Ar daith i Kazakhstan

Kazakhstan
  • Cyhoeddwyd

Ar 4 Medi mae carfan Cymru'n wynebu Kazakhstan yn Astana mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026.

Mae hedfan yn uniongyrchol i Kazakhstan yn cymryd dros naw awr, ond mae llawer o gefnogwyr Cymru wedi gorfod hedfan gan stopio unwaith, ddwywaith neu hyd yn oed tair gwaith er mwyn cyrraedd y wlad sy'n ffinio Rwsia, Uzbekistan, Kyrgyzstan a China.

Ond be wyddoch chi am y wlad yma yng nghanolbarth Asia? Dyma ambell i ffaith ddiddorol.

Maint

Mae Gweriniaeth Kazakhstan yn wlad fawr, enfawr i ddweud y gwir - y nawfed mwyaf yn y byd, rhwng Yr Ariannin yn yr wythfed safle ac Algeria yn y 10fed.

Mae Kazakhstan yn 2,724,910 km sgwâr (1,052,090 milltir sgwâr) mewn arwynebedd, ac mae Cymru'n 20,782 km sgwâr (8,024 milltir sgwâr). Golygai hyn bod Kazakhstan 131 gwaith maint Cymru.

Mynyddoedd KazakhstanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Kazakhstan ardaloedd â sawl math o hinsawdd, gyda gaeafau yn gallu bod y oer a'r haf yn eithriadol o boeth

Poblogaeth

Er bod Kazakhstan yn wlad enfawr yn ddaearyddol, mae'n gymharol fach o ran poblogaeth, gyda 20.9 miliwn yn byw yn y wlad.

Yn ddiddorol mae'r rhan fwyaf o boblogaeth yn byw yn ne'r wlad, ger y ffin efo Uzbekistan a Kyrgyzstan, gydag ardaloedd poblog yn y gogledd a'r gorllewin hefyd - ond mae gan canol y wlad yn boblogaeth ryfeddol o isel.

Mae 71.3% o'r wlad o ethnigrwydd Kazakh, 14.6% yn Rwsiaidd, 3.34% yn Uzbeks, 1.83% o Wcráin, 1.5% yn Uyghurs ac 1.10% yn Almaenwyr.

Mae 69.3% o'r wlad yn Fwslemiaid, 17.2% yn Gristnogion, 0.2% yn dilyn crefyddau eraill, 2.3% heb unrhyw grefydd o gwbl, ac oddeutu 11% o'r boblogaeth heb ddatgan manylion crefydd.

kazakhstanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn gwisgo dillad traddodiadol Kazakh

Ieithoedd Kazakhstan

Mae dwy iaith swyddogol yn y wlad, sef Kazakh a Rwsieg.

Yn ôl cyfrifiad 2021 mae 83.7% o'r boblogaeth yn deall Rwsieg, a 80.1% yn gallu siarad Kazakh. Mae 35% o'r bobl yn gallu siarad Saesneg.

Mae Kazakh yn y teulu o ieithoedd Tyrcaidd (Turkic), a debycaf i'r ieithoedd Karakalpak a Kyrgyz.

Y brifddinas

Yn 1997 newidiwyd prifddinas Kazakhstan o Almaty i'r ddinas newydd o Akmola, a blwyddyn yn ddiweddarach cafodd Akmola ei ailenwi'n Astana.

Yn 2019, cafodd y brifddinas ei ailenwi'n Nur-Sultan, er anrhydedd i'r Arlywydd a oedd newydd ymddiswyddo wedi 28 mlynedd, Nursultan Nazarbayev.

Yna yn 2022, yn dilyn protestiadau, cafodd enw'r ddinas ei newid unwaith eto yn ôl i Astana.

Mae tua 1.4m o bobl yn byw yn Astana heddiw.

Astana Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Astana o'r awyr yn 2011, pan oedd y ddinas yn mynd drwy gyfnod o drawsnewid

Almaty a dinasoedd eraill

Er mai Astana yw'r brifddinas, Almaty yw'r ddinas fwyaf poblog yn y wlad. Mae Almaty yn ne-ddwyrain y wlad, ar y ffin efo Kyrgyzstan.

