Dathlu 60 mlynedd ers trip 'anhygoel' o Dregaron i Ddenmarc

Roedd croeso "twymgalon" i'r disgyblion yn Nenmarc, yn ôl Wynne Melville Jones
- Cyhoeddwyd
Go brin bod yr un trip ysgol wedi aros yn y cof nac wedi ei ddathlu gymaint â thaith côr disgyblion Ysgol Uwchradd Tregaron i Copenhagen yn 1965.
Nos Sadwrn bydd y rhai oedd ar y daith yn hel atgofion am y trip unwaith eto.
Mae'n ddathliad sydd wedi bod yn digwydd yn achlysurol - y tro diwethaf yn 2005.
"Wrth i ni fynd yn hŷn mae rhywbeth mwy arbennig am y dathliad bob tro - a bellach ry'n ni gyd yn ein saithdegau," meddai'r cyn-ohebydd John Meredith a oedd ar y daith ac sy'n rhannol gyfrifol am drefniadau'r dathliad eleni.
"Roedd y daith yn nodi 20 mlynedd ers sefydlu'r Cenhedloedd Unedig ac mae hynny hefyd yn arwyddocaol eleni rywsut," ychwanegodd.

"Roedd mynd ar daith dramor yn ddigwyddiad mawr yn Nhregaron yn 1965," medd Wynne Melville Jones
"Ryw 50 o ferched oedd yn canu yn y côr ond wedi ystyried holl oblygiadau'r daith sylweddolwyd bod angen cael chwech o fechgyn yr ysgol i ymuno â'r daith er mwyn hwyluso'r llwyfannu, cario'r delyn, cludo'r props a chadw morâl y merched yn uchel," meddai Wynne Melville Jones oedd hefyd ar y daith.
"I nifer o ysgolion mae'n bosib na fyddai mynd am daith dramor yn rhywbeth ofnadwy o anghyffredin," ychwanegodd.
"Ond pan oeddwn i yn fy arddegau ac yn ddisgybl yn Ysgol Sir Tregaron yn y 60au roedd mynd ar y trên o stesion Tregaron i Aberystwyth ar ddydd Sadwrn i flasu bwrlwm bywyd y dre yn y caffis a'r pictiwrs yn gallu bod yn dipyn o antur!
"Cymdeithas draddodiadol, ynysig a hen ffasiwn oedd Tregaron ac roedd teithio yn anodd ac yn drafferthus a'r gymdeithas yn glòs.
"Ond roedd yn yr ysgol gantorion o fri ac felly dyma'r athrawes gerdd Mrs Ethel Jones yn mynd ati i drefnu taith ryngwladol ac fel disgybl oedd yn astudio daearyddiaeth yn y chweched ces innau helpu gyda'r trefniadau."

Y tro diwethaf i'r côr a'r cynorthwywyr ddathlu'r daith oedd yn 2005
Bu'r daith - a oedd yn cynnwys mynd ar fws, ar y fferi a thaith hir mewn trên dros nos i gyrraedd Copenhagen ac yna perfformio mewn eglwysi a neuaddau mawr - yn hynod lwyddiannus.
"Roedd y bwyd yn wahanol iawn i brydiau arferol Ceredigion – pysgod a chig amrwd, brechdanau agored a rhyfedd meddwl mai yno y ces i flasu iogwrt ac yfed fodca am y tro cyntaf – addysg yn wir," ychwanegodd Wyn Mel.
"Bu'r cyngherddau a'r perfformiadau yn llwyddiant mawr a chroeso twymgalon ymhob lle.
"Erbyn hyn mae'r athrawon i gyd wedi ein gadael ac mae aelodau'r cȏr yn eu saithdegau ond mae'r profiad yn dal yn fyw a sŵn y gân yn ein clustiau."
"Dyw e ddim yn swnio yn beth mawr yn y byd sydd ohoni heddi gyda phawb yn gyfarwydd â theithio ond i blant Tregaron ro'dd e'n brofiad anhygoel - un ni'n parhau i siarad amdano ac am rai blynyddoedd eto gobeithio," ychwanegodd John Meredith.
"Ni'n edrych ymlaen at hel atgofion unwaith eto am y daith anhygoel hon eto nos Sadwrn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.