Ymgeisydd Reform yn tynnu ei gais yn ôl
![Reform](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1920/cpsprodpb/6195/live/a71f33d0-25ab-11ef-baa7-25d483663b8e.jpg)
- Cyhoeddwyd
Mae ymgeisydd Reform UK wedi tynnu ei enw yn ôl ar gyfer ymgeisio yn yr etholiad cyffredinol ar ôl honiadau ei fod wedi rhannu cynnwys hiliol ar-lein.
Stewart Sutherland oedd ymgeisydd y blaid ar gyfer etholaeth Blaenau Gwent a Rhymni yn ne Cymru.
Mewn neges ar X, Twitter gynt, dywedodd ei fod "wedi trio cynnal ymgyrch lân ond heb lwyddo", gan ychwanegu "nid wyf yn dymuno dweud unrhyw beth pellach ar y pwynt yma".
Fe wnaeth Reform UK gadarnhau bod Mr Sutherland "wedi tynnu ei enw yn ôl, er gwaethaf ymdrechion mawr mewn amser byr i gael rhywun yn ei le".
Nid yw'r blaid wedi sôn am y rheswm tu ôl i'w benderfyniad i dynnu ei enw yn ôl.
Fe wnaeth grŵp o'r enw Reform Party UK Exposed honni fod Mr Sutherland wedi rhannu nifer o gynnwys hiliol ar gyfryngau cymdeithasol.
Rhestr o'r ymgeiswyr eraill yn etholaeth Blaenau Gwent a Rhymni
Y Blaid Gomiwnyddol Brydeinig - Robert Griffiths
Y Ceidwadwyr - Hannah Elizabeth Jarvis
Y Blaid Werdd - Anne Baker
Annibynnol - Mike Whatley
Llafur - Nick Smith
Democratiaid Rhyddfrydol - Jackie Charlton
Plaid Cymru - Niamh Salkeld
Plaid y Gweithwyr - Yas Iqbal
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2024