Diwedd ar ganu clychau eglwys dros y Nadolig?

Iwan Cotgreave
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid ceisio torri'r canfyddiad mai dim ond hen bobl sy'n canu clychau," meddai Iwan Cotgreave

  • Cyhoeddwyd

Mae pryderon gall y traddodiad o ganu clychau'r eglwys ar ddiwrnod Nadolig ddod i ben oherwydd problemau recriwtio.

Mae ymchwil gan y Cyngor o Ganwyr Clychau Eglwys (CCCBR) yn awgrymu bydd nifer canwyr clychau'r DU yn gostwng 45% erbyn 2047.

Y gostyngiad yn y nifer o bobl sy'n mynychu'r eglwys yw'r prif reswm am hyn, yn ôl y CCCBR.

Mae dros 5,000 o glochdai yn y DU a mwy na 30,000 o ganwyr - mae apêl i gael mwy o bobl i gymryd rhan.

'Angen mwy o bobl ifanc'

Mae clychau'r DU yn cael eu canu drwy dynnu rhaff sy'n siglo'r gloch 360 gradd.

Mae Iwan Cotgreave, 20, yn mynychu Prifysgol Abertawe ac yn canu clychau yn yr ardal gyfagos, lle mae grŵp o ddysgwyr.

"Mae hynny'n mynd yn wych," meddai.

"Rydym yn ceisio canu cymaint o lychau ag y gallwn ar gyfer unrhyw achlysur y gallwn feddwl amdano, yn enwedig ar gyfer y Nadolig."

Wrth siarad â BBC Radio Wales Breakfast dywedodd ei fod wedi bod yn helpu i ganu'r clychau yn Eglwys Santes Fair yn Abertawe ar ôl i bobl stopio yn ystod Covid.

Ychwanegodd: "Mae'n rhaid iddyn nhw geisio torri'r canfyddiad mai dim ond hen bobl sy'n canu clychau.

"Mae bod mewn eglwys yn troi pobl i ffwrdd hefyd os nad ydyn nhw'n grefyddol ond gall unrhyw un ddod draw i gymryd rhan."

Ffynhonnell y llun, Matthew Turner
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r gymuned sy'n canu clychau ar draws y DU ac ar draws y byd yn wirioneddol agos iawn," meddai Matthew Turner

Mae Matthew Turner, 47, yn dysgu pobl sut i ganu clychau yng Nghaerdydd oherwydd ei fod yn "awyddus iawn" i gael mwy o bobl i gymryd rhan.

Dywedodd fod y rhan fwyaf o'i ganwyr wedi dod trwy'r eglwys ond bod mentrau fel 'Ring for the King' yn helpu i ddod â mwy o bobl i mewn.

"Mae'r mentrau hyn yn dal sylw pobl ac yn eu cael i ymuno," meddai.

"Cawsom fwy na dwsin yn ymuno â'n cangen ar gyfer y fenter."

Ychwanegodd Mr Turner fod canu clychau yn weithgaredd cymdeithasol a'i fod wedi cyfarfod llawer o ffrindiau drwy gymryd rhan.

"Mae'r gymuned sy'n canu clychau ar draws y DU ac ar draws y byd yn wirioneddol agos iawn," meddai.

"Fe gewch chi groeso cynnes ble bynnag chi'n mynd.

"Gallwch chi gerdded trwy ddrysau, a dweud 'hei, gallai ganu cloch' ​​ac yn gyffredinol bydd pobl yn eich croesawu â breichiau agored."

Ychwanegodd hefyd fod canu cloch ar ddiwrnod Nadolig yn teimlo'n arbennig.

"Mae pobl yn hoffi clywed clychau ar fore Nadolig. Dyna'r ymdeimlad o draddodiad."

Ffynhonnell y llun, Simon Linford
Disgrifiad o’r llun,

"Rhan o'r broblem yw, pan ddysgais i ganu clychau pan oeddwn yn 13 neu 14, fe ddes i drwy'r eglwys, ac roeddwn i yn y côr," meddai Simon Linford

Dywed Simon Linford, llywydd y Cyngor o Ganwyr Clychau Eglwys, fod pawb sy'n cymryd rhan yn gwybod beth yw'r problemau.

"Sefydlodd y cyngor bwyllgor rai blynyddoedd yn ôl, o'r enw 'The Ringing Trends Committee', a dreuliodd lawer iawn o amser yn edrych ar lawer o ddata a lluniodd yr amlwg - bod angen i ni recriwtio mwy o bobl ifanc, ond wnaeth neb wneud unrhyw beth.

"Allwn ni ddim gwneud hynny eto y tro yma."

Dywedodd fod y niferoedd wedi disgyn oherwydd bod llai o bobl yn mynychu gwasanaethau eglwysig.

"Rhan o'r broblem yw, pan ddysgais i ganu clychau pan oeddwn yn 13 neu 14, fe ddes i drwy'r eglwys, ac roeddwn i yn y côr," meddai.

"Doedd dim rhaid edrych yn bellach na'r eglwys i recriwtio canwyr, ac roedd grwpiau cysylltiedig fel y Sgowtiaid hefyd yn denu digon o bobl."

Pynciau cysylltiedig