Aelod o'r Llynges fu farw ym Môr Udd yn dod o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Llynges wedi cadarnhau bod y dyn a laddwyd yn ystod digwyddiad hyfforddi gyda'r nos ym Môr Udd yn dod o Gymru.
Dywedodd teulu Rhodri Leyshon ei fod yn "cael ei garu'n fawr gan ei rieni, ei chwiorydd, ei bartner, ei ffrindiau a'i deulu a'i fod e'n ymroddedig iddyn nhw".
Bu'n rhaid i'r hofrennydd Merlin Mk4 yr oedd yn teithio ynddo lanio ar frys ar ddŵr nos Fercher ar gyrion Dorset.
Ni chafodd y ddau arall oedd yn teithio arno eu hanafu yn ddifrifol.
Dywed Ysgrifennydd Amddiffyn San Steffan, John Healey, bod ymchwiliad i'r digwyddiad ar y gweill.
'Ein bachgen hyfryd'
Ychwanegodd ei deulu: "Rydyn ni i gyd mor falch o'r dyn talentog, angerddol, cryf a theyrngar oedd o.
"Fe fydd yn ein calonnau bob amser. Ein bachgen hyfryd.
"Fydd ein bywydau ni byth yr un fath hebddo."
Fe ymunodd Mr Leyshon ag Uned Forol Frenhinol Prifysgol Cymru, sy'n hyfforddi myfyrwyr, yn 2010 ac fe ymunodd â'r Fyddin Frenhinol yn 2014.
Roedd wedi cwblhau nifer o ymarferion dramor - yn y Caribî, yr Unol Daleithiau a Norwy.
Yn ystod y 18 mis diwethaf roedd wedi bod yn gwasanaethu Sgwadron Awyr Forol 846 a dywed y Llynges ei fod yn un o'r capteiniaid a'r hyfforddwyr mwyaf galluog.
"Fe fydd yn cael ei golli'n fawr," meddai llefarydd.
Dyw'r Weinyddiaeth Amddiffyn ddim wedi manylu ar ble yng Nghymru y daw Rhodri Leyshon.