'Doeddwn i ddim yn meddwl y baswn i'n cerdded eto'

Rachael Hobbs
  • Cyhoeddwyd

Yn wreiddiol o Gaerloyw, ond bellach yn byw ym Methesda, mae Rachael Hobbs wedi creu argraff ar ei chymdogion a phobl leol. Cymaint felly nes bod criw o bobl wedi'i henwebu am wobr Gwneud Gwahaniaeth BBC Cymru Wales yn y categori gwobr actif.

Y rheswm dros hynny yw ei bod hi'n trefnu a chynnal teithiau cerdded cymunedol a sesiynau nofio gwyllt am ddim i ofalwyr di-dâl, a phobl sy'n gwella o fod yn gaeth i gyffuriau.

Mae'r stori am sut y daeth hi i gynnal y teithiau cerdded hyn yn rhyfeddol.

"Roeddwn i'n heini ac yn hoffi chwaraeon, ac yna fe ddigwyddodd bethau anodd iawn i mi. 'Nes i ddarganfod bod gen i nam corfforol a oedd gen i ers fy ngeni, ond doeddwn i ddim yn gwybod amdano.

"Mi gollais fy ngallu i symud. Am tua wyth mlynedd ro'n i ar faglau, a mi oedd rhaid i mi gael cwpl o lawdriniaethau mawr ar fy nghoesau.

"Roedd yn gyfnod eithriadol o dywyll ac anodd."

grŵp cerdded
Disgrifiad o’r llun,

Rachael a'i grŵp cerdded yn dilyn Llwybr Rhaeadr Cynfael

Yn ystod y cyfnod hwn, fe gafodd ei mab ei eni ac mae ganddo ef ei heriau hefyd. Mae'n awtistig ac yn ddieiriau (non-verbal autistic) ac mae ganddo oediad yn ei ddatblygiad.

"Roeddwn i'n cael trafferth cerdded ond ar yr un pryd ro'n i'n gorfod dysgu sut i fod yn rhiant ac yn ofalwr i berson anabl."

Fe weithiodd Rachael yn galed i gryfhau gan ail-ddysgu cerdded, neidio, dringo a nofio. Sylweddolodd yn ystod y cyfnod hwn pa mor bwysig oedd y gweithgareddau hyn iddi hi, yn enwedig fel gofalwr ac felly dyna beth sbardunodd hi i weithio gyda phobl mewn sefyllfa debyg i'w un hi.

Meddai: "Dw i'n deall pa mor anodd yw creu amser i chi eich hun pan rydych chi'n gofalu am rhywun sy'n annwyl i chi."

Felly fe sefydlodd grŵp cerdded a nofio gwyllt. Mae'n cynnal y sesiynau nofio gwyllt ar nosweithiau Mercher, a'r grŵp cerdded ar ddydd Iau. Er mwyn gallu cynnal y sesiynau nofio gwyllt, mae Rachael wedi cymhwyso fel achubwr bywyd a hyfforddwr nofio.

"Pan mae pobl yn mynd mewn i'r dŵr oer am y tro cyntaf ac yn gorchfygu'r teimlad o ofn y dŵr a nofio, maen nhw'n dod yn ôl gyda mwy o hyder bob tro. Mae'n deimlad gwerthfawr iawn, mor werthfawr."

Taith gerdded Llanffestiniog
Disgrifiad o’r llun,

Cerdded drwy bentref Llanffestiniog ar un o'r teithiau cerdded

Arferai Rachael weithio mewn swydd gorfforaethol yn treulio'i diwrnodau tu ôl i ddesg ar alwadau fideo drwy'r dydd, ond nawr mae wedi troi hynny ben i waered ac yn treulio'i dyddiau'n crwydro Parc Cenedlaethol Eryri – rhywbeth nad oedd hi, ar un adeg, yn meddwl y byddai'n gallu ei wneud.

"Doeddwn i ddim yn meddwl y baswn i'n cerdded eto, ac felly i gael fy enwebu am wobr am fod yn actif – mae'n ffantastig. Faswn i ddim wedi gallu breuddwydio am hyn pan o'n i'n disgwyl am lawdriniaethau."

Rachael Hobbs

Mae'n dweud fod gwneud y teithiau hyn a chynnal y nosweithiau yn eithriadol o bwysig iddi, ac y bydd hi'n parhau i'w gwneud nhw tra mae'r galw yna.

"Dw i'n gwybod sut beth yw methu â cherdded. Roedd o'n gyfnod poenus i mi yn feddyliol a chorfforol. Felly rwan bod gen i fy nghoesau'n ôl, dw i eisiau bod allan yn cerdded ac yn gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored cymaint â phosib.

"Heddiw rydyn ni'n gwneud ein 14eg taith gerdded.

"Dw i wedi gwneud 13 allan o'r 15 copa sy'n lleol i mi, felly dw i isio gwneud mwy o hyfforddiant er mwyn gwella fy nghymwysterau fel y gallaf i fynd â phobl yn uwch, yn bellach ac yn hirach.

"Dw i hefyd eisiau gwneud mwy o waith efo merched a phobl sy'n delio â'r system cyfiawnder troseddol, ond mi fydda i wastad eisiau gweithio efo gofalwyr a phobl sy'n gwella o fod yn gaeth i gyffuriau oherwydd mae'r ddau beth yna yn agos iawn at fy nghalon."

Mae Rachael yn un o bedwar sydd wedi'u henwebu yn y categori Gwobr Actif. Y tri arall yw Robin Jones am Farm Fit, Bellevue FC, a Chlwb Bocsio Amateur Tiger Bay. Bydd seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 20 Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig