'Dim digon o siaradwyr Cymraeg' yn dewis maethu

Yn ôl Maethu Cymru, mae angen 800 o ofalwyr maeth newydd erbyn 2026
- Cyhoeddwyd
Mae angen denu mwy o siaradwyr Cymraeg i faethu, yn ôl cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol.
Mae Fôn Roberts o Gyngor Sir Ynys Môn, a chorff Maethu Cymru, yn dweud fod y sefyllfa yn "her", wrth iddyn nhw edrych i recriwtio 800 o ofalwyr maeth newydd yng Nghymru erbyn 2026.
"Mae'r her wedi cynyddu," meddai Mr Roberts.
"Mae 'na fwy o blant yn dod i'n gofal ni - plant sydd wedi mynd trwy elfen eithaf sylweddol o drawma."
Mae pythefnos codi ymwybyddiaeth am ofal maeth yn cael ei gynnal rhwng 12 a 25 Mai eleni.
Balch o gael teulu maeth Cymraeg
Un a gafodd ei maethu ydy Aneesa Khan, 21.
Cafodd ei geni ym Mhacistan a symudodd gyda'i theulu i ogledd Cymru pan roedd hi'n bump oed.
"Pan 'naeth un o fy rhieni i farw, roedd y rhiant arall yn gweld hi'n anodd gwatchiad ar ôl pump o blant - a aethon ni wedyn mewn i'r sector gofal," meddai.
Roedd Ms Khan yn byw gyda theulu maeth dros dro cyn iddi gael ei symud at deulu maeth parhaol.
"Mi 'naeth y gweithwyr cymdeithasol ffeindio rhywle i fi yma ym Mhwllheli, lle ydw i ar y funud.
"I ddechrau... ro'dd o bach yn nerve-racking. Plentyn 12 oed, roedd fy emosiynau i'n bob man."
Meleri Williams ac Aneesa Khan yn rhannu eu profiadau nhw o ofal maeth
Dywedodd Ms Khan ei bod hi'n falch bod ei rhieni maeth yn siarad Cymraeg, gan fod hynny "wedi gwneud fy Nghymraeg yn gryfach".
"Es i yno yn 2016 - tua naw mlynedd yn ôl rŵan," meddai.
"O'n i'n nerfus iawn i ddechrau, 'fath a mae unrhyw blentyn yn mynd i fod pan ti'n mynd i ofal maeth.
"Ond mi 'naethon nhw drin fi fel rhan o'r teulu. 'Naethon nhw drin fi yr un peth a fysan nhw efo plant nhw ac ati, a dwi'n falch o hynny."
Cefnogaeth 'arbennig'
Mae Ms Khan wedi cadw cysylltiad â'i theulu biolegol ar hyd y blynyddoedd.
"Dwi dal mewn cysylltiad. Mae fy mrodyr yn byw ym Manceinion.
"'Da ni'n cael contact efo rhiant ni bob-yn-ail deufis. Mae support worker fi'n helpu fi efo'r contact yna."
Yn ogystal â chefnogaeth gan ei theulu maeth, cafodd Ms Khan gefnogaeth gan weithiwr cymdeithasol nes ei bod yn 18 oed, ac yna chefnogaeth gan weithiwr cefnogol.
"O'n i'n cael support worker wedyn, mae hi wedi bod yn arbennig," meddai.
"Pan es i i'r brifysgol, oedd hi'n helpu fi efo'r ochr ariannol, yn emosiynol - bob dim i ddweud y gwir.
"Unrhyw broblem o'n i efo, dim ond mynd ati hi.
"Oedd o 'chydig yn anodd dod yma [i Bwllheli] fel person mixed race. Fi oedd yr unig berson brown, felly oedd hi'n anodd ffitio mewn yma i ddechrau."
Mae Ms Khan yn dweud y byddai hi'n ystyried maethu ei hun yn y dyfodol hefyd.
"Dwi'n gweld yr impact mae o'n gael ar blant a'r gwahaniaeth mae o'n 'neud i blant sy'n delio efo problemau.
"Maen nhw'n dod at weithwyr maeth i helpu nhw... mi faswn i'n hoffi ei 'neud o fy hun."
'Mae'r her wedi cynyddu'
Mae Maethu Cymru yn rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol ledled Cymru.
Mae holl awdurdodau lleol Cymru yn defnyddio brand Maethu Cymru ar gyfer eu gwasanaethau maethu.
Yn ôl gwefan Maethu Cymru, dolen allanol, roedd 7,200 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru yn 2024.
Roedd 4,785 o'r rheiny mewn gofal maeth - ffigwr sydd wedi cynyddu 3.7% rhwng 2018 a 2024.

