Marged Ferch Ifan, dynes gref Eryri
- Cyhoeddwyd
Telynores, reslwr a "chawres" oedd yn byw yn Eryri yn y 18fed ganrif oedd Marged ferch Ifan a ddaeth yn gymeriad chwedlonol oherwydd straeon am ei chryfder rhyfeddol a'i gallu i droi ei llaw at bron unrhyw grefft.
Yn ogystal â gwneud ei thelynau ei hun a reslo dynion iau na hi tan oedd hi yn ei saithdegau yn ôl y sôn, bu Marged yn cadw tafarn yn Nyffryn Nantlle, ac yna'n gweithio fel rhwyfwr ar Lyn Padarn, Llanberis.
Mae eleni'n nodi 230 mlynedd ers ei marwolaeth yn 97 mlwydd oed, er bod rhai yn honni iddi fyw i fod yn 105. Cafodd ei chladdu ar 24 Ionawr, 1793, yn eglwys Llanddeiniolen.
Mae 'na lawer iawn o straeon ar lafar wedi goroesi am Marged a'i henw wedi ei anfarwoli yn yr hen benillion, Marged fwyn ach Ifan.
Cawn y cofnod ysgrifenedig cyntaf amdani gan Thomas Pennant yn ei gyfrolau Tours in Wales.
Roedd Marged yn ddigon o 'seleb' yn ei hoes ei hun i rywun argymell i Thomas Pennant fynd i'w gweld yn 1786 pan oedd ar ei daith o gwmpas Eryri; doedd hi ddim adref pan alwodd ond mae'n nodi beth mae'n glywed gan bobl leol am y wraig sy'n cael ei galw yn "Frenhines y Llyn".
Yn ôl yr hanes roedd yn fawr ac yn dal; yn heliwr gwych gyda'i phac o gŵn ei hun; yn gwneud esgidiau, pedoli ei cheffylau ei hun, adeiladu cychod, gwneud offerynnau a chanu alawon Cymreig. Mae stori iddi godi'r garreg lechfaen anferth dros yr afon i greu Pont y Meibion yn Nant Peris.
Er nad yw yn ei gweld mae Pennant yn ei galw yn "...last specimen of the strength and spirit of the ancient British fair."
Tystiolaeth
Mae'n anodd gwybod faint o'r straeon llafar lleol amdani sydd wedi tyfu o ganlyniad i lyfr Thomas Pennant a faint sydd wedi datblygu yn annibynnol ohono, meddai Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, cyn bennaeth llawysgifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac awdur bywgraffiad Marged yn yr Oxford Dictionary of National Biography.
"Does dim dwywaith bod cnewyllyn o wirionedd yna a mae'n siŵr ei bod hi ddynes gref iawn," meddai Dr Lloyd-Morgan.
"Mae 'na dystiolaeth ddogfennol ohoni ar adeg a lle hefyd."
Wedi ei bedyddio ym Meddgelert roedd yn briod â Richard Morris, dyn bach, eiddil, yn ôl y sôn, oedd hefyd yn canu'r delyn. Roedden nhw'n rhedeg tafarn Talyrni yn Nyffryn Nantlle oedd yn gwasanaethu mwynwyr copr Drws-y-Coed a byddai Marged yn aml yn chwarae'r delyn i'w diddanu.
Wedi cau'r gwaith copr yno symudodd i fyw ym Mhen-llyn ar lan Llyn Padarn, gan adeiladu ei chychod ei hun ac ennill ei thamaid drwy rwyfo mwyn copr o droed yr Wyddfa ar draws Llyn Peris a Phadarn i Gwm-y-Glo i gael ei allforio.
Ar un o'r teithiau hyn mae stori yn honni iddi daflu'r tirfeddiannwr a'r aelod seneddol Thomas Assheton Smith o stâd y Faenol i mewn i'r llyn, yn ôl y son am iddo geisio mynd i'r afael â hi yn rhywiol. Gwrthododd ei godi o'r dŵr nes byddai'n talu arian iddi.
Dywedir bod ganddi dipyn o dymer ac iddi guro ei gŵr ddwywaith.
Merched gwerinol, cryf
Felly oedd hi'n fenyw anarferol iawn yn ei chyfnod neu oes na elfen rywiaethol yn y portread ohoni fel dynes oedd yn wahanol am ei bod yn fawr o gorff a ddim yn ffitio ryw ddelwedd o'r ferch draddodiadol?
Yn ôl Dr Ceridwen Lloyd-Morgan, mae'n debygol ei bod hi'n ddynes eithriadol, ond efallai nad oedd hi'n eithriad llwyr chwaith.
