarah Philpott - cydlynydd cyfathrebu Strydoedd Byw Cymru, sy'n byw yn Abertawe - yn croesawu'r cynllun, gan ddweud y bydd yn "gwella iechyd a lles trigolion Abertawe".

"Mae unrhyw beth sy'n annog mwy o bobl i gerdded a seiclo yn mynd i helpu'r gymuned," meddai.

"Mae'n dda i'n hiechyd corfforol a meddyliol, mae'n lleihau llygredd aer ac yn aml, mae'n arwain at bobl yn gwario mwy o arian yn eu cymunedau lleol.

"Bydd yn gwneud yr ardal yn lle mwy deniadol i dreulio amser ac yn annog mwy o bobl i gerdded heibio a gwario arian yn yr ardal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Philpott yn dweud y bydd yn "gwella iechyd a lles trigolion Abertawe"

Yn ôl Eleri Ash, sy'n byw yn Uplands, mae'r cynlluniau wedi "hollti'r gymuned" ac mae "lot fawr o bobl" yn eu gwrthwynebu.

"Maen nhw'n bwriadu rhoi'r cycle track ar yr heol, sydd yn lleihau'r ffordd ac yn tynnu llefydd parcio oddi wrth yr heol," meddai.

"Maen nhw hefyd eisiau tynnu'r filter lanes i ffwrdd, sydd wedyn yn mynd i greu mwy o draffig ar y strydoedd bach.

"Mae mynd i gynyddu traffig a emissions, felly mae lot o bobl yn erbyn.

"Hefyd mae'r cyngor yn barod wedi derbyn yr arian, sydd yn neud i bobl meddwl bod y penderfyniad yn barod wedi cael ei wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer "yn rhoi'r gorau i'r ail gar", medd Steve Edgell - ond mae angen i lwybrau fod yn ddiogel

Steve Edgell yw cyfarwyddwr Uprise Bikes, siop sy'n gwerthu beiciau yn Abertawe, ac roedd hefyd ar fwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Gyda chostau byw yn codi, meddai, mae mwy o bobl yn gweld seiclo fel ffordd fforddiadwy o deithio, yn enwedig wrth ddefnyddio beiciau trydan.

"Mae rhai pobl yn seiclo nawr ar gyfer teithiau pob dydd, fel y siop bwyd wythnosol neu i fynd â phlant i'r ysgol," dywedodd.

"Rydyn ni'n gweld llawer mwy o bobl yn seiclo fel hyn nawr, yn cymryd beiciau electrig neu feiciau cargo ar gyfer teithiau sy'n cymryd llai o amser.

"Ni'n gweld nifer yn rhoi'r gorau i'r ail gar, ond y peth mwyaf pwysig i annog bobl i seiclo a cherdded mwy yw i wneud llwybrau seiclo yn fwy diogel."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r olygfa yma yn newid yn sylweddol os fydd cynigion y cyngor yn cael eu gwireddu

Dywed Cyngor Abertawe mewn datganiad eu bod wedi "ymgynghori'n eang gyda thrigolion, busnesau a sefydliadau, gan wrando ar eu barn".

Mae'n pwysleisio "nid yw'r broses hon wedi'i chwblhau eto ac nid oes penderfyniad wedi'i wneud".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Cyngor Abertawe wedi derbyn £1.4m o'r Gronfa Teithio Llesol yn 2024-25 i wneud i gerdded a seiclo yn haws ar hyd llwybr poblogaidd hwn.

"Mae ymgysylltu â thrigolion lleol, busnesau, a phawb sy'n defnyddio'r llwybr yn hollbwysig wrth gyflawni prosiectau fel hyn a bydd y gwaith hwn yn cael ei arwain gan yr awdurdod lleol."