"Does gennym ni ddim digon o siaradwyr Cymraeg sydd yn maethu," meddai Fôn Roberts
Yn ôl Fôn Roberts - cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Môn - mae'n her gynyddol canfod teuluoedd maeth.
"Ar draws Cymru ar y funud mae 'na 7,000 o blant yn ein gofal ni yn barod ac mae 'na 3,800 o ofalwyr maeth, felly mae 'na tua 800 o ofalwyr maeth newydd eu hangen erbyn 2026," meddai.
"Mae hynny am fod yn her, ond mae'r awdurdodau lleol i gyd yn gweithio'n galed i gael at ofalwyr maeth newydd.
"Mae'r her wedi cynyddu, mae 'na fwy o blant yn dod i'n gofal ni - plant sydd wedi mynd trwy elfen eithaf sylweddol o drawma, felly dydyn nhw ddim yn ein gofal o'u dewis eu hunain."
'Dim digon o siaradwyr Cymraeg'
Dywedodd Mr Roberts fod sawl rheswm am y cynnydd mewn galw.
"Mae heriau costau byw, cysylltiadau yn fan'na o ran pwysau sydd ar rieni, ella rhieni sydd methu cyfarch anghenion plant am ba bynnag reswm.
"Mae 'na amrywiaeth o resymau."
Wrth recriwtio gofalwyr maeth newydd, dywedodd fod wastad angen mwy o siaradwyr Cymraeg.
"Ar Ynys Môn, mae gennym ni ganran o'n plant mewn gofal sydd yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, ac ar y funud, yn lleol fan hyn does gennym ni ddim digon o siaradwyr Cymraeg sydd yn maethu," meddai.
"Mae'r elfen o'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i ni yma'n lleol ac i sawl sir arall yng Nghymru, ond 'da ni angen deall yn well ac annog ella rhywun sydd wedi meddwl am faethu, sy'n siarad Cymraeg, i bigo'r ffôn a chael sgwrs efo ni."

Mae Meleri Williams, sy'n maethu, yn dweud fod pobl wastad "yn barod i helpu"
Mae Meleri Williams o'r Bala wedi bod yn maethu ar ei phen ei hun ers sawl blwyddyn bellach.
"Ar ôl y cyfnod clo cyntaf, o'n i'n teimlo fatha bod gen i fwy o amser," meddai.
"O'n i wedi symud i'r tŷ tua blwyddyn cyn hynny, felly o'n i'n teimlo fod yr amser yn iawn i fi roi'r cais mewn."
Roedd Ms Williams yn darparu gofal ysbaid i ddechrau, gyda phlentyn maeth yn dod draw dros wyliau'r ysgol ac ar benwythnosau.
"O'n i'n gweithio'n llawn amser, ro'n i'n gallu cydbwyso fo'n dda efo fy mywyd cymdeithasol ac yn rhoi profiad i mi ddysgu gan y plant a dysgu sut oedd y system yn gweithio," meddai.
Yn dilyn cyfnod o fod yn ofalwr oedd yn cynnig gofal ysbaid, dechreuodd faethu'n hirdymor.
'Da ni gyd yn cefnogi'n gilydd'
Dywedodd fod y newid sefyllfa yn dipyn o sioc i'w theulu ar y dechrau.
"Dwi'n meddwl oedd o'n dipyn o newid byd i mi, achos dwi dal i weithio'n llawn amser hefyd, felly mae 'na lot o jyglo... ond mae'r gefnogaeth yna.
"Roedd pawb yn eitha' nerfus - sefyllfa newydd, ti'm yn gwybod yn iawn beth i'w ddisgwyl.
"Mae'n eitha' brawychus i'r plant sy'n dod o gefndiroedd anodd.
"Dwi'n rhiant sengl, ond mae'r teulu yma i gyd yn lleol, felly unrhyw dro dwi isio help... 'da ni gyd yn 'neud o efo'n gilydd."
Ychwanegodd Ms Williams ei bod yn lwcus iawn o gael rhannu profiadau gyda gofalwyr maeth eraill yn ei hardal.
"Dwi'n meddwl bod tua wyth gofalwr maeth yn Bala i gyd, felly 'da ni gyd yn cefnogi'n gilydd - tecst sydyn, ac mae pawb wastad yn barod i helpu.
"Mae wedi 'neud lot o help i mi. Maen nhw'n lot mwy profiadol na fi... i feddwl 'mod i wedi 'neud o fy hun, dwi heb deimlo'n unig yn ystod y broses - gen i wastad gefnogaeth."