Honiad cam-drin yn hysbys o fewn yr Eglwys yng Nghymru 17 mlynedd cyn cwyn

Y Cyn-Esgob Anthony PierceFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd honiad ei wneud yn erbyn Anthony Pierce yn 1993 mewn cysylltiad â dioddefwr a fu farw yn 2010

  • Cyhoeddwyd

Mae'n ymddangos bod "ffigyrau blaenllaw" o fewn yr Eglwys yng Nghymru yn gwybod am honiad o gam-drin rhyw yn erbyn offeiriad aeth ymlaen i fod yn esgob 17 mlynedd cyn i'r wybodaeth gael ei drosglwyddo i'r heddlu.

Gall BBC Cymru ddatgelu bod dioddefwr honedig yr Esgob Anthony Pierce wedi marw erbyn i'r eglwys gysylltu â'r heddlu yn 2010.

Roedd hynny'n golygu nad oedd modd ymchwilio i'r honiad o ymosodiad rhywiol, a gafodd ei wneud yn 1993.

Daeth y wybodaeth ddim ond i'r amlwg ar ôl i gyn-Esgob Abertawe ac Aberhonddu gyfaddef pum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blentyn mewn achos arall.

Mae'r eglwys yn dweud bod adolygiad annibynnol wedi dechrau, sydd ddim yn gysylltiedig â'r achos llys, i "ymddygiad amhriodol (a throseddol posib)" Pierce yn, neu o gwmpas, 1990.

Dywedodd Heddlu De Cymru: "Yn anffodus, yn yr achos penodol hwn roedd y dioddefwr wedi marw yn 2010 pan wnaed honiadau o gam-drin.

"Felly ni allwn fwrw ymlaen â'r ymchwiliad."

Ailedrych ar anrhydeddau

Fe gafodd Pierce ei ethol yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu ac fe fu yn y swydd am naw mlynedd o 1999.

Yn 2002 cafodd ei wneud yn gadlywydd Urdd Sant Ioan - anrhydedd i unigolion am wasanaeth elusennol eithriadol mewn ysbytai ac i'r rhai mewn angen.

Yn 67 oed fe gamodd i lawr fel Esgob Abertawe ac Aberhonddu ym mis Ionawr 2008, ond fe gafodd gymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

Mae'r brifysgol yn dweud y byddan nhw'n adolygu hynny.

Daeth yr honiadau o gam-drin rhywiol i'r amlwg ar ôl i'r cyn-esgob gyfaddef pum cyhuddiad hanesyddol o ymosod yn anweddus ar blentyn gwrywaidd dan 16 oed.

Fe gyflawnodd y troseddau rhwng 1985 a 1990 pan oedd yn offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe.

Dechreuodd swyddog diogelu'r Eglwys ymchwilio i'r honiadau yn 2023.

Bydd Pierce yn cael ei ddedfrydu am y troseddau ar 7 Mawrth yn Llys y Goron Abertawe.

Llys y Goron Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Anthony Pierce yn cael ei ddedfrydu am ei droseddau ar 7 Mawrth yn Llys y Goron Abertawe

Ar ôl i'r troseddau ddod i'r amlwg dywedodd yr Eglwys yng Nghymru: "Cafodd ymchwiliad mewnol ei gychwyn a chanfuwyd tystiolaeth yn awgrymu bod nifer fechan o aelodau'r Eglwys yng Nghymru yn 1993 wedi bod yn ymwybodol o honiad pellach yn erbyn Mr Pierce, ond na rannwyd hwn gyda'r Heddlu tan 2010."

Bydd yr adolygiad annibynnol yn cael ei arwain gan Gabrielle Higgins, a fydd yn edrych ar sut gafodd yr ail honiad ei drin gan yr eglwys.

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru ei bod yn ymwneud â honiadau o "ymddygiad amhriodol (a throseddol posib)" yn erbyn y cyn-esgob.

Bydd hefyd yn edrych ar gyfnodau o amser pan gafodd caniatâd Pierce i weinyddu ei ddileu a'i adfer rhwng 2011 a 2016.

Bydd yr adolygiad hefyd yn ystyried sut mae systemau presennol yr eglwys yn ymdrin â honiadau wrth benodi Archddiaconiaid ac Esgobion, ac a oes angen newidiadau.

'Crafu'r wyneb'

Mae arbenigwyr yn galw am adolygiad ehangach i sut mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymdrin â honiadau hanesyddol.

