Cyhuddo dyn o geisio llofruddio baban yng Ngheredigion

- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio baban yng Ngheredigion.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Y Ferwig, Ceredigion, toc cyn 22:15 nos Fercher, 15 Ionawr, yn dilyn adroddiadau o bryderon am les baban.
Cafodd y plentyn ifanc ei gludo yn syth i'r ysbyty, lle mae'n parhau mewn cyflwr difrifol.
Mae Rhydian Jamieson, 27 o Gwm-cou ger Castellnewydd Emlyn, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio.
Mae Mr Jamieson wedi ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Llun.