Pryder am holl swyddi Wilko ar ôl i drafodaethau fethu
![Wilko Heol y Frenhines](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/855/cpsprodpb/2a9d/live/ebdd5440-5084-11ee-b9c4-756c0e6ee692.jpg)
Roedd disgwyl eisoes i siop Wilko ar Heol y Frenhines yng Nghaerdydd gau yr wythnos hon
- Cyhoeddwyd
Mae pryder am holl swyddi Wilko yng Nghymru ar ôl i drafodaethau i achub y busnes fethu.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd gweinyddwr y byddai chwech o'r 28 o siopau yng Nghymru - ynghyd â chanolfan dosbarthu - yn cau yr wythnos hon.
Ond ddydd Llun dywedodd undeb gweithwyr GMB y bydd yr holl siopau'n cau erbyn dechrau Hydref.
Mae'n golygu bod tua 950 o bobl yng Nghymru yn wynebu colli eu swyddi.
- Cyhoeddwyd6 Medi 2023
- Cyhoeddwyd23 Awst 2023
Roedd perchennog HMV, Doug Putman, wedi bwriadu cadw hyd at 300 o'r siopau ar agor.
Fe ddaeth y trafodaethau ar ôl i fusnes Wilko fynd i ddwylo'r gweinyddwyr fis diwethaf.
Daeth cadarnhad y bydd siopau Bae Caerdydd, Llandudno a Phort Talbot yn cau ddydd Mawrth, a siopau Treforys, Heol y Frenhines Caerdydd a'r Rhyl ddydd Iau.
Dywedon hefyd y bydd canolfan ddosbarthu Magwyr yn cau yr wythnos hon.
Ond ar ôl i drafodaethau fethu, erbyn hyn, fe fydd yr holl siopau'n cau erbyn dechrau fis nesaf.
![Wilko, Caerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/692/cpsprodpb/489d/live/efb5d050-5080-11ee-8989-e38772a3a7aa.jpg)
Mewn datganiad i bapur newydd The Sun, fe awgrymodd Doug Putman fod costau cynyddol wedi cymhlethu'r cais i achub y busnes.
"Mae’n siom fawr na allwn barhau â’r broses brynu ar gyfer Wilko bellach ar ôl gweithio gyda gweinyddwyr a chyflenwyr dros nifer o wythnosau i chwilio am ffordd i’w achub fel busnes byw," dywedodd.
"Doedd dim modd sicrhau sylfaen sefydlog i sicrhau llwyddiant hirdymor i'r busnes a'i bobl yn y ffordd y byddem wedi dymuno," ychwanegodd.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn "newyddion trist iawn" fod yr ymdrech i achub Wilko heb fod yn llwyddiannus.
Fe addawodd y byddai Llywodraeth Cymru yn cydweithio gydag eraill i geisio dod o hyd i gyfleoedd swyddi i'r staff.
Fe allai rhai o siopau Wilko gael eu gwerthu i gwmnïau eraill fel Poundland neu The Range.
Mae disgwyl i weinyddwr gyhoeddi manylion colledion swyddi a siopau dros y dyddiau nesaf.