Mae'n ddinas sydd wedi tyfu'n gyflym. Ganrif yn ôl, 45,000 oedd yn byw yn Almaty, a heddiw mae dros 2.3m yn byw yno.

Yn dilyn Astana ac Almaty, Shymkent yw'r drydedd ddinas fwyaf, ac yna Aktobe a Karaganda.

Mae pum dinas yn Kazakhstan sydd â phoblogaeth mwy na Chaerdydd.

AlmatyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y ddinas Almaty. Mae Almaty'n agos i'r ffin â Kyrgyzstan a China, ac mae'n ddinas arwyddocaol yn hanesyddol am ei fod ar Ffordd y Sidan

Arian

Yr arian yn Kazakhstan yw'r Tenge, ac o fewn un Tenge mae 100 Tiyn.

Mae 100 Tenge yn cyfateb i tua 14 ceiniog o arian Prydain.

 KazakhstanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arian Kazakhstan, y Tenge

Annibyniaeth

Pan ddaeth yr Undeb Sofietaidd i ben ffurfiwyd 15 gwladwriaeth newydd annibynnol. Y cyntaf oedd Lithwania ym mis Mawrth 1990, yna Latfia ym mis Mai 1990 ac Estonia ym mis Awst 1990.

Kazakhstan oedd yr olaf o'r 15 i ddatgan annibyniaeth, gan wneud hyn ar 26 Rhagfyr, 1991.

annibyniaeth Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Arlywydd cyntaf Kazakhstan, Noursoultan Nazarbaiev (yn y canol), gyda Boris Yeltsin (ar y chwith) a Leonid Kravtchouk (ar y dde) ym mis Rhagfyr 1991

Yr eryr aur

Mae'r eryr aur yn symbol cenedlaethol ac yn rhan annatod o ddiwylliant y Kazakh, gan gynrychioli cryfder, rhyddid ac annibyniaeth. Cymaint yw pwysigrwydd yr aderyn i'r wlad, mae'n ymddangos ar y faner genedlaethol.

Mae'n arferiad hynafol i helwyr o'r enw berkutchi hyfforddi eryrod euraidd i hela llwynogod ac anifeiliaid eraill, ac mae'r traddodiad yma wedi ei drosglwyddo lawr i genedlaethau o Kazakhs dros y canrifoedd.

Mae ganddo arwyddocâd diwylliannol, ond heddiw mae hefyd yn cael ei ddefnyddio fel atyniad twristaidd.

Golden EagleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Heliwr yn gafael mewn eryr aur yn y mynyddoedd ger Almaty

Enwogion o Kazakhstan

Kassym-Jomart Tokayev yw Arlywydd Kazakhstan ers 2019, ac yn un o'r Kazakhs enwocaf yn y byd.

Mae enwogion hanesyddol yn cynnwys yr athronydd Al-Farabi, y rhyfelwr Bogenbay Batyr, a'r Khan cyntaf o Kazakhstan, Kerei Khan.

Yn fwy diweddar mae'r enwogion yn cynnwys y cyfarwyddwr a'r cynhyrchwyr Hollywood, Timur Bekmambetov, y canwr byd-enwog Dimash Qudaibergen, a'r actores Samal Yeslyamova.

Yn y byd chwaraeon mae athletwyr fel y rhedwraig Olga Rypakova ac Olga Shishigina wedi gadael eu marc, a hefyd y codwr pwysau Anatoly Khrapaty a'r pencampwr Olympaidd judo, Yeldos Smetov.

Mae sawl pencampwr reslo a bocsio wedi dod o Kazakhstan, ond yr enwocaf yw Gennady Gennadyevich Golovkin, un o'r bocswyr pwysau canol gorau ers troad y ganrif.

GolovkinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gennady Golovkin, sy'n cael ei 'nabod yn aml fel GGG (tripple G), un o focswyr gorau ei genhedlaeth

Borat

Mae'n debyg os soniwch chi am Kazakhstan i rai pobl, un o'r pethau cyntaf fydden nhw'n meddwl amdano fydda'r ffilm Borat, gafodd ei ryddhau yn 2006.

