Gohirio gweithgareddau côr Cadeirlan Bangor wedi cân 'hollol anaddas'

- Cyhoeddwyd
Mae gweithgareddau côr Cadeirlan Bangor i'w gohirio am gyfnod cychwynnol o fis wedi protest yn ystod gwasanaeth cymun.
Mewn datganiad ddydd Sul dywedodd y Cabidwl - sef 15 i 18 o offeiriaid a lleygwyr sy'n gyfrifol am redeg y Gadeirlan - fod y côr wedi canu darn "a oedd yn hollol anaddas" o'r enw 'Cân y Digofaint' ac yna wedi cerdded allan o'r gwasanaeth.
Fe ddaw hyn ar ôl i'r gadeirlan, sydd wedi bod drwy gyfnod cythryblus, gyhoeddi eu bod yn ystyried diswyddo dwy ran o dair o'i gweithlu.
Mewn ymateb i'r brotest dywedodd y Cabidwl eu bod yn gohirio gweithgareddau'r côr "er mwyn adolygu'r hyn a ddigwyddodd ac ystyried y camau nesaf".
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Yn y datganiad maen nhwn dweud y bydd hyn yn gyfle "i gynnal deialog rhwng y Cabidwl a'r Côr".
Mae'r datganiad hefyd yn nodi bod Joe Cooper, y cyfarwyddwr cerddoriaeth, ar hyn o bryd i ffwrdd o'i ddyletswyddau.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru dywedodd John Roberts, un o gyflwynwyr y rhaglen Bwrw Golwg: "Yn ôl be ydw i wedi glywed roedd rhai o'r gynulleidfa hefyd wedi eu siomi.
"Yn enwedig gan eu bod wedi gwneud hynny [y brotest] yn ystod rhan ddefosiynol bwysig iawn o'r litwrgi."
Disgwyl gwneud colled o £300,000
Mae'r Gadeirlan yn wynebu heriau ariannol ac fe ddaeth rhagor o wybodaeth yn y datganiad.
Maen nhw'n disgwyl gwneud colled o £300,000 erbyn diwedd y flwyddyn hon yn unig.
Mae nhw'n nodi hefyd fod 66% o wariant blynyddol y Gadeirlan yn mynd ar staff lleyg.
"Mae Cadeirlan Bangor yn profi diffyg sylweddol rhwng gwariant ac incwm" a allai "roi pwysau sylweddol ar ein cronfeydd wrth gefn," ychwanegodd y datganiad.
Fe ychwanegon nhw bod modd adfer y sefyllfa ond dim ond drwy "weithredu ar frys".
- Cyhoeddwyd13 Mai
Yn sgil yr heriau ariannol mae'n nhw'n ystyried "newidiadau i'n strwythur staffio".
"Roedd unrhyw wariant ychwanegol ers 2021 wedi ei awdurdodi gan y Cabidwl" meddai John Roberts.
"Nhw sydd yn gyfrifol am reoli arian y Gadeirlan, felly mae'r union bobl oedd yn awdurdodi'r gwario hwnnw rŵan yn ei alw yn orwario.
"Dwi ddim yn siŵr sut mae nhw yn cyfiawnhau osgoi eu cyfrifoldeb."
Yn y datganiad mae'r Cabidwl yn dweud eu bod "wedi dechrau ar broses ymgynghori ar ddiswyddiadau posibl.
"Rydym yn benderfynol y bydd unrhyw ymgynghoriad ag aelodau staff yn deg, yn urddasol, yn gyfrinachol ac yn unol â'r arferion gorau o fewn Adnoddau Dynol."
Yr wythnos hon bydd deon newydd y gadeirlan, Dr Manon Ceridwen James, yn dechrau ar ei swydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.