Môn: Ymgais i godi amgueddfa newydd ger Mynydd Parys

Mynydd Parys
  • Cyhoeddwyd

Mae ymgais ar y gweill i godi amgueddfa newydd ger safle un o weithfeydd copr mwya'r byd yn ystod y 18fed a'r 19fed ganrif.

Gyda thystiolaeth o gloddio am gopr yno yn dyddio'n ôl i'r oes efydd ac oes y Rhufeiniaid, arweiniodd y gwaith ym Mynydd Parys at ffyniant economaidd a thyfiant rhyfeddol tref Amlwch yng ngogledd Môn.

Ond gyda'r gwaith wedi dod i ben erbyn dechrau'r ganrif ddiwethaf, mae grŵp lleol yn gobeithio manteisio ar nifer yr ymwelwyr sy'n parhau i ymweld â'r ardal er mwyn codi atyniad newydd.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Etifeddiaeth Ddiwydiannol Amlwch mae eu bwriad wedi denu cefnogaeth leol.

Bellach maen nhw'n paratoi ar gyfer y gwaith o geisio denu arian a chaniatàd perthnasol.

Y Deyrnas Gopr ym Mhorth Amlwch
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hanes diwydiannol yr ardal yn arfer cael ei arddangos ym Mhorth Amlwch, rhyw ddwy filltir a hanner i ffwrdd o'r mynydd

Roedd casgliad yn adrodd hanes y mynydd a'r diwydiannau a dyfodd o'i gwmpas yn arfer bod ym Mhorth Amlwch.

Ond fe gaeodd yn 2022 gyda'r brydles wedi dod i ben, a bellach bwriad yr ymddiriedolaeth yw codi adeilad newydd gerllaw maes parcio Mynydd Parys.

'Mwy o bobl ar y mynydd'

Dywedodd Neil Summers, un o aelodau'r ymddiriedolaeth, eu bod wedi cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Elusennol Môn a'r cyngor sir fel rhan o'r broses cynllunio ac ariannu.

"Does ganddon ni ddim costau [ar y cynllun] ar hyn o bryd, ond dyna'r cam nesaf," meddai.

"Pan oedden ni ym Mhorth Amlwch roedden yn gallu gweld pobl yn dod, ond roedd 'na fwy o bobl ar y mynydd.

"Ar hyn o bryd dim ond un neu ddau o information boards sydd o gwmpas, ond gobeithio byddwn yn cael canolfan newydd gyda mwy o information iddyn nhw eto."

Neil Summers
Disgrifiad o’r llun,

Neil Summers: "Mae'n bwysig i ni gael rhywbeth i dynnu pobl yma"

Mae trafodaethau wedi eu cynnal rhwng Menter Môn, Cyngor Tref Amlwch ac eraill am ddyfodol yr adeiladau ym Mhorth Amlwch oedd yn arfer cartrefu casgliad y Deyrnas Gopr.

Dywed yr ymddiriedolaeth mai'r gobaith yw cadw'r casgliadau sy'n ymnweud â'r porthladd a hanes morwrol y dref yn ardal y porthladd er mwyn eu harddangos yno.

"'Da ni wedi rhoi questionnaire allan a 'nes i gael dros 150 o bobl yn dod yn ôl gyda 70% o bobl leol yn cefnogi be 'da ni eisiau ei wneud," ychwanegodd Mr Summers.

"Cyfle i gerdded a dysgu mwy am y mynydd... mae'n bwysig cael rhywbeth yn Amlwch achos mae'n bell o'r bont a mae pobl yn mynd i'r traethau ond ddim yn dod i ochr yma'r ynys.

"Mae'n bwysig i ni gael rhywbeth i dynnu pobl yma."

Hanes rhyfeddol

Roedd rhywfaint o fwyngloddio yn yr ardal ers yr oes efydd a chyfnod y Rhufeiniaid ond yn 1768 daeth dyn lleol, Rowland Pugh, o hyd i haen enfawr o gopr yno gan sbarduno diwydiant anferth.

Cafodd botel o wisgi a bwthyn di-rent am weddill ei oes fel tâl wrth i ddyn busnes lleol o'r enw Thomas Williams, a gai ei adnabod fel Twm Chwarae Teg, ddatblygu busnes yno.

Mynydd Parys

Er mwyn diwallu anghenion y diwydiannau newydd oedd yn codi ym mlynyddoedd cynnar y chwyldro diwydiannol, erbyn y 18fed ganrif roedd Mynydd Parys yn allforio copr i bedwar ban byd.

Amcangyfrifir i 3.3 miliwn tunnell o gopr gael ei gloddio a'i allforio wrth i Amlwch ddatblygu o fod yn bentref bach tawel i fod â phoblogaeth o dros 10,000 a'i thrawsnewid i fod yn ail dref fwyaf Cymru.

Ond erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd y cloddio wedi dod i ben, ac erbyn heddiw mae poblogaeth y dref yn llai na 4,000.

Y safle arfaethedig
Disgrifiad o’r llun,

Bwriad yr ymddiriedolaeth yw codi adeilad newydd ar safle gwag ger y maes parcio presennol

Y llynedd fe wnaeth cwmni Anglesey Mining gyflwyno adroddiad 220 tudalen sy'n ffurfio rhan o'r broses gynllunio angenrheidiol i geisio ail ddechrau cloddio am fetalau ar y safle.

Mae profion yn dangos bod yr ardal yn gyfoethog mewn copr, sinc, plwm, arian ac aur, ac y gall greu tua 120 o swyddi uniongyrchol mewn cymuned sydd wedi dioddef sawl ergyd economaidd.

Don McCallum o Anglesey Mining
Disgrifiad o’r llun,

Don McCallum: "'Da ni yn berchen ar y rhan fwyaf o'r tir ac yn awyddus i hyrwyddo'r hanes"

Dywedodd rheolwr y safle, Don McCallum, na fyddai'r cynlluniau yn amharu ar eu bwriad o allu cloddio o dan ddaear.

"Fyddai'r gwaith hwnnw ddim yn agos i'r safle hanesyddol, byddai'r ochr arall i'r ffordd ac i gyd o dan ddaear.

"'Da ni yn berchen ar y rhan fwyaf o'r tir ac yn awyddus i hyrwyddo'r hanes.

"Byddai'n gwaith ni ond yn barhad o'r stori honno."

Pynciau cysylltiedig