Dwy ferch yn osgoi carchar wedi cyfres o ymosodiadau

Cafodd y ddwy ferch eu dedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae dwy ferch 14 ac 13 oed wnaeth ymosod ar eraill mewn ysgol a choleg ym Mhen-y-bont wedi cael gwybod bod dedfryd o garchar wedi bod yn "opsiwn go iawn".
Ond fe wnaeth y ddwy – na ellir eu henwi am resymau cyfreithiol – osgoi dedfryd o garchar ar ôl ymosod ar sawl person a'u cicio yn y pen, eu gorfodi i gusanu eu traed, a'u blacmelio.
Roedden nhw wedi ymosod ar bedwar dioddefwr mewn pedwar digwyddiad gwahanol rhwng 2 a 4 Mawrth, yn Ysgol Brynteg, Coleg Penybont, Gorsaf Reilffordd Y Pîl, a lleoliad arall ym Mhen-y-bont.
Fe wnaeth y ddwy ferch, sydd o Ben-y-bont, bledio'n euog i bum cyhuddiad yr un – dau o ymosod gan achosi niwed corfforol, dau o ymosodiad cyffredin, ac un o flacmel.
Cicio dioddefwr 'sawl gwaith'
Cafodd y ferch 14 oed orchymyn ailsefydlu ieuenctid o 18 mis gan y llys ieuenctid yn Llys Ynadon Caerdydd, tra bod y ferch 13 oed wedi cael gorchymyn atgyfeirio o 12 mis.
Clywodd y llys fod un dioddefwr wedi cael ei gwthio i'r llawr a'i chicio "sawl gwaith", gan gynnwys yn y pen, a'i bod wedi dioddef o gyfergyd, cleisio a thrwyn gwaedlyd.
Mewn digwyddiad arall, fe ddywedodd y ddwy ferch wrth un dioddefwr i gusanu eu hesgidiau neu fe fydden nhw'n cael cweir.
Cafodd y digwyddiad ei ffilmio, ac fe fynnodd y merched bod y dioddefwr yn talu £60 iddyn nhw neu byddai'r fideo'n cael ei rannu.
Ddydd Mawrth cafodd fideos o dri o'r digwyddiadau rhwng y ddwy ferch a'u dioddefwyr – wedi eu ffilmio ar ffonau symudol – eu chwarae yn y llys.
Roedd un fideo yn dangos y merched yn gorfodi un dioddefwr i gusanu eu traed, cyn iddyn nhw ymosod arni a'i tharo sawl gwaith yn ei phen.
Mewn un arall, fe wnaeth y merched ymosod ar ddioddefwr mewn coridor ysgol, gan ei chicio a'i tharo droeon.
Roedd trydydd fideo yn dangos y merched yn gorfodi rhywun i gusanu eu traed mewn maes parcio, cyn cerdded i ffwrdd.
'Poeni ac yn ofni'
Clywodd y llys ddatganiadau gan y pedwar dioddefwr, yn ogystal â rhai o'u rhieni, am effaith y digwyddiadau arnyn nhw.
Dywedodd sawl un eu bod yn cael trafferth cysgu, wedi colli'r awydd i fwyta, ac yn poeni am fynd allan o'r tŷ ers yr ymosodiadau.
Dywedodd un dioddefwr ei bod hi'n "poeni ac yn ofni" gweld y ddwy ferch eto, gan deimlo "na fydden nhw'n oedi cyn ymosod arna i eto".
Clywodd y llys bod dioddefwr arall wedi niweidio'i hun a cheisio cymryd gorddos, pan gafodd manylion eu rhannu am y digwyddiad y bu hi'n rhan ohono.
Dywedodd un rhiant nad oedd ei merch "yn teimlo'n saff unrhyw le bellach", gan ofyn i'r llys: "Beth mae'n mynd i'w gymryd i rywbeth gael ei wneud?"
Dywedodd un arall fod ei merch "i fod yn saff dan do'r ysgol", ond ei bod hi nawr yn cael pyliau o banig yn dilyn y digwyddiad.
Carchar yn 'gwneud mwy o niwed na lles'
Fe wnaeth sawl un hefyd fynegi pryder fod y diffynyddion wedi torri amodau eu mechnïaeth "ar sawl achlysur", gydag un yn awgrymu bod hyn yn teimlo "fel nad ydyn nhw'n poeni, a'u bod nhw'n gwneud beth bynnag maen nhw eisiau".
Clywodd y llys fod yr ysgol a'r coleg bellach wedi rhoi mesurau diogelwch ychwanegol yn eu lle ers yr ymosodiadau.
Yn amddiffyn, dywedodd Daniel Maggs fod y ferch 14 oed wedi "adlewyrchu'n ddwys ar ei gweithredoedd... annerbyniol", ond y byddai ei charcharu yn "gwneud mwy o niwed na lles".
Ychwanegodd Michael Hall, oedd yn amddiffyn y ferch 13 oed, fod ymddygiad ei gleient yn "warthus" ond ei bod wedi dod dan ddylanwad "y bobl anghywir".
Wrth ddedfrydu'r ferch 14 oed, dywedodd cadeirydd yr ynadon Jane Anning fod yr "ymosodiadau a'r sarhad" a gafodd ei achosi "yn awgrymu carchar".
Ond fe benderfynodd ynadon ar yr "un dewis arall" oedd ar gael, gan osod gorchymyn ailsefydlu ieuenctid gyda goruchwylio ac adolygu dwys, a hynny am 18 mis.
Gosodwyd cyrffyw ar y ferch rhwng 21:00 a 07:00, yn ogystal â gorchymyn monitro a gwaharddiad rhag mynd i ardaloedd yn Y Pîl, ac unrhyw leoliad addysg ble nad yw hi'n fyfyriwr.
Dywedodd Ms Anning wrth y ferch 13 oed y byddai dedfryd o garchar hefyd wedi bod yn "gyfiawn" yn ei hachos hi.
Ond roedd hi am gael "pob cyfle i roi eich bywyd ar lwybr gwell", ac fe gafodd orchymyn atgyfeirio o 12 mis.
'Chi sy'n gorfod mynd allan o'u ffordd nhw'
Cafodd y ddwy ferch hefyd orchymyn i beidio cysylltu ag unrhyw un o'r dioddefwyr mewn unrhyw fodd, gan gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol, na chwaith i fynd i'w tai.
Petawn nhw'n eu gweld yn gyhoeddus, meddai'r ynadon, "chi sy'n gorfod mynd allan o'u ffordd nhw - does dim rhaid iddyn nhw fynd allan o'ch ffordd chi".
"Os ydych chi'n torri'r rheolau hyn... byddwch yn dychwelyd i'r llys a bydd y goblygiadau hyd yn oed yn fwy difrifol," meddai Ms Anning.
Cafodd y ddwy hefyd orchymyn i dalu £60 yr un i'w dioddefwyr – swm oedd gyfystyr â'r hyn y gwnaethon nhw geisio blacmelio un ohonynt amdano.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.