Gyrrwr 'wedi colli rheolaeth' cyn gwrthdrawiad pier Biwmares - cwest

Yr olygfa yn Stryd Alma, Biwmares yn dilyn y gwrthdrawiad ar 28 Awst y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaethau tri o bobl fu farw mewn gwrthdrawiad ger pier Biwmares yn 2024 wedi clywed fod gyrrwr y car wedi "colli rheolaeth o'i gerbyd".
Humphrey John Pickering, cyn-lyfrgellydd 81 oed o Sir Amwythig oedd erbyn hynny yn byw yn ardal Bae Colwyn, oedd yn gyrru'r cerbyd, a bu farw yn y digwyddiad.
Bu farw Stephen a Katherine Burch, y ddau yn 65, o Alcester, Sir Warwick, yn y gwrthdrawiad ar Stryd Alma ar ddydd Mercher, 28 Awst y llynedd hefyd.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon nad oedd gan Mr a Ms Burch unrhyw obaith o osgoi'r gwrthdrawiad, a bod Mr Pickering yn gyrru ar gyflymder "ymhell tu hwnt" i'r terfyn cyflymder ar y pryd.
'Pwyso'r pedal anghywir'
Clywodd y cwest nad oedd Mr Pickering yn gwisgo ei wregys diogelwch yn ystod y gwrthdrawiad ac yn gyrru ar gyflymder "ymhell y tu hwnt" i'r terfyn cyflymder o 20mya ar y pryd.
Yn ôl tystiolaeth a ddarllenwyd yn y llys, roedd Mr Pickering wedi pwyso'r pedal anghywir ar y cerbyd a doedd dim modd iddo gywiro ei gamgymeriad mewn pryd.
Roedd cerbyd Mr Pickering wedi cyflymu o 25mya i 55mya yn y pum eiliad cyn y gwrthdrawiad.
Fe wnaeth osgoi car wedi'i barcio ar ochr y ffordd a chert oedd yn cael ei dynnu gan geffyl.
Wrth iddo "wyro'n afreolaidd", clywodd y cwest i gar Audi Mr Pickering daro Mr a Ms Burch cyn taro blaen tŷ teras, gan achosi difrod strwythurol.

Roedd Katherine a Stephen Burch yn dod o Alcester, Sir Warwick
Clywodd y cwest fod y gwrthdrawiad wedi digwydd am 14:45 ac roedd hi'n 15:21 erbyn i barafeddygon gofnodi bod Mr a Ms Burch wedi marw.
Roedd teulu'r pâr priod wedi codi pryderon ynghylch amgylchiadau'r digwyddiad.
Dywedodd y patholegydd Dr Mark Atkinson fod Stephen Burch wedi dioddef anafiadau allanol difrifol i rannau o'i draed yn bennaf, a rhywfaint o anaf i'w freichiau. Yn fewnol, roedd ganddo sawl toriad i'w belfis, ei benglog, ei asennau a'i asgwrn cefn.
Dywedodd fod Katherine Burch wedi cael niwed difrifol iawn i rannau isaf ei choesau, gyda thoriadau difrifol i'w hasennau.
Cofnodwyd fod y ddau wedi marw o ganlyniad i anafiadau lluosog.
Aeth y patholegydd ymlaen i nodi fod Mr Pickering wedi cael ychydig iawn o anafiadau allanol ond roedd ganddo anafiadau difrifol i'w frest a'i asennau.
Cofnodwyd ei fod wedi marw o ganlyniad i anafiadau i'r frest.
Sŵn 'fel tân gwyllt yn cael ei danio'
Clywodd y cwest nifer o adroddiadau gan dystion oedd yn bresennol ar ddiwrnod y gwrthdrawiad, dywedodd un tyst eu bod wedi gweld Audi arian wedi'i barcio yn y dref.
Dywedon nhw fod y gyrrwr wedi symud y cerbyd ymlaen yn raddol a bod gwraig y gyrrwr y tu allan i'r cerbyd gan nad oedd lle iddi allu mynd mewn i'r car oedd wedi'i barcio'n agos at y wal.
Ychwanegodd y llygad dyst fod y car wedi cyflymu'n sydyn rownd y gornel, a'i fod wedi achosi i'r llygad dyst ac aelod o'i deulu i syrthio i'r llawr - ni chawson nhw unrhyw anafiadau.
Mi ddywedon nhw eu bod wedi clywed sŵn uchel a gweld bod y car wedi taro mewn i dŷ ar ben Stryd Alma.
Disgrifiodd llygad dyst arall fod y sŵn "fel tân gwyllt yn cael ei danio".

Cafodd adeilad ar Stryd Alma ei ddifrodi yn y gwrthdrawiad
Roedd nifer wedi dweud bod Mr Pickering yn ymwybodol wrth i'r car symud lawr Stryd Alma, a bod ganddo "edrychiad blin ar ei wyneb", ac nad oedd yn gwisgo ei wregys diogelwch ar y pryd.
Dywedodd llygad dyst arall eu bod wedi gweld dyn a dynes oedrannus ar y llawr yn anymwybodol, gan ddweud fod y sefyllfa yn "anhrefn llwyr, ac yn sioc enfawr".
Yn ôl Meilir Hywel, ymchwilydd gwrthdrawiadau fforensig gyda Heddlu Gogledd Cymru, doedd y tywydd na chyflwr y ffordd yn ffactorau, ac mai'r esboniad mwyaf tebygol oedd "camddefnydd y pedal", gyda Mr Pickering wedi "ymateb trwy ddefnyddio'r pedal gyrru yn hytrach na'r pedal brêc".
Wrth nodi ei chasgliadau, dywedodd crwner gogledd Cymru, Kate Robertson fod y tri pherson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd.
Ychwanegodd mai dyma oedd "un o'r achosion mwyaf trawmatig i mi ddod ar eu traws" a bod pawb "wedi dangos urddas".
Estynnodd ei chydymdeimlad dwysaf i'r teuluoedd yn eu colled.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2024
- Cyhoeddwyd3 Medi 2024
- Cyhoeddwyd4 Medi 2024