Person wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Llŷn

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng pentrefi Penllech a Thudweiliog
- Cyhoeddwyd
Mae person wedi cael ei hedfan i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn ddydd Llun.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar y B4417 rhwng Penllech a Thudweiliog am 17:15, yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad rhwng dau gerbyd.
Cafodd un person ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Stoke gydag anafiadau sy'n cael eu disgrifio fel rhai "difrifol".
Fe gafodd dau berson arall eu cludo i Ysbyty Gwynedd wedi'r digwyddiad hefyd.
Mae Heddlu'r Gogledd yn galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i swyddogion i gysylltu â'r llu.