Yn y ffilm, sy'n cael ei ffilmio mewn steil mockumentary, mae Sacha Baron Cohen yn chwarae rhan Borat Sagdiyev, newyddiadurwr o Kazakhstan sy'n ymweld â'r Unol Daleithiau.

Bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach mae'r ffilm ddychanol yn cael ei hystyried gan lawer fel un sarhaus, a hyd yn oed hiliol, am fod llawer o'r bobl yn Kazakhstan ddim yn deall cyd-destun y ffilm pan oedd Cohen yn ffilmio yno.

Ond mae hefyd adroddiadau bod rhai pobl yn Kazakhstan yn ddiolchgar i Cohen am godi proffil y wlad a chynyddu twristiaeth a hyrwyddo economi'r wlad.

Kazakh
Disgrifiad o’r llun,

Sacha Baron Cohen yn ei rôl fel Borat yn y ffilm o 2006

Tîm pêl-droed Kazakhstan

Chwaraeodd Kazakhstan ei gêm ryngwladol gyntaf ond chwe mis ar ôl annibyniaeth, gan golli 1–0 yn erbyn Turkmenistan yn Almaty.

Fe ymunodd Kazakhstan ag UEFA ym mis Ebrill 2002, blwyddyn ar ôl gadael yr AFC, corff llywodraethu pêl-droed Asia.

Cafodd y penderfyniad ei gwneud yn rhannol am fod rhywfaint o diriogaeth Kazakhstan yn dechnegol yn Ewrop, ac roedd cymdeithas bêl-droed Kazakhstan yn credu y byddai ymuno ag Ewrop yn cynnig gwell cyfleoedd i dimau a chwaraewyr y wlad.

Cymru v Kazakhstan

Dim ond unwaith mae Cymru a Kazakhstan wedi wynebu ei gilydd, a hynny oedd y gêm yng Nghaerdydd fis Mawrth eleni.

Enillodd Cymru 3-1 gyda Dan James, Ben Davies a Rabbi Matondo'n sgorio dros Gymru.

Mae Kazakhstan yn safle 114 yn netholion y byd FIFA ar hyn o bryd, a safle 83 yw ei safle uchaf erioed - ym mis Medi 2016.

Ar hyn o bryd mae Cymru'n 31ain yn ôl detholion FIFA.

KazakhstanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Cymru'n dathlu gôl Ben Davies yn y fuddugoliaeth yn erbyn Kazakhstan yng Nghaerdydd ar 22 Mawrth, 2025

Canlyniadau cofiadwy

Mae Kazakhstan wedi cael buddugoliaethau nodedig dros y ddegawd ddiwethaf, yn enwedig gartref.

Ym mis Mai 2019 fe enillodd Kazakhstan yn erbyn Yr Alban, 3-0 mewn gêm ragbrofol i gyrraedd Euro 2020.

Ym mis Mawrth 2023 roedd Kazakhstan ar ei hôl hi 0-2 yn erbyn Denmarc mewn gêm i gyrraedd Euro 2024, ond fe ymladdodd y tîm yn ôl i ennill 3-2 mewn gêm a ddenodd sylw'n rhyngwladol.

Ym mis Mehefin 2023 fe enillodd Kazakhstan yng Ngogledd Iwerddon gyda Abat Aimbetov yn sgorio unig gôl y gêm. Dri mis yn ddiweddarach fe gurodd Kazakhstan Gogledd Iwerddon unwaith eto o'r un sgôr, y tro yma yn Astana.

kazakhFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Kazakhstan yn dathlu buddugoliaeth enwog yn erbyn Denmarc, 26 Mawrth, 2023

Y stadiwm cendlaethol

Yr Astana Arena yw'r stadiwm cenedlaethol, ac mae hefyd yn gartref i'r timau FC Astana ac FC Bayterek.

Agorwyd y stadiwm yn 2009 ac mae'n dal hyd at 30,244 o bobl.

Astana Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Astana Arena, ble fydd Cymru'n herio Kazakhstan

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.