Sut mae Cymry Llundain yn ceisio rhoi hwb i'r Gymraeg?
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iaith yn sefydlu cangen yn Llundain er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg.
Yng Nghymru, mae'r nifer sy'n siarad Cymraeg wedi gostwng i'w lefel isaf ers wyth mlynedd, yn ôl ffigyrau diweddaraf arolwg y boblogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ceisio mynd i'r afael â'r broblem, drwy sefydlu cell newydd o'r mudiad yn Llundain.
Mae'n golygu bod grŵp o aelodau yn dod at ei gilydd yn gyson i drefnu gweithgareddau o fewn y gymuned.
Ers canrifoedd, mae Cymry wedi ymgartrefu yn Llundain ac maen nhw'n awyddus i barhau i gynnal y cysylltiad hwnnw.
Mae Caryl wedi bod yn flaengar wrth sefydlu'r gell newydd.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Bwriad y gymdeithas yw codi ymwybyddiaeth pobl yn Lloegr am bethau fel yr iaith a sut mae ail dai yn achosi problemau i'r Gymraeg a'i rhwystro rhag bod yn iaith o fewn cymunedau.
"Mae pethau ni'n gallu gwneud yn Llundain i helpu'r gymdeithas Gymraeg."
Symbol o fwrlwm y Gymraeg yn Llundain yw Côr Meibion Gwalia.
Cafodd y côr ei sefydlu yn 1967, gan gynnig cyfle i Gymry Llundain ymarfer eu hiaith a phrofi diwylliant Cymru.
Mae Madoc Batcup yn aelod ffyddlon ohono, ac yn gwybod pa mor fuddiol ydy'r côr i'r aelodau.
"Mae pethau fel y côr yma yn Llundain yn bwysig iawn i roi cymorth i bobl sydd eisiau defnyddio'r Gymraeg," meddai.
"Mae'r côr hefyd yn denu pobl eraill i ymddiddori yn yr iaith."
'Neis cysylltu eto gyda'r Gymraeg'
Mae'r côr wedi rhoi cyfle i Richard Hopkin ymarfer ei iaith yn Llundain, ac ail-gysylltu gyda'i wreiddiau yng Nghlydach, Abertawe.
Dywedodd: "Symudais o Gymru i'r brifysgol [yn Llundain] ac yna symud i fyw yma.
"Fe wnaeth e gymryd rhyw 20 mlynedd i mi sylweddoli, chi'n gwybod beth, bydde fe'n neis i gysylltu eto gyda phethau Cymraeg.
"Nawr dwi 'di bod yma yn y côr ers 18 mlynedd."
Ymunodd Simon Gregory â'r côr yn 2019, wedi iddo benderfynu ei fod am ddysgu un o ieithoedd brodorol Prydain.
Wedi ei fagu yn Awstralia, symudodd i Loegr ac mae bellach yn gwbl rugl yn y Gymraeg.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2024
Eglurodd: "Ar ôl i fi glywed am brosiect miliwn [o siaradwyr Cymraeg] ar y radio, dwi wedi penderfynu cefnogi iaith newydd, math newydd o iaith a chefnogi diwylliant Prydeinig.
"Mae'r côr yn rhoi cyfle i mi i ymarfer yr iaith yn rheolaidd a hefyd canu'r ffefrynnau fel 'Myfanwy' a 'Gwahoddiad'."
Fel nifer o'r rheiny sy'n rhan o ddiwylliant Cymreig Llundain, mae Simon yn benderfynol o chwarae ei ran yn yr her o gyrraedd miliwn o siaradwyr.
"Dim ond pan mae pobl yn defnyddio'r iaith fydd hynny'n bosib - y mwyaf o bobl sy'n defnyddio'r iaith, fwy sicr fydd hi."