Mae Rebecca Sheriff yn gyfreithiwr ac yn arbenigwr cam-drin rhywiol yn ystod plentyndod, sydd wedi cynrychioli nifer o gleientiaid mewn achosion sifil llwyddiannus yn erbyn yr Eglwys yng Nghymru dros gamdriniaeth gan y cyn-ficer Stephen Brooks yn Abertawe yn y 1980au a'r 1990au.

Er ei bod yn croesawu'r adolygiad, dywedodd ei bod yn ymddangos nad oedd yr honiad hwn yn erbyn Pierce wedi'i ddatgelu i'r heddlu, a'i bod yn ymddangos na chafodd camau eu cymryd ac y gallai fod methiannau hanesyddol eraill.

"Mae'n bosib mai dim ond crafu'r wyneb ydy hyn," meddai.

"Rwy'n meddwl ei bod yn amlwg iawn yma na chafodd ei gosbi. Cafodd ddyrchafiad, ac mewn gwirionedd mae gan hynny ganlyniadau ehangach.

"Rwy'n meddwl ei bod hi'n hen bryd i'r Eglwys yng Nghymru agor a chaniatáu i ymchwiliad llawn gael ei gynnal ar draws y sefydliad cyfan yn hytrach na dim ond mewn perthynas â'r achos penodol hwn."

Amheuon o 'sgubo dan garped'

Mae'r cyfreithiwr David Greenwood yn gweithio gyda'r elusen MACSAS, sy'n cynrychioli goroeswyr cam-drin rhywiol yr Eglwys, ac mae wedi cynrychioli cleientiaid yn erbyn yr Eglwys yng Nghymru yn y gorffennol.

Croesawodd ddatganiad yr Eglwys y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi'n llawn, ond mae ganddo bryderon am y ffordd mae'r adolygiad yn cael ei gynnal.

"Yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi sefydlu'r ymchwiliad," meddai.

"Dyw hynny ddim yn annibynnol a'r eglwys hefyd sydd wedi dewis pwy fydd yn cynnal yr adolygiad ac mae yna gyfyngiadau ynglŷn â'r dyddiadau fydd yn cael eu harchwilio sydd ddim yn cynnwys y troseddau sy'n mynd trwy'r llysoedd ar hyn o bryd.

"Oni bai bod y broses yn hollol gywir, fe fydd amheuon yn parhau fod yna ymgais i gadw'r peth yn dawel neu ei 'sgubo dan garped."

Rocio Cifuentes
Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes yn galw am sefydlu corff annibynnol i oruchwylio diogelu mewn sefydliadau crefyddol

Dywed yr Eglwys yng Nghymru fod eu dewis o berson i arwain yr adolygiad wedi'i gymeradwyo gan eu pwyllgor diogelu ac nad oedd "unrhyw Esgobion na chlerigwyr, nac unrhyw un o Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu yn rhan o'r dewis".

Mae arweinydd yr adolygiad, ychwanegodd, "â phrofiad proffesiynol [a] does dim cysylltiad blaenorol â'r Eglwys yng Nghymru".

Mewn datganiad, ychwanegodd llefarydd bodd modd ymestyn telerau'r adolygiad pe bai angen.

"Fe gafodd hyn oll ei ddatgan yn gyhoeddus ar y cyfle cyntaf. Ymhell o 'sgubo unrhyw beth dan garped, mae hyn yn dangos yn gwbl groes."

Mae'r eglwys yn annog unrhyw un sydd â phryderon i'w mynegi nhw.

"Os yw ein pobl a'n prosesau wedi methu dioddefwyr a goroeswyr cam-drin yn y gorffennol, rydym yn bwriadu cymryd cyfrifoldeb am y ffaith honno a rhoi'r gwersi a ddysgwyd ar waith yn llawn."

Sefydlu corff annibynnol

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, yn hytrach nag ymchwiliad arall, mae achosion fel y rhain yn dangos pam fod angen i Lywodraeth Cymru ddilyn argymhellion ymchwiliad cenedlaethol diweddar a sefydlu corff annibynnol i oruchwylio diogelu mewn sefydliadau crefyddol.

"Mae'r ffaith nad oes arolygiaeth annibynnol o drefniadau diogelu sefydliadau crefyddol yn fwlch sylweddol ac yn bryder sylweddol," meddai.

"Rwyf wedi codi hyn gyda Llywodraeth Cymru gan nad ydw i'n teimlo y byddwn yn gallu gwneud gwelliannau o ran cadw plant yn fwy diogel os nad ydan ni'n llenwi'r bwlch hwnnw."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n parhau i "adolygu a chryfhau systemau diogelu a gweithredu argymhellion yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol" gafodd ei gyhoeddi yn 2022.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.