Rhybuddion melyn am law trwm a stormydd o daranau yn y gogledd

Mae rhybudd melyn am stormydd o daranau mewn grym yng Nghymru rhwng 11:00 a 21:00 dydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau yng ngogledd Cymru rhwng 11:00 a 21:00 dydd Llun.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai ardaloedd gael 30-50mm o law o fewn cwpl o oriau.
Mae'r rhybudd yn weithredol ar draws rannau o Bowys, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam.
Yn ogystal â glaw trwm mae potensial hefyd am fellt a chenllysg.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai'r amodau arwain at lifogydd mewn mannau, oedi i wasanaethau trafnidiaeth, ac mae'n bosib y bydd yn amharu ar gyflenwadau trydan.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.