Swyddi yn y fantol mewn 29 o siopau Wilko Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae swyddi gweithwyr siopau Wilko yng Nghymru yn y fantol wrth i weinyddwyr ddweud bod disgwyl i safleoedd gau.
Mae gan Wilko - aeth i ddwylo gweinyddwyr yn gynharach yn y mis - 29 o siopau yng Nghymru.
Dros y DU, mae gan y cwmni 400 o siopau ac mae'n cyflogi dros 12,000 o bobl.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y gweinyddwyr, PwC, bod ymgais i ganfod prynwr i'r busnes wedi methu.
"Yn anffodus, mae'n debygol felly y bydd diswyddiadau a chau siopau yn y dyfodol..." meddai PwC.
Er hynny, dywedodd y gweinyddwyr ei bod yn bosib y gallai prynwyr i rannau o'r busnes ddod i'r amlwg.
"Wrth i drafodaethau barhau gyda'r rhai sydd â diddordeb mewn prynu rhan o'r busnes, mae'n glir nad prynu'r busnes llawn yw natur y diddordeb hwnnw."
Fe fydd siopau'n parhau ar agor am y tro, ac fe fydd staff yn cael eu talu, meddai PwC.
Roedd awgrym yn gynharach gan undeb y byddai siopau'n cau erbyn yr wythnos nesaf.
Ond dywedodd PwC "nad oes bwriad cau unrhyw siopau'r wythnos nesaf, ar hyn o bryd".
Ychwanegodd PwC ei fod yn deall y byddai'r cyhoeddiad yn ychwanegu at y straen ar staff, a bod cefnogaeth ar gael.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023