"Yn hytrach na'i bod hi'n eithriad, mae modd edrych arni'r ffordd arall, fel rhywun sydd yn cynrychioli lot o ferched nad ydyn ni wedi cadw eu henwau nhw. Dwi'n gweld hynny fel ffordd mwy cadarahaol o gyflwyno Marged," meddai.
"Roedd merched o'r dosbarth gweithiol, y werin, yn gorfod bod yn gryf. Ac os oeddach chi'n goroesi cael plant - os oeddech chi'n cael plant - ac yn llwyddo i osgoi cael y diciáu, a bod eich calon yn ddigon cryf, wel mi allech chi fynd ymlaen a chyrraedd 90.
"Mae yna lot o'r merched yma dydyn ni ddim yn gwybod amdanyn nhw."
Roedd merched ardaloedd diwydiannol y chwareli a'r gweithfeydd mwyn hefyd yn gorfod ennill cyflog o ryw fath gan nad oedd cyflog y dyn yn unig yn ddigon.
"Doedd dim rhagfarn o gwbl yn erbyn merched yn gweithio, roedd rôl y ferch a'i chyfraniad hi fel uned economaidd i'r teulu yn gwbl, gwbl normal," meddai Dr Lloyd-Morgan.
"A tasa Pennant ddim wedi cael ei annog i fynd i'w gweld hi tybed faint o'i hanes hi fyddai wedi goroesi?"
Efallai bod Marged yn ffigwr oedd yn anarferol am ei bod "yn gallu troi ei llaw at bob math o waith, ei bod hi ddim jyst yn canolbwyntio ar un math o grefft, ei bod hi'n ddigon clyfar i festroli bob math o bethau.
"Ac mae lot o beth mae hi'n ei wneud, fel rhoi'r gorau i gadw'r dafarn am fod y gwaith mwyn yn cau, yn cael ei yrru gan ei sefyllfa economaidd - onid dyna beth mae merched wedi ei wneud ar hyd yr adeg?"
Newid agwedd at ferched
Yn y ganrif wedi marwolaeth Marged ferch Ifan fe wnaeth syniadau oes Fictoria am fywyd teulu gyda'r dyn yn benteulu a'r fenyw yn ei gefnogi yn dawel gartref drwy gadw tŷ a magu'r plant, gael dylanwad mawr gan newid agwedd cymdeithas at le'r ferch hyd at heddiw.
Ac yng Nghymru, efallai bod elfen arall wedi dylanwadu ar y rhagfarn am ymddygiad merched allai fod wedi gwneud i ffigwr fel Marged ymddangos yn fwy anarferol a 'gwyllt' ar ôl ei dydd.
"Tybed a yw Brad y Llyfrau Gleision wedi dal i wenwyno y ffordd mae pobl wedi meddwl am fywyd merched yn arbennig?" ystyria Dr Lloyd-Morgan.
Yn ogystal â beirniadu'r iaith Gymraeg, roedd adroddiad addysg y Llyfrau Gleision yn hynod o feirniadol o ferched Cymru ac yn eu cyhuddo o fod yn anfoesol..
"Efallai efo anghydffurfiaeth, yn enwedig yn ail hanner y 19eg ganrif, sy'n adweithio i holl trawma y Llyfrau Gleision, bod 'na ymgais torfol ar ran y dosbarth canol gwrywaidd i drio creu delweddau oedd yn fwy cydnaws à delweddau y dosbarth canol Saesneg oes Fictorianaidd o beth oedd dynes i fod, sut oedd hi i fod i ymddwyn a gwisgo," meddai.
'Medri, mi fedri'
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod felly sut ddylen ni ddathlu a chofio rhywun fel Marged ferch Ifan?
Fel rhywun oedd yn cynrychioli yr holl ferched tebyg sydd heb eu cofnodi ac fel ysbrydoliaeth i fynd amdani, meddai Dr Lloyd-Morgan gan ddyfynnu un arall o'i harwresau hi, sef Ellen Hughes o Lanengan oedd yn ysgrifennu am hawliau merched i gylchgronau Y Frythones ac Y Gymraes..
"Un o'r pethau mae Ellen Hughes yn ei ddweud yn un o'i hysgrifau hi yn y 19eg ganrif yw 'Medri, mi fedri'.
"Bydden i'n ategu beth fyddai Ellen Hughes yn ei ddweud - medri, mi fedri - jyst dos amdani!"
Hefyd o ddiddordeb: