Dyn yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ym Mae Cinmel

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Y Foryd am tua 22:30
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi dioddef "anafiadau allai beryglu bywyd" yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Y Foryd, Bae Cinmel am tua 22:30 nos Fercher.
Roedd adroddiadau bod cerddwr wedi cael ei daro gan gerbyd.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd gydag anafiadau "difrifol", ond mae bellach wedi'i drosglwyddo i ysbyty yn Stoke.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o ddefnydd, neu a oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd, i gysylltu â nhw.