'Eironi' system iechyd sydd methu ag addasu ar gyfer meddygon anabl

Mae gweithio shifftiau nos yn anodd i Dr Alice Gatenby oherwydd ei bod ag epilepsi
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg anabl yn dweud ei bod wedi ystyried gadael y Gwasanaeth Iechyd gan fod y system yn ei gweld yn "rhy anodd neu anghyfleus" i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arni.
Dywedodd Dr Alice Gatenby fod uwch gydweithwyr wedi dweud wrthi nad yw hi'n "feddyg go iawn" oherwydd bod ei hepilepsi yn golygu nad yw hi'n gweithio shifftiau nos.
Mae arolwg o 800 o feddygon a myfyrwyr anabl a niwroamrywiol gan Gymdeithas Feddygol Prydain wedi canfod bod mwy na hanner yn teimlo bod galluogrwydd yn fwy o broblem yn y proffesiwn meddygol nag yw e yn y gymdeithas ehangach.
Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn gyfrifol am rotas ond dywedodd Partneriaeth Gwasanaethau GIG Cymru, fel cyflogwr cynhwysol, eu bod yn cefnogi cyflogwyr a meddygon preswyl gyda'r addasiadau sydd eu hangen.
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf
"Dwi'n gweld yr eironi yn y ffaith bod system gofal iechyd yn amharod i wneud addasiadau bach i rywun gydag epilepsi," meddai Dr Gatenby, sydd wedi'i leoli yn ne Cymru.
"Mae'n teimlo fel bod y system yn gweld fy nghefnogi fel rhywbeth rhy anodd neu anghyfleus - hyd yn oed os yw'n golygu colli rhywun sy'n abl ac yn angerddol am ofalu am gleifion."
Gwrthod cais am oriau rhan-amser
Treuliodd Dr Liz Murray dros ddegawd yn gweithio yn y GIG, gan reoli nifer o gyflyrau cronig ar yr un pryd, ond gadawodd ddwy flynedd yn ôl oherwydd y rhwystrau yr oedd hi'n teimlo.
Mae'r meddyg 37 oed, sydd wedi'i lleoli yn sir Norfolk, yn byw gyda'r cyflyrau lupus, endometriosis difrifol, difrod i'r bledren a'r coluddyn a phroblemau clun sy'n golygu ei bod yn defnyddio cymhorthion symudedd.
Ond gwrthodwyd ei cheisiadau am oriau rhan-amser a dim shifftiau nos.
"Mae gen i system imiwnedd ychydig yn gamweithredol ac rwy'n agored iawn i heintiau gyda newidiadau mawr mewn bywyd, neu darfu ar gwsg a straen amgylcheddol," meddai.
"Mae'n nhw'n gallu achosi heriau gyda fy nghymalau lle na allaf gerdded neu na allaf ddefnyddio fy nwylo ac mae'n effeithio ar fy ngolwg."
Dywedodd am amser hir ei bod hi'n teimlo mai ei chyflyrau iechyd oedd ar fai am adael y proffesiwn, ond nawr mae hi'n teimlo mai'r anhyblygrwydd o fewn y system oedd yn gyfrifol.

Mae sawl cyflwr meddygol yn golygu bod Dr Liz Murray 'yn agored iawn i heintio'
Er bod prinder meddygon yn ei rhanbarth, teimlai fod yn rhaid iddi adael rôl gyda thâl salwch a budd-daliadau mamolaeth, a dewis gwaith locwm oherwydd ei fod yn cynnig mwy o hyblygrwydd, ond roedd yn cyfyngu ar ei datblygiad gyrfa.
"Roeddwn i'n cael fy ngweld fel y broblem - sylweddolais faint o effaith yr oedd yn ei gael ar fy iechyd ac roedd yn rhaid i mi ddweud digon yw digon.
"Am gyhyd roeddwn i'n meddwl mai fy iechyd oedd wedi cymryd fy mhroffesiwn i ffwrdd, ond rwy'n sylweddoli nawr nad fy iechyd oedd o, ond y diffyg hygyrchedd a'r gallu i addasu. Oherwydd fy mod i'n dal i weithio'n llawn amser nawr - rwy'n gweithio mewn ffordd sy'n addas i'm hanghenion."
Ers hynny mae hi wedi sefydlu elusen, Mortal and Strong, i gefnogi'r rhai sydd â chyflyrau cronig.

Mae gweithio fel locwm yn cynnig hyblygrwydd i Dr Liz Murray, ond ar draul datblygu gyrfa
Mewn arolwg gan y BMA roedd 53% o'r ymatebwyr naill ai wedi gadael y proffesiwn yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, neu wedi ystyried hynny o ddifrif.
Roedd dros draean wedi nodi bwlio neu aflonyddu yn gysylltiedig â'u hanabledd, niwroamrywiad neu gyflwr iechyd hirdymor.
Fodd bynnag, dywedodd 40% fod dweud wrth eu gweithle neu eu hastudiaethau wedi arwain at well cefnogaeth.
'Gweithio i wasanaeth sy'n deall y sefyllfa'
Mae Tricia Roberts, 49, yn nyrs glinigol arbenigol o fewn gwasanaethau ADHD oedolion ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, yng ngorllewin Cymru. Fe gafodd ddiagnosis o ADHD ei hun yn 42 oed, ac awtistiaeth yn 47 oed.
"Rwyf wedi cael y fraint o weithio mewn swyddi lle mae'r gwasanaeth yn deall y sefyllfa," meddai.
"Rwy'n cael gweithio'n hyblyg a theimlo y gallaf fod yn fi fy hun."
Serch hynny, fe ychwanegodd pe byddai'r cyllid angenrheidiol ar gael, byddai cefnogaeth weinyddol ychwanegol yn caniatáu iddi "ffynnu".

