Rhannu fideos am golli gwallt yn cyrraedd miliynau o bobl

Disgrifiad,

Mae Nicole Thomas yn dweud bod pethau "dal yn rili anodd o ddydd i ddydd"

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc sydd wedi byw gydag alopesia ers iddi fod yn 13 oed yn dweud bod ei "gwallt yn dal i fod yn rili bwysig ond mae byw bywyd yn bwysicach erbyn hyn".

Er i Nicole Thomas, sy'n wreiddiol o Ynys Môn, gael triniaeth lwyddiannus yn ystod ei harddegau fe ddechreuodd hi golli ei gwallt unwaith eto y llynedd.

Dywedodd ei bod wedi "dod i ddysgu sut i ddelio efo'r cyflwr" er ei bod "dal yn rili anodd o ddydd i ddydd".

Mae bellach yn rhannu cynnwys digidol, sy'n cyrraedd miliynau o bobl, a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

'Do'n i ddim yn byw'

Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod pan gafodd y diagnosis, dywedodd ei fod yn "rili anodd, ro'n i'n hogan yn fy arddegau... dydi o ddim yn beth normal i hogan golli ei gwallt".

Aeth ymlaen i sôn am yr effaith feddyliol gafodd y cyflwr arni fel merch ifanc.

"Doedd gen i ddim lot o hyder, 'swn i'n deud yn sbïo 'nôl mod i wedi dioddef o iselder hefyd.

"O'n i ddim eisiau gadael y tŷ, o'n i ddim eisiau siarad, colli ffrindiau, o'n i ddim hyd yn oed eisiau siarad efo mam a dad. Nes i stopio mynd i'r ysgol.

"'Swn i'n deud alopesia oedd bywyd fi, roedd o'n cymryd drosodd pob dim ac o'n i ddim yn byw."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nicole fod y cyflwr wedi "cymryd drosodd pob dim" wrth dyfu fyny

Erbyn hyn, mae'n dweud ei bod wedi "dysgu sut i ddelio efo'r cyflwr, ma' dal yn rili anodd o ddydd i ddydd".

"Fedrai'm gadael y cyflwr i gymryd dros bywyd fi eto."

Wedi iddi sylwi ei bod yn dechrau colli ei gwallt eto ryw flwyddyn yn ôl, dywedodd ei bod wedi penderfynu rhannu ei thaith ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Fedrai'm cuddio ddim mwy, fedrai'm jyst aros yn stafell fi, roedd rhaid i fi ddechrau siarad," meddai.

Dywedodd ei bod wedi "ffeindio gymaint o gymorth o rannu fy stori... a gobeithio yn sgil hynny 'mod i wedi gallu rhoi cysur a chymorth i bobl eraill sy'n dioddef".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nicola fod rhannu ei stori ar-lein wedi cynnig "gymaint o gymorth" iddi

O'r ferch fach ddihyder oedd yn methu gadael ei hystafell wely, i gynhyrchu fideos sy'n denu miliynau o wylwyr, dywedodd: "Dwi’n meddwl 'sa’r person o ni yn fy arddegau yn cael sioc huge yn gweld pa mor hyderus ydw i yn rhannu fy stori ar-lein i filiynau o bobl gael gweld.”

Ond dywedodd ei bod yn "teimlo‘n reit drist hefyd yn sbïo 'nôl ar y person oeddwn i achos dwi’n meddwl fydde stori fi lot gwahanol os fysen i jyst wedi ffeindio’r hyder 'na o rywle i allu siarad".

Triniaeth newydd yn 'cynnig gobaith'

Er nad oes gwellhad hir-dymor ar gyfer y cyflwr, mae triniaeth newydd wedi ei chymeradwyo ar y gwasanaeth iechyd eleni.

Bydd y cyffur Ritlecitinib neu Litfulo ar gael yng Nghymru, gyda galw sylweddol amdano.

Dywedodd Dr Megan Samuel, sy'n arbenigo mewn cyflyrau sy'n effeithio ar y croen, fod y cyffuriau newydd sydd wedi eu cynnig yn ddiweddar "yn cynnig gobaith" a'u bod yn "addawol iawn i bobl sy'n dioddef o alopesia".

Esboniodd fod y driniaeth newydd yn "helpu'r gwallt i dyfu 'nôl ac yn gweithio mewn ffordd lle mae'n atal y system imiwnedd i ymosod ar y follicles gwallt yna".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Megan Samuel fod y cyffuriau yn "addawol iawn i bobl sy'n dioddef o alopesia"

Dywedodd fod alopesia yn "gyflwr hynod anodd i‘w drin a s'dim gwellhad ar ei gyfer".

Ychwanegodd fod y cyflwr yn "gallu dod 'nôl... ma' rhai pobl yn dioddef am weddill eu bywyd gyda'r cyflwr yma".

"Ma hwn [y driniaeth newydd] yn gallu bod yn rhywbeth falle bydd yn helpu pobl i gael y gwellhad y maen nhw wedi disgwyl amdano ers sbel".

I Nicole, mae'r driniaeth newydd "wedi rhoi gobaith i ni sy’n dioddef, doedd gynnon ni ddim opsiynau o’r blaen".

Mae hi'n "dal i gysidro" a fydd hi'n manteisio ar y driniaeth.

Pynciau cysylltiedig