Lluniau: Yr awyr yn goleuo dros Gymru

Yr olygfa uwchben Llanfair-Dyffryn-Clwyd
- Cyhoeddwyd
Yn dilyn storm solar bwerus, roedd golygfeydd godidog o Lewyrch yr Arth, neu'r aurora borealis, i'w gweld dros Gymru nos Iau.
O Fôn i Fynwy, roedd yr awyr wedi ei goleuo'n hardd.
Mae'r golygfeydd i'w gweld oherwydd cyfuniad o'r golau gogleddol arferol a gweithgaredd anghyffredin ar wyneb yr haul.
Er bod y goleuadau i'w gweld uwchben y gwledydd mwya' gogleddol fel arfer, fel Gwlad yr Iâ, roedd y storm hon mor gryf fel bod yr awrora i'w weld mor bell i'r de â'r Swistir a'r Eidal.
Mae sawl enw gwahanol am yr aurora borealis yn Gymraeg - Gwawl y Gogledd, Goleuadau'r Gogledd ac i eraill Ffagl yr Arth neu Lewyrch yr Arth.
Dyma rywfaint o'r golygfeydd dros Gymru nos Iau.

Pont Pen-y-benglog yng Ngwynedd

Tre'r Ceiri ym Mhen Llŷn

Yr awyr uwchben tref Cei Connah yn Sir Y Ffilnt
Dyma Elen yn esbonio pam fod y ffenomen yn digwydd yn amlach yn ddiweddar.

Moelfre, ar arfordir dwyreiniol Ynys Môn

Llynnau Cregennen ger Dolgellau

Yr anifeiliaid anwes yn cael golwg hefyd - yma yn Llangollen, Sir Dinbych

Yr awyr uwchben Yr Wyddgrug yn y gogledd-ddwyrain

Un arall gan Cat Lloyd o beftref Penmon, Ynys Môn

Cefndir godidog i'r dolffin yma yn Aberporth

Nantmel, ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys

Yr olygfa oddi ar arfordir Aberporth yng Ngheredigion

Dinas Abertawe o'r awyr

Pentre' Penmon ar ochr ddwyreiniol Ynys Môn

Yr olygfa o Fynydd y Garth

Tudweiliog, Pen Llŷn

Castell Llanhuadain, Sir Benfro

Yr olygfa dros Langynnwr, Caerfyrddin