Dynes o Lanberis yn 'isel' ar ôl methu cael gofalwyr i'w rhieni
- Cyhoeddwyd
Ni fydd sector gofal Cymru yn gallu goroesi heb dderbyn arian ychwanegol, yn ôl Fforwm Gofal Cymru.
Daw rhybudd y corff sy'n cynrychioli dros 450 o gartrefi gofal ar draws y wlad wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi ei chyllideb newydd ddydd Mawrth.
Mae dynes o Lanberis yn dweud bod yr her o geisio a methu sicrhau gofal cymdeithasol ar gyfer ei rhieni oedrannus wedi ei gadael yn teimlo'n "isel iawn".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu £113m drwy'r setliad llywodraeth leol ers 2022 i sicrhau bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn derbyn o leiaf y Cyflog Byw Go Iawn.
Pum mlynedd yn ôl fe symudodd Jennifer Owen, 56, yn ôl i Gymru o Barcelona er mwyn gofalu am ei rhieni.
Mae gan ei mam, Elizabeth, 86 oed, ganser y coluddyn a dementia fasgwlaidd. Mae ei thad, Fred, 87, yn gaeth i'w wely ac yn cael trafferth rheoli pryd mae'n mynd i'r toiled.
Wrth i gyflyrau'r ddau waethygu dros amser, mae'r pwysau ar Jennifer wedi cynyddu.
"Yn y misoedd diwethaf mae pethau wedi bod yn ddrwg iawn," meddai.
"Mae'r gofal sydd ei angen arnyn nhw wedi cynyddu tipyn. Pob dydd dwi'n gorfod golchi'r ddau, newid eu dillad, newid eu gwelyau, golchi popeth, coginio, a hynny dydd ar ôl dydd."
Ers wythnosau mae Jennifer wedi bod yn gofyn am gymorth cymdeithasol.
Ym mis Hydref, fe gytunodd meddyg ei mam fod angen gofal lliniarol arni, ond mae Jennifer yn dal i aros am gymorth.
"Dwi jyst yn teimlo weithiau fel taro fy mhen yn erbyn wal achos dwi wedi trio pob dim.
"Dwi 'di trio cael help gan y bobl o'n i'n meddwl 'sa'n helpu, a dwi jyst yn cael fy mhasio 'mlaen i'r person nesa. Tydi o ddim yn neis. Mae 'na rywbeth di malu yn rhywle."
'Dim robot ydi Jen'
Mae'r unig gymorth y mae Jennifer yn ei dderbyn yn dod gan ei hewythr, Edward Pari-Jones.
Yn 66 oed, mae Edward wedi bod yn arwain yr ymgais i gael gofalwyr i'w chwaer a'i frawd yng nghyfraith.
"Ti'n teimlo dy fod di'n gorfod sgrechian am help. Ond does 'na neb sydd isio gwrando," meddai.
"Mae'n rhaid bod hwn yn rhywbeth sy'n digwydd i gannoedd o bobl eraill hefyd. Dim robot ydi Jen, person ydi hi. Mond hyn a hyn fedra' hi ei gymryd."
Mae tad Jennifer wedi bod yn Ysbyty Gwynedd ers dros wythnos.
Mae'r ysbyty yn awyddus i'w rhyddhau wedi iddo wella, ond heb gymorth i ofalu amdano, tydi Jennifer ddim yn barod i'w dderbyn yn ôl.
"Weithiau dwi'n meddwl bydda i'n mynd i'r ysbyty fy hun yn y diwedd, neu byddwn ni gyd. Mae o'n galed trio cadw dy hun i fynd," ychwanegodd.
"Dwi'n trio fy ngorau, yn gofalu amdanyn nhw a pheidio rhoi'r straen ar wasanaethau ond fedra'i ddim gwneud hynny bellach.
"Mae o'n gadael rhywun yn teimlo'n isel iawn."
- Cyhoeddwyd24 Medi
- Cyhoeddwyd20 Awst
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 1,546 o gleifion yng Nghymru yn defnyddio gwelyau ysbytai, er eu bod nhw'n ddigon iach i gael eu rhyddhau.
O'i rhoi at ei gilydd, mae hynny'n ddigon i lenwi pob gwely yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ac Ysbyty Glan Clwyd yn Sir Ddinbych.
Mae 756 o'r achosion yma o ganlyniad i drafferthion yn ymwneud â gofal cymdeithasol.
Mae gan Kim Ombler, sy'n rheolwr cartref gofal ar Ynys Môn ac yn gyfarwyddwyr Fforwm Gofal Cymru, rhestr aros ar gyfer ei chartref gofal ar hyn o bryd.
Mae'n rhybuddio y bydd pethau yn gwaethygu heb gefnogaeth ariannol ychwanegol i'r sector gofal yng nghyllideb nesaf Llywodraeth Cymru.
"Mae'n fregus ar y funud ond os 'da ni ddim yn cael y taliadau a'r help y mae'r sector ei angen, yna mi fydd yna gartrefi gofal yn cau," meddai.
"Mi fydd yna effaith mawr ar allu'r sector i ddarparu cymorth yn y tŷ, a fydd y sector ddim yn bodoli dim mwy."
Gwasanaethau 'dan bwysau sylweddol'
Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod Gwynedd, fel siroedd gwledig eraill, "dan bwysau sylweddol i ddarparu a chynnal gwasanaethau ac mae ardal Llanberis yn un o'r ardaloedd sydd wedi bod yn wynebu'r heriau mwyaf".
Ychwanegon y llefarydd: "Dros y ddeufis diwethaf, mae'r Cyngor wedi bod yn cydweithio'n agos gyda'r darparwr gofal a'r gymuned leol ac fe lwyddwyd i haneru'r nifer o bobl oedd yn aros am ofal yn ardal Llanberis."
Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod nhw'n ymwybodol o'r pwysau o fewn y sector gofal cymdeithasol a sgil effeithiau'r pwysau hynny.
Maen nhw'n annog unrhyw un sy'n teimlo dan straen ac sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu â'n tîm PALs ar 03000 851234 neu BCU.PALS@wales.nhs.uk.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwerthfawrogi'r gweithlu gofal cymdeithasol rhagorol ac yn cydnabod y pwysau ariannol sy'n wynebu'r sector.
"Ers 2022, rydym wedi darparu £113m drwy'r setliad llywodraeth leol i sicrhau bod ein gweithwyr gofal cymdeithasol yn derbyn o leiaf y Cyflog Byw Go Iawn.
"Mae'r Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Comisiynu Gofal a Chymorth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd, wrth gomisiynu gofal, gefnogi cyflogwyr i wella statws, lles ac amodau gwaith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol."
Mi fydd Cyllideb Ddrafft y llywodraeth yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth.