Teiars, trolïau a dodrefn wedi eu tynnu o afon gan wirfoddolwyr

Aberogwr
  • Cyhoeddwyd

Mae miloedd o deiars wedi eu tynnu o afon yn ne Cymru fel rhan o ymgyrch lanhau gan 150 o wirfoddolwyr.

Cafodd yr ymgyrch yn Aberogwr ei threfnu gan ddyn a oedd wedi ei siomi gan y sbwriel a welodd yn Afon Ogwr wrth gerdded ei gi.

Dywedodd Alun o Ben-y-bont ar Ogwr y byddai'n gweld adar yn eistedd ar drolïau siopa neu deiars.

Ddydd Mawrth fe wnaeth dau beiriant lanhau gwely'r afon, wrth i wirfoddolwyr dynnu sbwriel o'r dŵr.

Yn ogystal â'r trolïau, cafodd darnau o ddodrefn eu tynnu o'r afon, a tua 2,000 o deiars.

Dywedodd Alun bod yr ymgyrch wedi cymryd sawl blwyddyn i'w threfnu, gan ddechrau'r gwaith paratoi yn 2019.

"Dechreuais i gynllunio yn 2019 gyda Cadwch Cymru'n Daclus ond fe wnaeth y glaw ddifetha'r ymgais gyntaf", meddai.

"Felly fe wnaethon ni ohirio, yna daeth covid, a dyma ni yma heddiw o'r diwedd."

Dywedodd ei bod yn "anhygoel" gweld y sbwriel yn dod allan o'r afon.

"Mae'n wych gweld beth sy'n dod o'r afon a faint sy'n dod.

"Ac mae cael pawb yma gyda'i gilydd i wneud hyn mae'n anghredadwy - alla i ddim diolch ddigon."

Dywedodd un gwirfoddolwr, Paul Twyman, ei bod yn edrych fel bod rhai teiars yn yr afon "ers blynyddoedd a blynyddoedd" o weld yr holl fwd sydd wedi adeiladu o'u cwmpas.

Yn ôl un arall, Francesca Gribble, fe welodd cadair yn cael ei dynnu o'r dŵr, ond "dy'n ni gyd yn gwneud ein rhan".

Roedd diffoddwyr o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru ar y safle i olchi mwd oddi ar y sbwriel, ac roedd Cadwch Cymru'n Daclus a Chyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhan o'r digwyddiad.

O ran y teiars yn y dŵr, cyfaddefodd Neil Harrison o Fly-Tipping Action Wales nad yw'n glir o ble maent yn dod.

"Dy'n ni'n credu bod rhai sy'n dod i lawr yr afon yn dod o gwmnïau troseddol sy'n casglu teiars o garejys a'u taflu i'r afon.

"Mae neges bwysig i ddod allan o'r dydd, partneriaid gwahanol yn dod ynghyd wedi ei drefnu gan un aelod o gymuned yn gwneud rhywbeth da i'r amgylchedd."

Pynciau cysylltiedig