Geraint Thomas yn ei ddagrau wrth i'w yrfa ddisglair ddod i ben

Geraint Thomas a'i fab ar ei feic wedi ei ras olafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas, gyda'i fab o'i flaen ar ei feic, yn cyfarch y dorf yng Nghaerdydd wedi ei ras olaf

  • Cyhoeddwyd

Mae miloedd o gefnogwyr wedi tyrru ar strydoedd Caerdydd er mwyn bod yn dyst i reid olaf y seiclwr Geraint Thomas.

Fe gadarnhaodd cyn-enillydd y Tour de France a medal aur Olympaidd yn gynharach eleni y byddai'n ymddeol ar ôl cystadlu yn Tour of Britain, a ddaeth i ben yn ei ddinas enedigol, Caerdydd, brynhawn Sul.

Olav Kooij oedd enillydd cymal olaf y ras, o Gasnewydd i Gaerdydd, a basiodd ger yr ardal ble y cafodd Thomas ei fagu a'i glwb seiclo pan yn blentyn, y Maindy Flyers.

Ond y Cymro oedd yn hawlio'r sylw wrth iddo groesi'r llinell derfyn ac roedd yn ei ddagrau wrth gael ei holi gan sylwebwyr teledu.

Geraint Thomas
Disgrifiad o’r llun,

"Ro'n i'n disgwyl awyrgylch da ond roedd hyn yn rhywbeth arall," meddai Geraint ar ôl y ras

Yn siarad ar ôl y ras, dywedodd Geraint fod yr olygfa ar y llinell derfyn yn "anhygoel".

"Ro'n i'n disgwyl awyrgylch da ond roedd hyn yn rhywbeth arall - a dechrau yn y felodrom yng Nghasnewydd hefyd a gafodd ei enwi ar ôl fi sy'n hollol boncyrs," meddai.

"Ges i fy ysbrydoli gan Nicole Cooke - wnes i weld hi a meddwl pam na all pobl eraill o Gymru neud yr un peth.

"Mae'r syniad o blant ifanc yn edrych arna i'r un ffordd yn teimlo'n od ond yn neis iawn ar yr un amser."

Ychwanegodd ei fod yn "emosiynol iawn" ar ddiwedd y ras ac yn "difaru gwisgo'r sbectol glir oedd yn dangos fy llygaid".

Seiclwyr proffesiynol mewn rhes yn dal teiars blaen eu beiciau yn yr awyr er mwyn talu teyrnged i Geraint ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna deyrnged gan gyd-seiclwyr a chefnogwyr i Geraint Thomas ar ddechrau'r cymal olaf ddydd Sul

Mae teulu'r seiclwr yn falch bod dathliad wedi ei drefnu ar safle Castell Caerdydd i nodi diwedd ei yrfa.

"Mae o'n haeddu dathliad," dywedodd ei dad-yng-nghyfraith, Eifion Thomas.

"O'n ni'n meddwl 'gawn ni 'neud rwbath amdano fo' a gathon ni syniad i gynnal hwn yn yn y castell fel dathliad gyrfa Geraint.

"'Dan ni 'di bod yn rhy brysur i fod yn emosiynol... heno 'ma bydd 'na ambell ddeigryn mae'n siŵr achos mae o 'di bod mor arbennig i ni fel teulu dros y pymtheg, ugain mlynedd dwytha."

Disgrifiad,

"Mae o'n haeddu dathliad," dywedodd ei dad-yng-nghyfraith, Eifion Thomas

Dywedodd mam y seiclwr, Hilary Thomas, ei bod "yn byrstio 'da balchder", ond yn "falch ei bod wedi darfod gyda seiclo".

"Roedd ei wylio'n rasio yn arteithiol ond mae e wedi gwneud mor dda."

Dywedodd ei dad, Howell Thomas, bod y ras olaf "wedi bod yn wirioneddol emosiynol".

Rhieni Geraint Thomas, Hillary a Howell Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dywed mam Geraint Thomas ei bod ond wedi gwylio uchafbwyntiau ei rasys gan ei bod ar bigau'r drain wrth eu gwylio'n fyw

"Rydyn ni fel clwb cyfan mor falch, " meddai cyd-gadeirydd Maindy Flyers, Alan Davies.

"Rydyn ni wedi bod yn ffodus ein bod ni wedi cael nifer o bobl ifanc sydd wedi dod drwy'r clwb ac sydd wedi mynd ymlaen i gyflawni medalau aur Olympaidd, pencampwriaethau recordiau byd.

"Ond Geraint oedd y cyntaf - fo oedd yr un wnaeth ddangos y ffordd i'r gweddill.

"Dyma waddol Geraint o fewn beicio yng Nghaerdydd."

James Williams a'i ferch, Heledd
Disgrifiad o’r llun,

James Williams gyda'i ddisgybl Heledd

Dywedodd James Williams fod Geraint Thomas "wedi bod yn ysbrydoliaeth i'm mhlant i wrth iddyn nhw ymarfer gyda Maindy".

"Ond hefyd fel athro yn ardal enedigol Geraint dwi'n teimlo bod proffil Geraint wedi codi proffil seiclo'n gyffredinol yn yr Eglwys Newydd ac yn ysbrydoli plant yn y dyfodol i fynd ar ei feics ac i seiclo ac i rasio."

Dywedodd Heledd, sy'n aelod o glwb seiclo Eglwys Newydd, ei bod hi wedi "edrych ymlaen i weld Geraint Thomas yn y castell".

Rhan o'r dorf wrth y linell derfyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na gyffro wrth aros i'r seiclwyr gyrraedd y llinell derfyn

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig