3 Llun y cerddor Dafydd Owain

- Cyhoeddwyd
Tybed sut daith ydy recordio albym i gerddor?
Y cerddor Dafydd Owain sy'n rhoi cip i ni ar ei daith yntau wrth recordio ei ail albym, Ymarfer Byw.
'Y plentyn bach ynof fi'n dal i ganu'

Dyma fi'n chwarae'r piano yn Stiwdio Sain rhywbryd yng nghanol mis Chwefror 2025. Ella nad ydi hi'n gwbwl glîr, ond dw i'n trio recordio albym yn y llun yma, fy albym diweddaraf sy'n byw o dan y teitl 'Ymarfer Byw'.
Dw i wedi bod yn sgwennu caneuon ers cyn i mi allu cofio, dw i'n meddwl. Mae gen i atgofion o hymian alawon i'm hun yn blentyn tra'n potsian rownd y tŷ yn Victoria Road, Caernarfon.
Fi oedd yr unig blentyn yn y tŷ hwnnw a thrwy hynny dw i'n meddwl mod i rhywsut yn gallu mynd i fydoedd eraill yn haws.
Mae gen i lot o atgofion (a lluniau) o chwarae organ fy Nain pan oeddwn i'n ymweld hefo Nain a Taid hefyd. Felly amwn ni fod miwsig a sŵn wedi atynnu ers erioed.
Mae'r llun yma'n fy atgoffa i rhywsut fod y plentyn bach ynof fi'n dal i ganu.
'Branwen a'r Eryrod oedd y 'bois' i'r job'

Dyma lun ohona i mewn capel ochra Llanuwchllyn. Wrth fy ochr mae Branwen Haf, a thu ôl i ni, mae rhan helaeth o griw Eryrod Meirion.
Mae Branwen a minnau'n ffrindiau ers dyddiau prifysgol, mae'n siŵr. Ges i'r ffugenw 'Daf Dewin' ganddi achos mod i'n gallu rôlio smôcs yn gyflym iawn.
Ta waeth, 'dan ni'n ddygn wrthi'n recordio'r Eryrod yn canu darnau lleisiol wnes i eu hysgrifennu iddyn nhw ar gyfer fy albym yn y llun yma.
Un darn o'r enw 'Nofio Gwyllt' a darn arall o'r enw 'Gada'lgan'.
Dw i wedi bod yn ffan o ganu plygain neu leisiol ers blynyddoedd ac oeddwn i awydd ymestyn yr adain gerddorol ymhellach hefo'r albym yma, rhywsut.
Felly dyma feddwl mai Branwen a'r Eryrod oedd y 'bois' i'r job. Mi oeddan nhw hefyd.
'Llŷr yn gwatsiad allan amdana i'

Mae'n edrych fel 'mod i'n gwasgu llun arall o fi fy hun i mewn i'r erthygl 'ma, ond nid dyna'r gwirionedd...
Mae creu albym yn gallu bod yn brofiad od. Neu mae o i mi, o leiaf. Dydi o ddim yn brofiad glamorous neu roc a rôl fel 'sa lot yn meddwl.
Mae o'n gallu bod yn waith blinedig gwneud lot o benderfyniadau creadigol sydd yn para am byth mewn cyfnod byr a mae'n hawdd iawn i mi ffeindio'n hun mewn rhyw fath o paralysis penderfynu diawledig.
Dyna lle mae dy gynhyrchydd albym di'n dod mewn. Ac os gei di un da, mae hanner y gwaith o greu albym ti'n hapus hefo hi wedi ei wneud.
Mae Llŷr wedi recordio'r ddwy albym solo ddiwethaf i mi ei wneud a rydan ni wedi bod yn creu cerddoriaeth hefo'n gilydd ymhell cyn hynny. Llŷr 'di'r boi.
Os edrychwch chi ddigon manwl drwy'r ffenest fawr tu ôl i mi yn y llun uchod, fe welwch chi Llŷr. Dyna pan dw i'n licio'r llun yma. Llŷr yn gwatsiad allan amdana i.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Awst
- Cyhoeddwyd12 Mehefin