Dyn wedi'i anafu ar ôl neidio o glogwyn 25m i lyn yn Eryri

Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i roi cymorth yn Llyn Gwynant am tua 13:50 brynhawn Sul
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei gludo i Ysbyty Stoke ar ôl cael ei anafu wrth neidio o glogwyn i mewn i lyn yn Eryri.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i roi cymorth yn Llyn Gwynant ger Beddgelert am tua 13:50 brynhawn Sul.
Y gred ydy fod y dyn wedi neidio o tua 25 metr uwchben y dŵr a tharo craig, gan anafu ei goesau'n ddifrifol a disgyn i'r dŵr yn anymwybodol.
Cafodd y dyn, o ganolbarth Lloegr, ei achub o'r llyn gan ddau berson ar ganŵ cyn i'r gwasanaethau brys ei gyrraedd.

Roedd y dyn yn un o ddau oedd wedi dod i Lyn Gwynant er mwyn neidio oddi ar wyneb craig i ddyfnderoedd y llyn.
Eu bwriad oedd ail-adrodd yr hyn a wnaethant yno ddegawd yn ôl, meddai Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, ond fe neidiodd y cyntaf ohonyn nhw o'r man anghywir.
Cafodd Heddlu'r Gogledd, y Gwasanaeth Tân, Ambiwlans Awyr Gogledd Cymru, hofrennydd Gwylwyr y Glannau a thimoedd achub mynydd Llanberis a Dyffryn Ogwen eu galw i'r digwyddiad.
Cafodd y dyn oedd wedi'i anafu ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr, tra cafodd yr ail ddyn ei gludo o'r creigiau gyda rhaffau achub.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.