Rheilffordd fodel a dorrodd record byd yn teithio i Geredigion

Mae'r fodel yn 200 troedfedd o hyd ac 14 troedfedd o led a'n cynnwys cyfanswm o 702 metr o gledrau
- Cyhoeddwyd
Am y naw diwrnod nesaf fe fydd arddangosfa o fodel o reilffordd enfawr i'w gweld yn Aberystwyth – yr ail dro yn unig i'r model gael ei arddangos yn gyhoeddus.
Y cynhyrchydd pop, Pete Waterman, yw perchennog y model a dorrodd record Guinness y llynedd am fod y model o reilffordd gludadwy fwyaf yn y byd.
Mae'n 200 troedfedd o hyd ac 14 troedfedd o led. Mae'n cynnwys cyfanswm o 702 metr o gledrau oherwydd mewn sawl lle mae traciau dwbl a hefyd pedwar trac yn rhedeg yn gyfochrog.
Mae 45 o drenau yn rhedeg arno sy'n cynnwys cyfanswm o dros 500 o gerbydau.
Mae'r model wedi cael ei osod ochr yn ochr â'r lein sy'n cario trenau stêm Cwm Rheidol rhwng Aberystwyth a Phontarfynach.

Dywedodd Pete Waterman ei fod wrth ei fodd i fynd â'r model i Gwm Rheidol
Dywedodd Chris Clenton – rheolwr prosiect Making Tracks, sy'n gyfrifol am y model – mai'r nod yw codi diddordeb ymhlith pobl i weithio gyda'u dwylo.
"Ry'n ni yma i ysbrydoli pobl i wneud pethau – Lego, citiau Airfix, rheilffyrdd model, tai dol, unrhyw beth," meddai.
"Ry'n ni eisiau cael pobl i adeiladu pethau, cael nhw oddi ar eu sgriniau, a gwneud rhywbeth corfforol, oherwydd dyna ddyfodol peirianneg yn y wlad hon.
"Mae'r sgiliau gallwch chi ddysgu mewn rheilffyrdd model yn eich helpu ym mhob math o ddiwydiannau gwahanol.
"Os gallwch chi roi rheilffordd fodel at ei gilydd, gallwch chi wneud DIY. Mae yna lawer o sgiliau gwahanol – modelu 3D, ffiseg, peirianneg, hanes.
"Ry'ch chi'n dysgu am economeg am eich bod chi'n dysgu am hanes rheilffyrdd a sut mae hynny wedi effeithio ar y wlad."

"Ry'n ni eisiau cael pobl i adeiladu pethau, cael nhw oddi ar eu sgriniau, " meddai Chris Clenton
Yn y model enfawr mae'r lein trên yn pasio trwy orsafoedd Milton Keynes a Watford tuag at Lundain.
Mae'r cyfan wedi cael ei ail greu mewn manylder – gan gynnwys tai a chaeau wrth ochr y trac, y platfformau, meysydd parcio ac adeiladau eraill.
Mae llawer o'r darnau wedi cael eu creu gan ddefnyddio argraffydd 3D.

Tynnodd Dafydd Wyn Morgan luniau o orsaf Watford yn y model, a'u hanfon at ei frawd yng nghyfraith, a oedd yn meddwl bod Dafydd ar ei ffordd i'w ymweld
Mae gan Dafydd Wyn Morgan o Dregaron berthnasau sy'n byw ger Watford.
Tynnodd Dafydd luniau o orsaf Watford yn y model, a'u hanfon at ei frawd yng nghyfraith, a oedd yn meddwl bod Dafydd ar ei ffordd i'w ymweld.
"Dwedodd e 'I didn't know you were in Watford Junction! Shall I come and pick you up?' Soniais i am y model a gafodd e sioc, mae fe mor realistig," meddai Dafydd.
Yn ogystal â'r rheilffordd fodel enfawr, fe fydd 'Gŵyl Stêm' yn cael ei chynnal ar y penwythnos fydd yn cynnwys cyfle i weld trenau stem gwreiddiol lein y Rheidol yn rhedeg ac yn ymddangos gyda'i gilydd am y tro cyntaf mewn dros 40 mlynedd.

Uchafbwynt yr ŵyl yw ymddangosiad y tair injan stêm gafodd eu hadeiladu i redeg ar reilffordd Cwm Rheidol yn y 1920au, meddai Ioan Lord
Dywedodd Ioan Lord, hanesydd y rheilffordd, mai uchafbwynt yr ŵyl yw ymddangosiad y tair injan stêm gafodd eu hadeiladu i redeg ar reilffordd Cwm Rheidol yn y 1920au.
"Byddan nhw i gyd yn rhedeg gyda'u henwau arnyn nhw eto am y tro cyntaf mewn blynyddoedd," meddai Ioan.
"Byddan nhw yn eu hen lifrau British Rail, mae'n gyfle prin a hefyd bydd modd gyrru trên lan a lawr y lein ac i weld yr holl injans, mae'n gyffrous iawn."


O dan oruchwyliaeth gwirfoddolwyr profiadol o dîm Making Tracks, bydd aelodau o'r cyhoedd yn cael y cyfle i ddefnyddio tabledi i reoli trenau ar y model, gan ddod yn gyfranogwyr yn hytrach na gwylwyr yn unig.
Mae'r model wedi ei gynllunio i gyd-fynd â dathliadau 200 mlwyddiant y rheilffordd fodern ym Mhrydain, a bydd yn cynnwys cerbydau rholio sy'n nodi sawl cyfnod, o oes y stêm i brototeipiau disel a thrydan modern.

Mae'n gyfle prin i bobl weld y strwythur, sydd yn rhan o gasgliad personol Pete Waterman.
"Rwyf wrth fy modd gyda'r cynlluniau i ddod â'r model yma i Gwm Rheidol," meddai Mr Waterman.
"Dyma'r tro cyntaf i ni fynd â'r rheilffordd 208 troedfedd allan ar daith ers cyflawni'r Record Byd ym mis Ebrill 2024, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ei rhedeg eto.
"Hefyd, gallu caniatáu i bobl roi cynnig arni. Mae'n mynd i fod yn anhygoel."
Mae'r arddangosfa ar agor i'r cyhoedd rhwng 25 Hydref a 2 Tachwedd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.