Mae Tricia Roberts yn gwerthfawrogi'r cymorth sydd ar gael iddi, ond fe fyddai mwy o help yn rhywbeth i'w groesawu
"Mae'n rhaid i mi ollwng diwrnod - rwy'n caru fy swydd, ond roeddwn i'n dweud ie i bopeth ac yn llosgi mas yn llwyr.
"Rwy'n credu pe bawn i wedi cael mwy o gefnogaeth efallai na fyddai hynny wedi digwydd."
Esboniodd fod rhwydwaith staff ar gyfer cydweithwyr niwroamrywiol ar draws y bwrdd iechyd yn "wirioneddol rymusol" ac wedi rhoi gobaith iddi, gan fod straeon wedi cael eu rhannu a phobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
"Mae gan staff sgiliau anhygoel ac ni fyddai'r GIG yn bodoli oni bai am yr amrywiaeth o feddyliau."
Prawf anabledd blynyddol
Dywed Dr Alice Gatenby: "Pe bawn i'n athro, ni fyddai angen i mi fynd trwy broses hir i brofi fy mod i'n anabl bob tro y byddwn i'n newid ystafelloedd dosbarth. Ond fel meddyg ag anabledd anweledig, rhaid i mi brofi i banel anabledd fy mod i'n dal i fod yn anabl bob blwyddyn.
"Rwy'n feddyg da. Mae fy sgoriau arholiad yn adlewyrchu hynny. Ond ni allaf fynd i mewn i hyfforddiant oherwydd nad yw fy ymennydd yn gweithio'n union fel y mae'r system gofal iechyd yn ei ddisgwyl.
"Rwyf wir ar bwynt lle rwy'n ystyried gadael meddygaeth. Dydw i ddim eisiau ond pa ddewis sydd gen i? Ac eto, rwy'n meddwl: os byddaf yn cerdded i ffwrdd, pwy fydd ar ôl i eiriol dros feddygon eraill fel fi?"
"Mae cydweithwyr mwy profiadol wedi dweud wrthyf, 'Dwyt ti ddim yn feddyg go iawn' - oherwydd nad wyf yn gwneud sifftiau ar alwad. Eto pan ofynnaf i gael fy nghynnwys mewn rotas penwythnos, dywedir wrthyf ei fod yn ormod o drafferth oni bai y gallaf ymdopi â sifftiau 12 awr yn syth."
Mae'r BMA yn ceisio mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr arolwg, gan nad oedd bron i dri chwarter wedi derbyn yr holl addasiadau rhesymol yr oeddent eu hangen.
'Hanfodol darparu cefnogaeth briodol'
Dywedodd Dr Amit Kochhar, cadeirydd Corff Cynrychiolwyr y BMA: "Mae meddygon a myfyrwyr meddygol anabl yn bresennol ar bob lefel o'r proffesiwn, gan gyfrannu fel aelodau gwerthfawr a hanfodol o'r gweithlu meddygol. Nid yn unig yw darparu cefnogaeth briodol y peth iawn i'w wneud - mae'n hanfodol.
"Gall diffyg ymwybyddiaeth o anabledd a niwroamrywiaeth, ynghyd â gwahaniaethu a stigma, effeithio'n sylweddol ar fywydau a gyrfaoedd meddygon anabl.
"Rydym hefyd yn parhau i weld anghydraddoldebau, fel diagnosis diweddarach o awtistiaeth mewn menywod, ac amrywiad sylweddol mewn mynediad at wasanaethau i gydweithwyr rhyngwladol.
"Ni ddylai'r rhai sydd eisoes wedi goresgyn rhwystrau personol wynebu rhwystrau ychwanegol, fel polisïau arholiadau anhyblyg neu gael eu cosbi'n annheg drwy gydol eu gyrfaoedd."
Dywedodd Leandra Craine o Anabledd Cymru fod canfyddiadau'r arolwg yn destun pryder mawr.
"Nid yn unig y mae hyn yn peri pryder i'r sector gofal iechyd ei hun ond mae'n codi mater sylweddol o ran cyfrif am bobl anabl a'u trin.
"Heb gynnwys a chynrychioli pobl anabl ym mhob agwedd ar fywyd, ni fydd empathi a hygyrchedd ledled y gymdeithas byth yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn arbennig o bwysig ym maes gofal iechyd, sy'n aml yn cefnogi pobl pan fyddant mewn mwyaf o angen."
Disgwyl i bob sefydliad GIG hyrwyddo cynhwysiant
Dywedodd llefarydd ar ran Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru: "Fel cyflogwr cynhwysol, rydym yn cefnogi meddygon preswyl gydag unrhyw addasiadau sydd eu hangen arnynt.
"Rydym yn cofnodi ac yn rhannu'r addasiadau hyn yn ddiogel gyda'r byrddau iechyd lle maent wedi'u lleoli i'w gweithredu.
"Gallwn weithio gyda byrddau iechyd i'w cefnogi yn hyn yn ôl yr angen.
"Gan fod byrddau iechyd yn gyfrifol am reoli'r rota rydym yn gweithio'n weithredol gyda nhw i adolygu addasiadau rhesymol - gan gynnwys patrymau sifft a gwaith nos."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn disgwyl i bob sefydliad GIG Cymru hyrwyddo cynhwysiant yn weithredol ac mae'n ofynnol iddynt yn ôl y gyfraith gefnogi staff anabl drwy addasiadau rhesymol a mesurau gwrth-wahaniaethu o dan y Ddeddf Gydraddoldeb."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.