Arddangosfa barhaol i ddathlu Deiseb Heddwch Menywod Cymru

Mae'r arddangosfa yn cynnwys lluniau o'r gist bren a'r pedair a gyflwynodd y ddeiseb yn Washington yn 1924
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arddangosfa yn cynnwys lluniau o'r gist bren a'r pedair a gyflwynodd y ddeiseb yn Washington yn 1924

  • Cyhoeddwyd

Mae arddangosfa barhaol newydd wedi agor yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth i ddathlu Deiseb Heddwch Menywod Cymru.

Cafodd y ddeiseb ei ffurfio yn Aberystwyth yn 1923 ac fe arwyddodd oddeutu 400,000 o fenywod o bob rhan o Gymru eu henwau arni.

Ym mis Chwefror 1924 cafodd y ddeiseb ei chludo mewn cist dderw i'r Unol Daleithiau gan bedair menyw o Gymru o dan arweiniad Annie Hughes Griffiths.

Cafodd y ddeiseb – oedd, mae'n debyg, yn saith milltir o hyd – ei chyflwyno i fenywod America ac roedd yn galw arnyn nhw i ymuno yn yr ymdrech i greu byd heb ryfel.

Roedd y ddeiseb hefyd yn annog yr Unol Daleithiau i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd, a oedd wedi'i sefydlu ym 1919 i "hyrwyddo cydweithio rhyngwladol ac i gyflawni heddwch a diogelwch".

Roedd yn gyfnod pan oedd dinistr a cholledion y Rhyfel Byd Cyntaf yn dal yn glir yn y cof.

Bu farw 40,000 o ddynion a menywod o Gymru yn ystod y rhyfel a ddaeth i ben yn 1918.

Mae tudalennau o'r ddeiseb yn cael eu dangos ochr yn ochr â straeon menywod a oedd wedi ei llofnodi.
Disgrifiad o’r llun,

Mae tudalennau o'r ddeiseb yn cael eu dangos ochr yn ochr â straeon menywod a oedd wedi ei llofnodi

Ganrif ar ôl i'r ddeiseb gael ei chreu, yn 2023, fe ddychwelodd i Gymru ar ôl i Sefydliad Smithsonian yn yr Unol Daleithiau benderfynu ei rhoi yn rhodd i bobl Cymru.

Nawr mae ganddi gartref newydd yn yr arddangosfa barhaol yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Dywedodd Rhodri Llwyd Morgan, prif weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bod "ardal arddangos bwrpasol yn golygu bod hanes y ddeiseb yn cael ei adrodd a'i fod ar gof a chadw i genedlaethau'r dyfodol gael dysgu am wydnwch a gweledigaeth y menywod yma".

'Heddychwyr' yw'r enw ar yr arddangosfa, lle mae modd gweld copi o'r ddeiseb eiconig a'r gist dderw a gariodd y neges heddwch o Gymru i'r Unol Daleithiau.

Mae tudalennau o'r ddeiseb yn cael eu dangos ochr yn ochr â straeon menywod a oedd wedi ei llofnodi.

Hefyd mae stori arweinydd y ddirprwyaeth heddwch, Annie Hughes Griffiths yn cael ei hadrodd.

Mae eitemau o'i harchif hi i'w gweld hefyd, gan gynnwys y dyddiadur a gadwodd hi ar y daith ar draws Môr Iwerydd, gyda'i geiriau yn dod yn fyw mewn sain a ffilm.

llyfr braslunio Greenham Claudia WilliamsFfynhonnell y llun, Ystad Greenham Claudia Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arddangosfa yn cynnwys hanes ymgyrchoedd heddwch eraill - dyma lyfr braslunio Greenham Claudia Williams

Yn yr Unol Daleithiau cafodd y ddirprwyaeth o Gymru groeso cynnes ac aethon nhw ar daith i ddinasoedd mawr, gan annerch mewn cyfarfodydd cyhoeddus a chlybiau menywod ac eglwysig.

Gydag Annie Hughes Griffiths, a oedd yn byw yn Aberystwyth, roedd Mary Ellis, Elined Prys a Gladys Thomas.

Fe wnaeth Annie Hughes Griffiths gwrdd â'r Arlywydd Calvin Coolidge mewn digwyddiad anffurfiol yn y Tŷ Gwyn.

Hefyd yn yr arddangosfa, mae cyfrifiaduron sy'n caniatáu i ymwelwyr chwilio am enwau eu perthnasau oedd wedi llofnodi'r ddeiseb mewn cymunedau ar draws Cymru – roedd un o bob tair menyw yng Nghymru wedi'i llofnodi, a chyfanswm yr enwau oedd 390,296.

Mae modd chwilio am yr enwau ar gyfrifiaduron am fod cannoedd o wirfoddolwyr wedi helpu i drawsgrifio pob llofnod yn y ddeiseb.

Y neges yw 'byd heb wrthdaro'

Bu Academi Heddwch Cymru yn cydweithio gyda'r Llyfrgell Genedlaethol ar y prosiect.

Dywedodd ysgrifennydd yr academi, yr Athro Mererid Hopwood: "Mewn dyddiau sy'n llawn straeon am ryfel a thrais, mae penderfyniad ein Llyfrgell Genedlaethol i neilltuo lle i'r arddangosfa bwysig hon yn ddatganiad o ffydd a gobaith.

"Mae'n rhoi cyfle inni gael ein hysbrydoli gan y gorffennol i ddychmygu - ac i greu - dyfodol lle mae pobloedd y byd yn gallu cyd-fyw'n heddychlon â'i gilydd."

Cafodd yr arddangosfa newydd ei hagor yn swyddogol gan y gweinidog diwylliant Jack Sargeant AS.

"Mae'r ymgyrch hynod hon, a unodd bron i 400,000 o ferched Cymru, yn dyst i'n gwerthoedd parhaol fel cenedl heddychlon," meddai.

"Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r gwaith i ddod â'r darn anhygoel hwn o hanes Cymru adref lle mae'n perthyn.

"Mae neges y ddeiseb – sy'n galw am 'gyfraith nid rhyfel' ac am fyd heb wrthdaro – yn parhau i fod yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd ganrif yn ôl."

Y ddeiseb yw canolbwynt yr arddangosfa, ond mae hi hefyd yn cynnwys hanes ymgyrchoedd heddwch eraill gan gynnwys gweithredu gan ferched Comin Greenham.

Mae'r arddangosfa yn benllanw dros ddwy flynedd o waith gan y Llyfrgell Genedlaethol, yn ôl y prif weithredwr Rhodri Llwyd Morgan.

"Ers i Ddeiseb Heddwch Menywod Cymru ddychwelyd i Gymru yn Ebrill 2023, mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi gweithio'n ddiwyd i rannu ei stori.

"Mae'r gwaith catalogio, digido, trawsysgrifio a chreu gwefan yn golygu bod gan bobl o bedwar ban y byd fynediad i'r adnodd arbennig yma, er mwyn chwilio am eu hen nain, modryb neu rywun oedd yn byw ar eu stryd.

"Bu stori'r ddeiseb, a'r menywod tu ôl iddi, ar goll am rhy hir - ond dim mwy."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.