Rhybudd melyn am law trwm a stormydd ledled Cymru

Rhybudd tywyddFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhybudd melyn mewn grym tan 18:00 ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd taranllyd i Gymru tan nos Sadwrn.

Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r tywydd garw achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr.

Mae'n bosib y bydd trenau yn rhedeg yn hwyr ac y bydd cyflenwadau pŵer yn cael eu colli am gyfnodau.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn annog pobl i fod yn ofalus wrth yrru, ac i osgoi teithio os yn bosib.

Mae disgwyl y tywydd garw yn gynnar fore Sadwrn yn y de cyn symud tua'r gogledd ac fe allai gael effaith ar ddigwyddiadau fel Tafwyl yng Nghaerdydd, a Sioe Aberystwyth.

Beth yw'r rhybuddion?

Mae gan rybudd melyn debygolrwydd isel, ond fe allai greu trafferthion teithio a llifogydd mewn mannau.

Mae'n bosib y bydd toriadau pŵer, a rhybudd bod siawns y gallai llifogydd cyflym a dwfn achosi perygl i fywyd.

Mae'n debygol y bydd 10-20 mm o law yn cwympo mewn rhai ardaloedd o fewn awr, gyda'r potensial i 60-80mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd, gyda chenllysg a gwyntoedd cryfion hefyd yn bosib.

Pynciau cysylltiedig