Cludo plentyn, 4, i'r ysbyty ar ôl sesiwn mwytho anifeiliaid ar fferm

Michael a'i nain yn mwytho oen bachFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe aeth Michael i'r fferm gyda'i nain, Margaret yn ystod Gwyliau'r Pasg

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni bachgen pedair oed gafodd ei daro yn wael iawn ar ôl mynychu sesiwn bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid ar fferm wedi disgrifio'r "hunllef" o weld ei salwch yn gwaethygu yn ystod gwyliau dramor.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn ymchwilio i 74 o achosion o'r haint cryptosporidiwm sy'n cael eu cysylltu â digwyddiadau yn Siop Fferm y Bont-faen ar fferm Malborough Grange ym Mro Morgannwg.

Mae cryptosporidiwm yn baraseit sy'n gallu achosi salwch gastroberfeddol, ac mae'n aml yn gysylltiedig ag anifeiliaid - yn enwedig anifeiliaid fferm ifanc.

Dywedodd ICC fod 16 o'r rhai sydd wedi eu heintio wedi gorfod aros yn yr ysbyty am o leiaf un noson.

Mae'r Siop Fferm wedi gohirio sesiynau bwydo a rhoi mwythau i anifeiliaid am y tro, ac yn ôl ICC, maen nhw'n cydweithredu yn llawn gyda'u hymchwiliad.

Mae'r fferm wedi cael cais am ymateb.

Dywedodd Gareth Carpenter a Kate Wiejak o Ben-y-bont fod eu mab, Michael, wedi mynd i'r fferm ar 11 Ebrill gyda'i nain, Margaret.

"Ry' ni'n mynd bob blwyddyn, 'da ni wrth ein boddau yn mwytho'r anifeiliaid ac mae'n lleoliad grêt i fynd â'r plant," meddai Kate, 39.

Ychwanegodd fod Margaret wedi "gwneud yn siŵr" fod Michael wedi golchi ei ddwylo ar ôl y sesiwn a'i fod wedi defnyddio hylif diheintio.

Y diwrnod canlynol fe wnaeth y teulu hedfan i Sbaen i fwynhau gwyliau gyda theulu arall.

Michael yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Sbaen am dridiau

Er nad oedd Michael wedi dangos unrhyw symptomau cyn hedfan, dywedodd Gareth, 46, fod Michael wedi dechrau teimlo'n sâl ar 14 Ebrill.

"Roedden ni'n meddwl mai'r bwyd oedd ar fai, neu ei fod wedi treulio gormod o amser yn yr haul," meddai.

Roedd Michael yn dal i deimlo'n wael dros nos, a'r bore wedyn fe wnaeth Gareth a Kate ffonio'r gwasanaethau brys - wnaeth eu cynghori i fynd a Michael i'r ysbyty.

Dywedodd y doctoriaid fod gan Michael haint difrifol, a bu'n rhaid iddo dreulio tridiau yn yr ysbyty.

"Roedd yn hunllef," meddai Kate.

Ar ôl dychwelyd i Gymru roedd Michael yn dal i deimlo'n sâl ac felly ar ôl ymweld â'u meddyg teulu daeth cadarnhad ei fod wedi ei heintio a chryptosporidiwm.

Mae'r rhieni yn dweud y byddai wedi bod yn dda petai mwy o wybodaeth o'r peryglon posib ar gael i ymwelwyr ar y fferm.

"Dim ond pan mae rhywbeth fel hyn y digwydd yr ydych chi'n deall pa mor ddifrifol y mae'n gallu bod," ychwanegodd Gareth.

Mae Michael bellach wedi gwella yn llawn.