Caernarfon: Dynes wedi marw tra yn nalfa'r heddlu

Pencadlys yr heddlu yng NghaernarfonFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r ddynes ym mhencadlys rhanbarthol yr heddlu yn ardal Maesincla

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi marw tra yn y ddalfa yng Nghaernarfon, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Dywed y llu bod y ddynes yn ei 40au ac wedi cael ei tharo'n wael cyn marw ychydig cyn 17:30 brynhawn Gwener.

Roedd y ddynes wedi bod yn y ddalfa ers prynhawn Iau, yn ôl y Dirprwy Brif Gwnstabl, Nigel Harrison.

Dywedodd bod y llu, "fel sy'n ofynnol yn yr amgylchiadau hyn", wedi cyfeirio'u hunain i'r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) "sydd nawr yn cynnal ymchwiliad annibynnol".

Arwyddion pencadlys Heddlu Gogledd Cymru yng Nghaernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddynes wedi bod yn y ddalfa ers ddydd Iau

Ychwanegodd Mr Harrison: "Mae ein meddyliau gyda ei theulu, sy'n cael cefnogaeth swyddogion arbenigol, a phawb sydd wedi eu heffeithio.

"Ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd tra bod ymchwiliad annibynnol IOPC, yn gywir, yn mynd rhagddo."

Pynciau cysylltiedig