Rhod Gilbert yn ôl ar lwyfan wedi triniaeth ganser

Rhod GilbertFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Rhod Gilbert ddatgelu'r llynedd ei fod yn cael triniaeth ar gyfer canser

  • Cyhoeddwyd

Mae'r comedïwr Rhod Gilbert wedi dweud mai profiad arbennig oedd dychwelyd i'r llwyfan ar ôl cael triniaeth ar gyfer canser y pen a'r gwddf.

Fe berfformiodd yn Arena Abertawe ddydd Gwener am y tro cyntaf ers blwyddyn.

Dywedodd Gilbert, 54, fis Gorffennaf diwethaf ei fod yn cael triniaeth ar gyfer canser cam pedwar.

Oherwydd hynny bu'n rhaid iddo ohirio ei sioeau fel rhan o'i daith Book of John.

'Hyfryd i fod yma'

"Mae'n arbennig cael bod 'nôl yn gwneud stand up eto am y tro cyntaf ers blwyddyn," meddai.

"Hyfryd i fod yma, hyfryd i fod 'nôl yn Abertawe, hyfryd i fod yn fyw ac hyfryd i fod 'nôl ar daith."

Bu'r digrifwr yn cael triniaeth y llynedd yng nghanolfan ganser Felindre yng Nghaerdydd.

Ar y pryd, dywedodd ei fod wedi bod yn cael poenau yn ei wddf ers misoedd, wrth gyhoeddi y byddai'n gohirio ei sioeau tan eleni.

Fe fydd yn perfformio yng Nghaerfaddon nesaf, gan orffen ei daith yng Nghaerdydd fis Hydref.

Pynciau cysylltiedig